TEITL: Bach o Hwne
CYFANSODDWR: Morgan Elwy Williams
CANU: Morgan Elwy Williams
CEFNDIR Y GÂN
Mae neges y gân yn weddol syml. Mae elfen o gyfeillgarwch yn y geiriau, a phan ddaw'r amser i gymdeithasu eto, fe fyddwn yn gallu rhannu ein cariad a gofalu am ein gilydd unwaith eto. Rydym hefyd yn rhannu'r pethau cyffredinol megis arian a ffonau symudol ac unrhyw beth ble mae ffrindiau yn y cwestiwn, rydym o hyd yn rhoi 'Bach o Hwne' pob tro.
Cefndir
Mae Morgan yn 25 oed ac yn wreiddiol o Dan y Fron ger Llansannan, ond yn byw yng Ngogledd Llundain ers 2019.
- Ar ôl gadael yr ysgol, mi aeth i Fanceinion i wneud gradd mewn Ffiseg, cyn symud i Lundain yn 2019 i ddilyn cwrs ymarfer dysgu a bellach mae'n athro Ffiseg rhan amser mewn Ysgol Uwchradd yng Ngogledd Llundain.
- Mae Morgan wedi bod adre gyda'i deulu ers cyn y Nadolig. Daeth yn ôl yn arbennig i roi aren i'w chwaer sydd wedi bod yn disgwyl am y llawdriniaeth ers amser hir.
- Y llynedd bu'n ffodus o gael yr holl amser yn y cyfnod clo i recordio ei albwm newydd. Mae'n gobeithio bydd yr albwm allan ym mis Ebrill eleni.
- Mae'n dod o deulu cerddorol iawn. Mae ei frawd Jacob wedi cystadlu yng Nghân i Gymru llynedd a'r flwyddyn cynt yn canu deuawd gyda Mared Williams