Cymru DNA Wales

Wrth ddefnyddio'r dulliau profi mwyaf blaengar yn y byd i samplo DNA poblogaeth fodern Cymru, rydym yn gallu olrhain stori pobl hynafol ymhell y tu hwnt i gyfyngiadau cofnodion ysgrifenedig.

Cymru DNA Wales – Cefndir

Mae Cymru DNA Wales yn brosiect aml-gyfrwng sydd ag uchelgais mawr - dim llai nac ateb yr hen gwestiwn: o ble daeth y Cymry?

Wrth ddefnyddio'r dulliau profi blaengar i samplo DNA poblogaeth fodern Cymru, rydym yn gallu olrhain stori pobl hynafol ymhell y tu hwnt i gyfyngiadau cofnodion ysgrifenedig.

Wedi darllediad y rhaglen lansio ar Ddydd Gŵyl Dewi 2015, mae DNA Cymru yn dychwelyd i’r sgrîn gyda chyfres arbennig sy’n mynd yn ddyfnach i’r hanes a’r wyddoniaeth, a chyflwyno canlyniadau DNA rhai o enwogion y genedl.

DNA Cymry amlwg

Bydd tri o Gymry amlwg yn cael canlyniadau eu profion DNA cyndadol yn rhaglen gyntaf DNA Cymru, ar S4C nos Sul, 22 Tachwedd. Mae'r gyfres yn rhan o'r prosiect arloesol CymruDNAWales – prosiect sydd wedi darganfod gwybodaeth newydd a syfrdanol am y bobl oedd yn byw yma drwy'r oesoedd.

Ers y dyddiau cynnar mae'r Cymry wedi gofyn cwestiynau mawr fel 'Pwy ydym ni?' 'O ble y daethom ni?' 'Beth sydd yn ein cysylltu ni â gweddill o bobl y byd?' 'Beth sydd yn ein gwneud ni'n wahanol?'

Yn y gyfres bydd Caryl Parry Jones, y darlledwr adnabyddus Roy Noble, a bachwr tîm rygbi Cymru a'r Scarlets, Ken Owens, yn clywed eu bod nhw'n perthyn i dri grŵp gwahanol a ddaeth i Gymru wedi Oes yr Iâ – yr Helwyr Cynnar; y Ffermwyr Cyntaf; a Phobol y Byceri. Dyma'r tri mewnlifiad cynhanesyddol sy'n bennaf gyfrifol am gyfansoddiad genynnol pobl Ewrop hyd heddiw.

Enwogion 1

Ken Owens

Gyda'i wreiddiau yn ddwfn yn Sir Gâr, doedd hi ddim yn syndod efallai bod y chwaraewr oedd yn sgwad Warren Gatland yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2015, Ken Owens yn dod o linach Gymreig.

Roedd clywed bod marciau genynnol llinach ei fam yn ogystal â llinach ei dad yn fwy cyffredin yng Nghymru nag yng ngweddill Prydain yn plesio Ken. Ar ochr ei dad, mae Ken yn perthyn i'r haplogrŵp R1b-S145, sy'n fwyaf cyffredin yng Nghymru o gymharu â gweddill Prydain. Mae gwyddonwyr yn credu bod yr haplogrŵp yma wedi dod i Gymru gyda symudiad pobl y Biceri, gweithwyr metel cynnar, tua 2000CC. Mae R1b-S145 yn rhan o’r grŵp ehangach R1b a ddaeth i Ewrop o Orllewin Asia tua diwedd cyfnod y Neolithig.

Enwogion 2

Roy Noble

Roedd Roy Noble wrth ei fodd i ddarganfod fod ganddo berthynas diddorol â’r cyfnod Neolithig – yr Oes Cerrig Newydd. Mae gwyddonwyr yn gweithio ar y prosiect wedi darganfod fod Roy yn perthyn i haplogrŵp G2a sy'n anghyffredin yng Nghymru ac sy'n dyddio 'nôl i'r bobl gyntaf i ddod â ffermio i Gymru o Ewrop a'r Dwyrain Agos chwe mil o flynyddoedd yn ôl. Mae Roy'n rhannu ei haplogrŵp gyda neb llai nag Ötzi the Iceman, y mymi'n dyddio 'nôl i 3,300CC a ddarganfuwyd mewn cyflwr da ar y ffin rhwng Awstria a'r Eidal ym 1991.

"Mae'n amlwg bod Ötzi the Iceman yn un o'r teulu meddan nhw. So mae hwnna bach yn sbeshal, yn dipyn o bedigri. Trwy 'mywyd, dwi wedi bod yn chwilio am bedigri," meddai Roy.

Enwogion 3

Caryl Parry Jones

Mae'r gwyddonwyr wedi darganfod bod Caryl Parry Jones yn gallu dilyn llinach ei mam yn ôl at gyn-neiniau sy'n perthyn i'r haplogrŵp U, gwragedd a oedd ymhlith yr helwyr cyntaf i boblogi Ewrop a Gogledd Asia yn yr oes Fesolithig ar ôl Oes yr Iâ.

"Mae unrhyw gysylltiad gydag unrhyw ran o'n hanes yn werth y byd achos 'da ni'm yma'n hir iawn ac felly mae unrhyw gysylltiad sy' gyda ni o le i ni wedi dod yn werth chweil," meddai Caryl.

"I ni gyd yn ymwybodol o ddwy genhedlaeth yn ôl ond ar ôl hynny da ni'n gwybod fawr ddim am ein cyndeidiau, felly mae'r syniad o fynd nôl i gynhanes yn rhywbeth dwi'n ffeindio'n anodd iawn ei ddychmygu."

Ar ôl clywed bod yna bosibilrwydd bod eu cyndeidiau yn berfformwyr, meddai Caryl: "Noson Lawen Fesolithig! Fase rhai’n dweud bod Noson Lawen yn dal yn Fesolithig!"

Cymru DNA Wales – Y Prosiect

Flwyddyn yn ôl, fe gafodd y prosiect CymruDNAWales ei lansio gan S4C, Media Wales, Green Bay Media a Scotland's DNA gydag uchelgais fawr a phwysig; llunio hanes newydd am bobl Gymru, gan geisio ateb y cwestiwn oesol: o ble y daethom ni?

Ers hynny mae nifer o ddynion a menywod Cymru wedi derbyn prawf DNA cyndadol, ac mae canlyniadau'r ymchwil arloesol yma’n sail i gyfres bedair rhaglen i'w darlledu am 8.00, nos Sul 22 Tachwedd, 29 Tachwedd, 6 Rhagfyr a 13 Rhagfyr. Bydd llawer o gwestiynau’n cael eu hateb a chaiff nifer o gwestiynau newydd eu codi hefyd.

Gan ddefnyddio rhai o'r dulliau profi DNA cyndadol mwyaf blaengar, a’u cyfuno â thystiolaeth hanesyddol a dadansoddi gwyddonol a arloeswyd gan Dr Jim Wilson ac Alistair Moffat am yn eu hastudiaeth o DNA Yr Alban, mae CymruDNAWales wedi anelu i fwrw goleuni ar oesoedd tywyll cynhanesyddol.

Drwy astudio samplau DNA poblogaeth fodern Cymru, rydym wedi olrhain stori pobl hynafol ymhell tu hwnt i unrhyw gofnod ysgrifenedig, gan ddechrau ar ddiwedd yr oes iâ ddiwethaf a dyfodiad yr helwyr a’r casglwyr cyntaf, sef y bobl gyntaf i weld tirwedd gyfarwydd yr hen dir yma fwy na 14,000 o flynyddoedd yn ôl.

Yn ogystal â’r uchelgais fawr yma, mae'r prosiect yn mynd â ni ar daith i faes sydd i raddau helaeth heb gael ei astudio. Hyd yn hyn, nid oes dealltwriaeth lawn wedi bod o DNA cyndadol yng Nghymru ac mae’r astudiaethau a wnaed wedi bod yn arwynebol braidd neu wedi bod yn rhan o astudiaethau ehangach.

Ond yr hyn sy'n gwbl sicr yw y bydd ein darganfyddiadau yn berthnasol i bawb sy'n byw yng Nghymru heddiw, yn oedolion neu’n blant.

Y stori yma yw stori’r bobl, un lle mae gan bawb ei ran. Byddwn, fe fyddwn yn clywed am y brenhinoedd, tywysogion, breninesau, seintiau a beirdd enwog y mae eu henwau’n adleisio dros y canrifoedd. Ond yn anad dim, stori’r bobl gyffredin yw hon, taith yr helwyr, y ffermwyr, y mwynwyr a gweithwyr o bob math wrth iddynt grwydro tir Cymru. Y bobl yma sydd wedi llunio'r genedl wedi’r cyfan. Mae'r prawf yn ein DNA.

Am fanylion pellach am y prosiect CymruDNAWales, ewch i cymrudnawales.com