S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Jason Mohammad yn cwrdd ag arwr pêl-droed o’i blentyndod mewn rhaglen ar S4C

19 Ionawr 2024

Mae'r cyflwynydd Jason Mohammad yn dweud mae'r profiad mwyaf emosiynol iddo erioed ar gamera, oedd cwrdd a'i arwr pêl-droed o'i blentyndod fel rhan o gyfres newydd ar S4C.

Fe wnaeth Jason gwrdd â cyn-chwaraewr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Dave Bennett, ar raglen Taith Bywyd fydd i'w gweld ar S4C ar nos Sul Ionawr 21 am 21.00.

Yn y rhaglen, wedi'i gyflwyno gan Owain Williams, mae Jason Mohammad yn mynd ar daith i gwrdd â'r bobl wnaeth newid ei fywyd a dylanwadu ar ei yrfa.

Roedd Dave a'i frawd Gary yn chwarae i'r Adar Gleision ar ddechrau'r 1980au ac mae Jason Mohammad yn egluro mai nhw oedd y rheswm iddo syrthio mewn cariad â phêl-droed a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.

Dywedodd Jason Mohammad fod y profiad o gwrdd â Dave Bennett wedi gwneud iddo deimlo fel bachgen ifanc eto:

"Mae hwn wedi bod yn brofiad anhygoel i fi – y profiad mwyaf emosiynol i fi ar y teledu. Dwi'n teimlo fel bachgen bach wyth mlwydd oed yn eistedd fan hyn nesaf at fy arwr pêl-droed cyntaf."

"Dyna pam dwi'n falch o'r clwb pêl-droed yma, does dim ots beth yw eich cefndir, unwaith mae'r chwaraewyr yn gwisgo'r crys glas – Bluebirds forever!"

"Mae'r clwb pêl-droed yma yn rhan o fy enaid i. Pan mae pobl yn gofyn, 'pwy yw'r pêl-droediwr cyntaf ti'n cofio ei wylio a'i garu', Dave Bennett oedd hwnnw."

"Fe 'sgwennodd cylchgronau Shoot a Match erthygl am Dave, ac fe wnes i dorri'r llun allan a'i roi ar y wal yn ein tŷ yn Nhrelái. Dwi ddim yn meddwl y byddwn ni yn gwneud beth dwi'n gwneud nawr oni bai am beth wnaeth Dave a tîm Caerdydd yn '82 ac '82. Fyddwn ni ddim yr un darlledwr chwaraeon oni bai fy mod i wedi syrthio mewn cariad â Cardiff City yn 1982."

Yn ystod y cyfnod yma, Dave Bennett a'i frawd Gary oedd yr unig chwaraewyr Du oedd yn chwarae i'r clwb.

Mae Dave yn egluro fod chwaraewyr Du wedi cael eu trin yn wahanol:

"Roedd hi'n amser anodd i chwaraewyr Du yn y cyfnod yna…os nad oeddech chi'n chwarae yn dda, fe fyddwch chi wedi cael clywed. Fe fyddai'r dorf yn gadael i fi wybod dipyn yn fwy na dywedwch, y chwaraewr arferol oedd yn Wyn."

"Doedden ni ddim yn sylweddoli ar y pryd ein bod ni'n torri tir newydd. Mae pethau wedi newid dipyn ond mae na dipyn o ffordd i fynd eto."

Hefyd yn cymryd rhan yn y gyfres mae'r dylanwadwr a'r cyflwynydd Jess Davies, y cerddor, gitarydd a pundit seiclo S4C Peredur ap Gwynedd, a'r cyn-Aelod Seneddol a'r ymgyrchydd Sian James.

Bydd pob un yn cwrdd ag unigolion sydd wedi bod yno iddyn nhw trwy'r dyddiau da a'r amseroedd anodd. Ond does dim un ohonyn nhw yn gwybod pwy maen nhw am gwrdd, nag i le maen nhw'n mynd nesaf.

Mae penodau'r rheolwr pêl-droed Osian Roberts a'r actores Sian Reese-Williams ar gael ar alw ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?