S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C a Media Cymru yn lansio rhaglen hyfforddi a chronfa ddatblygu i dargedu fformatau byd-eang

21 Tachwedd 2023

Mae S4C yn gweithio mewn partneriaeth â'r Consortiwm arloesi cyfryngau Media Cymru i gynnig rhaglen hyfforddi arbenigol am ddim ar greu, ariannu, pecynnu a gwerthu fformatau byd-eang a fydd yn apelio at wylwyr teledu ledled y byd.

Yn ogystal, bydd cronfa gystadleuol ar gael i gyfranogwyr, gyda hyd at £10,000 mewn cyllid ymchwil a datblygu ar gael ar gyfer wyth prosiect gwahanol.

Bydd y cyfle, a ddatblygwyd gan bartner Media Cymru, Prifysgol De Cymru, yn canolbwyntio ar syniadau fformat heb sgript. Yn dilyn llwyddiannau fformat diweddar gyda rhaglenni fel The Great House Giveaway (Tŷ Am Ddim), Gwesty Aduniad (Gwesty Aduniad) a Take a Hike (Am Dro), mae S4C yn gweithio gyda'r Consortiwm i ddarganfod a datblygu hits fformat byd-eang y dyfodol.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus i'r rhaglen yn derbyn hyfforddiant gan Grand Scheme Media yn ogystal â briffiau wedi'u targedu a gwybodaeth am y farchnad. Mae camau pellach y cynllun yn cynnig cyfleoedd i wneud cais am gyllid datblygu sylweddol y gellir cystadlu amdano a chymorth ychwanegol, gyda'r gobaith o gael o leiaf un syniad llwyddiannus i'r cyfnod peilot.

Ariennir y rhaglen hon yn llawn gan Media Cymru, ac fe'i ddarperir mewn partneriaeth â Grand Scheme Media ac S4C.

Dywedodd Iwan England, Pennaeth Di-Sgript S4C: "Yn ddiweddar rydym wedi gweld twf yng ngwerthiant byd-eang fformatau'r DU, ac mae cynhyrchwyr yng Nghymru wedi dangos awydd i ddatblygu a chynhyrchu cyfresi heb eu sgriptio a all weithio i gynulleidfaoedd lleol a theithio i diriogaethau eraill. Rwy'n gyffrous i fod yn gweithio gyda Media Cymru i sicrhau bod gwneuthurwyr rhaglenni'n cael eu cefnogi gyda hyfforddiant, gwybodaeth am y farchnad ac yn bwysicaf oll, buddsoddiad mewn datblygiad."

Dywedodd Lee Walters, Rheolwr Ariannu Media Cymru: "Mae Media Cymru, gyda phartneriaid Consortiwm Prifysgol De Cymru – sy'n arwain ein gwaith Sgiliau a Hyfforddiant – yn falch iawn o gael gweithio ochr yn ochr ag S4C i gynnig rhaglen hyfforddi Fformatau Byd-eang i'r diwydiant o 2024.

"Mae hwn yn faes twf gwirioneddol o fewn y sector ac mae ganddo'r potensial i roi fformatau cwmnïau cynhyrchu annibynnol Cymreig ar lwyfan y byd. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld y syniadau sy'n cael eu sbarduno drwy hyfforddiant gyda Grand Scheme Media ac yna cyllid ymchwil a datblygu (Y&D) gan Media Cymru."

Mae gwybodaeth am sut i wneud cais am le ar y rhaglen hyfforddi ar gael yma: https://culture.research.southwales.ac.uk/research/media-cymru/media-cymru-training-global-formats/

Bydd y broses ymgeisio yn cau ddydd Gwener 8 Rhagfyr.

Nodiadau i Olygyddion

Rhaglen gydweithredol yw Media Cymru sydd â'r nod o droi sector cyfryngau Caerdydd a'r brifddinas-ranbarth gyfagos yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer arloesi yn y cyfryngau gyda ffocws ar dwf economaidd gwyrdd a theg. Prifysgol Caerdydd sy'n arwain y rhaglen fuddsoddi strategol hon, sy'n dwyn ynghyd 23 o bartneriaid cynhyrchu, darlledu, technoleg, prifysgol ac arweinyddiaeth leol am y tro cyntaf i roi hwb sylweddol i arloesedd yn y cyfryngau.

Partneriaid y Consortiwm:

Ariennir Media Cymru drwy gyllid gwerth £22 miliwn gan gronfa Strength in Places Ymchwil ac Arloesi y DU, £3 miliwn gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, £1 filiwn gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, a £23 miliwn o arian cyfatebol gan bartneriaid diwydiant a phrifysgolion.

media.cymru/cym

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?