S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C A BBC Cymru Wales yn cyhoeddi drama gomedi dywyll newydd, Pren ar y Bryn/Tree on a Hill

15 Mawrth 2023

Mae S4C a BBC Cymru Wales wedi comisiynu drama gomedi dywyll newydd o'r enw Pren ar y Bryn/Tree on a Hill.

Mae'r gyfres yn cael ei chynhyrchu gan gwmni Fiction Factory, sy'n rhan o grŵp Tinopolis, mewn cydweithrediad ag All3Media International a gyda buddsoddiad gan Cymru Greadigol.

Wedi'i hysgrifennu a'i greu gan Ed Thomas (Y Gwyll/Hinterland, House of America), mae'r gwaith ffilmio wedi dechrau ar y gyfres chwe rhan.

Mae'r criw ar leoliad yn Ystradgynlais ger yr Afon Tawe, ble magwyd Ed Thomas.

Mae'r cymeriadau Margaret a Clive Lewis yn ganolog i stori Pren ar y Bryn/Tree on a Hill sy'n llawn hiwmor a hurtrwydd.

Mae bywydau tawel yr arwyr annhebygol hyn yn cael eu newid mewn amrantiad yn dilyn digwyddiad sy'n golygu eu bod ar ochr anghywir y gyfraith.

Wedi'i leoli mewn tref a neilltuwyd ar gyrion dyffryn, dyma stori am werthoedd sy'n dadfeilio, gwytnwch a thragwyddoldeb fel allwedd i ryddid.

Gyda chast Cymreig anhygoel yn serennu, mae Rhodri Meilir (In My Skin, Craith/Hidden) yn chwarae Clive Lewis a Nia Roberts (Craith/Hidden, Yr Amgueddfa) yw Margaret.

Yn ymuno â nhw bydd Richard Harrington (Y Gwyll/Hinterland, The Crown, Gangs of London), Hannah Daniel (Un Bore Mercher/Keeping Faith, Y Golau/The Light In The Hall), Richard Lynch (Pobol y Cwm), Suzanne Packer (Casualty, Bang), William Thomas (Craith/Hidden, Torchwood), Steffan Cennydd (Pembrokshire Murders, Yr Amgueddfa) a Jacob Ifan (S.A.S Rogue Heroes, Bang).

Fiction Factory o Gaerdydd sydd y tu ôl i'r gyfres newydd hon, yr un tîm cynhyrchu ag oedd yn gyfrifol am y gyfres drosedd canmoladwy, Y Gwyll/Hinterland.

Meddai Ed Thomas, yr awdur a chrëwr:

"Mae'n wych cael y cyfle i ddweud y stori fach fawr yma am newid, sydd wedi ei lleoli a'i saethu yn y lle ges i fy magu ar gyrion y Bannau Brycheiniog yng Nghwm Tawe.

"Mae'n fyd ble dim ond gwytnwch a dealltwriaeth o'r absẃrd sy'n eich galluogi i oroesi sefyllfa anobeithiol - ond nid un difrifol."

Dywedodd Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru Wales:

"Mewn blwyddyn sy'n argoeli i fod y gorau eto o ran dramâu Cymreig ar y BBC, dyma un o'r sgriptiau arbennig yna sy'n sefyll allan - Ed Thomas ar ei orau.

"Mae'n gymysgedd cyfoethog o hiwmor tywyll a'r hurt gyda chymeriadau na wnewch byth eu hanghofio.

"Rwy'n edrych ymlaen at weld y cast anhygoel yma'n dod â geiriau Ed yn fyw."

Dywedodd Gwenllian Gravelle, Pennaeth Sgriptio S4C:

"Bydd Pren ar y Bryn/Tree on a Hill yn dod â digonedd o ddrygioni a hiwmor tywyll i'r sgrin.

"Rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth unwaith eto gyda Fiction Factory, BBC Cymru Wales a Cymru Greadigol ar gyfer y comisiwn arloesol hwn."

Ychwanegodd Maartje Horchner o All3Media International:

"Ers helpu Fiction Factory i lansio Y Gwyll/Hinterland i'r byd bron i ddeng mlynedd yn ôl, gan sefydlu Cymru Noir fel genre byd-eang, rydym wedi'n swyno â thalent greadigol Ed Thomas.

"Rydym wrth ein boddau yn partneru eto, nawr, ar Pren ar y Bryn/Tree on a Hill."

Ychwanegodd Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Cymru Greadigol:

"Mae'n wych cefnogi S4C a BBC Cymru Wales gyda'r ddrama gefn wrth gefn hon.

"Mae'n un o chwe drama y bydd Cymru Greadigol yn ei gefnogi dros y flwyddyn nesa, i'w darlledu ar y BBC ac S4C.

"Trwy ddarparu cyllid a chefnogaeth, rydym yn falch iawn bod hyn yn galluogi mwy a mwy o ddramâu i gael eu cynhyrchu yng Nghymru, gan ddefnyddio ein cyfleusterau, creu cyfleoedd i griwiau a hyfforddeion ac i arddangos ein lleoliadau Cymreig trawiadol."

Dechreuodd y gwaith ffilmio ar 13 Chwefror 2023. Bydd Pren ar y Bryn/Tree on a Hill yn cael ei ddarlledu ar S4C, S4C Clic, BBC One ac iPlayer.

All3Media International sy'n gofalu am ddosbarthiad rhyngwladol a chefnogir y cynhyrchiad gan Lywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?