S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn fyw ar S4C

31 Ionawr 2024

Fe fydd S4C yn darlledu pob gêm Cymru yn fyw ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, yn ogystal â phob gêm Cymru Dan 20.

Sarra Elgan fydd yn cyflwyno, gyda Lauren Jenkins yn gohebu, a Gareth Charles a Gwyn Jones yn ôl yn y blwch sylwebu.

Yn ymuno â nhw trwy gydol y gystadleuaeth fel rhan o'r tîm dadansoddi, bydd cyn-chwaraewyr rhyngwladol Cymru Rhys Priestland, Jamie Roberts, Andrew Coombs, Jonathan Davies, Sioned Harries a Nicky Robinson.

Meddai Sarra Elgan:

"Mae pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni yn dilyn yn gyflym ar ôl Cwpan Rygbi'r Byd ac mae yna dipyn o her yn wynebu tîm Warren Gatland.

"Eleni mae llwyth o enwau mawr rygbi Cymru fydd ddim yn rhan o'r garfan, oherwydd anafiadau, ymddeoliad neu, fel yn achos Louis Rees-Zammit, oherwydd ei fod wedi symud at her mewn camp arall.

"Mae'r gêm gyntaf yn erbyn yr Alban am fod yn dipyn o her i Gymru. Y cwestiwn mawr yw a fydd chwaraewyr ifanc yn y garfan yn gallu profi eu hunain ar y lefel uchaf?"

Meddai Rhys Priestland:

"Dwi'n gyffrous i fod yn rhan o dîm S4C eleni i'r Chwe Gwlad, yn enwedig ar ôl Cwpan y Byd.

"Mae'r Chwe Gwlad yn ddathliad o bob cenedl sy'n cymryd rhan. Mae'r gwledydd yn cwrdd bob blwyddyn, felly gartref neu bant, mae wastad yn amser da.

"O ran gobeithion Cymru – mae'n anodd dweud. Mae sawl chwaraewr profiadol wedi gadael ond mae lot o'r bois ifanc hyn wedi bod yn chwarae'n dda. Mae'r gêm gyntaf yna yn erbyn Yr Alban am fod yn sialens anodd – maen nhw'n garfan sefydlog sydd heb golli lot ers Cwpan y Byd. Ac yn y Chwe Gwlad, mae'r gêm gyntaf yna mor bwysig."

Bydd tymor y Chwe Gwlad yn cychwyn nos Wener 2 Chwefror wrth i dîm Dan 20 Cymru groesawu'r Alban i Stadiwm CSM ym Mae Colwyn, cyn i dimoedd y dynion fynd benben â'i gilydd yn Stadiwm y Principality ar ddydd Sadwrn 3 Chwefror.

Bydd Clwb Rygbi Rhyngwladol yn dilyn timoedd Cymru yn y ddwy bencampwriaeth, gyda gemau yn cael eu dangos yn fyw ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer. Mae Clwb Rygbi Rhyngwladol yn cael ei gynhyrchu gan BBC Cymru.

Hefyd yn rhan o arlwy S4C o gwmpas y Chwe Gwlad bydd cyfres newydd, Stryd i'r Sgrym, ble fydd Scott Quinnell yn hyfforddi tîm i chware fformat newydd sbon o rygbi ar gyfer pobol o alluoedd gwahanol.

Bydd Jonathan Davies, Sarra Elgan a Nigel Owens hefyd yn ôl gyda llu o westeion am gyfres arall o Jonathan.

Ac yn dilyn llwyddiant tymor diwethaf Cwis Bob Dydd, i gyd-fynd â'r bencampwriaeth, mae'r cwis yn dychwelyd am 7 wythnos gyda'r cyfle i ennill pâr o docynnau i gem Cymru v Yr Eidal ar 16 Mawrth.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?