S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn dyblu’r gefnogaeth i bêl-droed y menywod yng Nghymru

25 Awst 2023

Mae S4C yn cynyddu ei ymrwymiad i bêl-droed menywod, gan fwy na dyblu y nifer o ddarllediadau byw eleni, ac am y tro cyntaf erioed, yn darlledu 3 cystadleuaeth ddomestig ac un cystadleuaeth ryngwladol pêl-droed menywod Cymru.

Y dair gystadleuaeth fydd y Brif Adran Premier Genero, Tlws yr Adran Genero a Cwpan Cymru Bute Energy, yn ogystal â darlledu uchafbwyntiau'r gemau rhyngwladol yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Mi fydd tymor yr Adran Premier Genero yn cychwyn gyda Wrecsam yn erbyn Abertawe ac mi fydd y gêm i'w gweld ar S4C ar 17 Medi gyda'r gic gyntaf am 5.45pm. Dyma fydd gêm gyntaf tîm pêl-droed menywod Wrecsam yn y Brif Adran ar ôl ennill dyrchafiad llynedd.

Bydd Sioned Dafydd yn cyflwyno, gyda'r cyn-chwaraewyr rhyngwladol Gwennan Harries a Katie Sherwood yn dadansoddi fel rhan o dîm Sgorio.

Meddai Sioned:

"Mae poblogrwydd gemau pêl droed menywod wedi cynyddu gymaint, ac mae'n wych fod S4C yn gallu adlewyrchu'r diddordeb a'r safon gwych sydd yno ar draws gaeau pêl droed Cymru ar y sianel.

"Mae'n fraint enfawr cael bod yn rhan o dîm anhygoel Sgorio sydd mor frwdfrydig dros hybu gêm y menywod yma yng Nghymru.

"Mae'r gêm hon rhwng Wrecsam ac Abertawe am fod yn achlysur a hanner – gêm gyntaf Wrecsam yn y Brif Adran yn erbyn un o'r clybiau fwyaf llwyddiannus yn hanes y gynghrair, Abertawe. Dyma ddau dîm sydd yn cynnwys chwaraewyr safonol ac arbennig. Mae'n addo i fod yn dipyn o achlysur yn y Graig."

Meddai Lowri Roberts, Pennaeth Pêl-droed Merched a Menywod gyda Cymdeithas Pêl-droed Cymru:

"Er mwyn creu gêm gyfartal, mae'n rhaid i bawb allu gweld gêm y menywod yn weladwy ar ein sgrîn, a bod merched ifanc yn gallu gweld eu hunain yn y gêm.

"Mae ymrwymiad S4C i ddangos fwy o gemau eleni yn mynd i helpu ni i dyfu'r gêm dros y wlad. A gyda nifer or clybiau yn yr Adran Premier Genero yn symud i fod yn semi-pro, mi fydd y safon yn parhau i wella pob blwyddyn. Am gêm gyffrous i ddechrau!"

Meddai Geraint Evans, Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi S4C:

"Rydym ni'n falch iawn i roi mwy o sylw i bêl-droed menywod ar S4C. Mae'r diddordeb yn y gêm yn tyfu, mae'r safon yn codi ac mae dyletswydd arnom ni i roi llwyfan teilwng i'r chwaraewyr.

"Law yn llaw â'r uchafbwyntiau o gemau rhyngwladol menywod Cymru, rydyn ni'n gobeithio y bydd S4C yn medru ysbrydoli mwy fyth o ferched i chwarae a dilyn pêl-droed."

Pob nos Lun, mi fydd uchafbwyntiau un gêm o'r Brif Adran Genero i'w gweld ar raglen Sgorio.

Ac yn ogystal â hyn, mi fydd S4C yn darlledu uchafbwyntiau pob un o chwech gêm Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd y tymor yma, gan gychwyn gyda Gwlad yr Iâ v Cymru ar 22 Medi.

Adran Premier Genero, Wrecsam v Abertawe - 17 Medi 17:30

Cynhyrchiad Rondo ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?