S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Telerau ac Amodau - Cân i Gymru 2024

1. Y dyddiad a'r amser cau ar gyfer y gystadleuaeth yw'r 5ed Ionawr 2024 am 23:59 ('y Dyddiad Cau').

2. Rhaid i bob ymgeisydd fod dros 16 oed ar y Dyddiad Cau.

3. Rhaid i bob ymgeisydd gyflwyno cân ar CD neu MP3 ynghyd â chopi ysgrifenedig o'r geiriau a'r ffurflen ymgeisio ar y Dyddiad Cau neu cyn hynny. Gellir cael y ffurflen ymgeisio ar-lein www.s4c.cymru/canigymru . Gellir cyflwyno'r CD/MP3 a'r geiriau â llaw, drwy'r post neu'n electronig. Nid yw S4C nac Afanti yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddeunydd sydd yn mynd ar goll yn y post neu yn methu cyrraedd Afanti am unrhyw reswm ar y Dyddiad Cau neu cyn hynny. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yn unig yw sicrhau bod y cais yn cyrraedd Afanti ar y Dyddiau Cau neu cyn hynny.

Dylid anfon y CD ynghyd â chopi caled o'r geiriau a'r ffurflen gais i:

Cystadleuaeth Can i Gymru 2024,

Afanti Media Limited,

Uned 2 & 3,

Ffordd Dowlais

Caerdydd.

CF24 5TW

Gellir anfon yr MP3 ynghyd â chopi electronig o'r geiriau a'r ffurflen gais drwy'r e-bost i: canigymru@afantimedia.tv

4. Rhaid i'r gân fod yn Gymraeg.

5. Rhaid i'r geiriau a'r gerddoriaeth fod yn wreiddiol.

6. Rhaid bod y gân heb gael ei pherfformio neu ei chwarae ar y radio, teledu na'r we, nac ar gael i'w lawrlwytho nac ar gael ar gasét neu CD masnachol cyn y Dyddiad Cau.

7. Gellir defnyddio unrhyw arddull gerddorol a gall pob cyfansoddwr gyflwyno unrhyw nifer o ganeuon.

8. Mae'r hawl gan y cwmni cynhyrchu 'Afanti' i ymestyn neu cwtogi hyd y gân yn ol gofynion darlledu'r gystadleuaeth.

9. Rhaid i'r caneuon fod yn wreiddiol i'r cyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) y geiriau ac ni fyddant wedi'u cyhoeddi'n flaenorol na'u cofrestru gydag unrhyw gymdeithas casglu hawliau cerddoriaeth, yn cynnwys PRS, EOS neu MCPS. Bydd unrhyw achos o dorri'r amod hwn yn anghymhwyso'r gân o'r gystadleuaeth. Mae pob cyfansoddwr ac awdur geiriau yn cytuno i beidio â chofrestru'r gân gyda'r MCPS hyd nes bod y gân naill ai wedi'i bwrw allan o'r gystadleuaeth neu os yw'r gân yn mynd ymlaen i'r rownd derfynol, hyd ar ôl y cyfryw amser pan fydd Can i Gymru 2024 ('y Rhaglen') wedi'i darlledu. Bydd yn ofynnol i gyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geiriau y caneuon ar y rhestr fer lofnodi cytundeb fel yr amlinellir yn Rheol 17 isod ('Cytundeb Safonol').

10. Bydd panel o feiriniaid yn ystyried yr holl gynigion a dderbynnir cyn y Dyddiad Cau a byddant yn dewis rhestr fer o ganeuon fydd yn ymddangos yn y gystadleuaeth ar deledu.

11. Mae S4C ac Afanti yn cadw'r hawl i wahodd unigolion yn uniongyrchol i gystadlu cyn y Dyddiad Cau. Bydd Afanti yn cysylltu â chyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geiriau y caneuon ar y rhestr fer gyda'u penderfyniad dros y ffôn. Bydd Afanti yn hysbysu cyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geiriau y caneuon aflwyddiannus (trwy'r post / e-bost) wedi iddynt gyhoeddi'r rhestr fer.

12. Bydd cynrychiolydd o S4C a chynrychiolydd o Afanti, ynghyd â'r cyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geiriau llwyddiannus yn penderfynu pa artist(iaid) sydd i recordio'r gân yn y Stiwdio ac ei berfformio yn ystod noson Cân i Gymru ac i ymddangos ar y Rhaglen. Ceidw'r cwmni cynhyrchu Afanti yr hawl i wneud y penderfyniad terfynol.

13. Mi fydd y cwmni cynhyrchu Afanti yn apwyntio Cyfarwyddwyr Cerdd fydd yn cyd-lynnu y recordiad yn ogystal â'r perfformiad byw.

14. Bydd y caneuon ar y rhestr fer yn cael eu perfformio yn ystod y gystadleuaeth fyw ar ddyddiad sydd i'w gadarnhau. Caiff y Rhaglen ei recordio a'i darlledu'n fyw ac ar alw ar deledu, ar y wê ac o bosibl ar y radio.

15. Bydd y caneuon a ddewisir i gystadlu yn ystod y Rhaglen yn cael eu darlledu ar draws holl wasanaethau S4C ac mae'n rhaid i'r cyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geiriau sicrhau nad oes unrhyw rwystr i'r cyfryw ddefnyddiau. Yn ogystal, gall S4C (ond nid yw'n ymrwymo i) ymgorffori'r caneuon a ddewisir mewn recordiad sain a/neu recordiad clyweledol o'r gystadleuaeth a defnyddio'r gân fuddugol ac o bosibl rhai o'r caneuon eraill mewn rhaglenni eraill ar S4C ac mae'n rhaid i'r cyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geiriau sicrhau nad oes unrhyw rwystr i hyn a bod yr holl hawliau a chliriadau perthnasol wedi'u sicrhau.

16. Mae'n amod na fydd y caneuon a ddewiswyd ar y rhestr fer, ar ôl cyflwyno'r cynigion ond cyn darllediad y Rhaglen, wedi'u perfformio na'u chwarae yn gyhoeddus, ar y radio, ar y teledu, ar y we nac wedi'u rhyddhau ar gasét masnachol neu CD masnachol nac ar gael i'w lawrlwytho heb ganiatâd ysgrifenedig Afanti ymlaen llawn. (Nid yw'r cyfyngiad hwn yn gymwys i ganeuon nad ydynt wedi'u dewis ar y rhestr fer).

17.

(a) Mae'n rhag-amod sylfaenol o gystadlu yn y gystadleuaeth fod cyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geiriau pob cân ar y rhestr fer yn llofnodi'r Cytundeb Safonol ar gyfer y gystadleuaeth (gellir cael copi o'r Cytundeb Safonol oddi wrth Afanti).

(b) Bydd y Cytundeb Safonol yn rhoi'r hawl i Afanti recordio a chopïo'r gân gan ymgorffori'r gerddoriaeth a'r geiriau yn gydamserol â'r Rhaglen (ac unrhyw raglen gysylltiedig) neu ddetholiad ohoni ac i ymelwa ar y Rhaglen drwy bob modd ym mhob cyfrwng am byth gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ddarlledu ar S4C a threfnu bod y Rhaglen ar gael drwy wasanaethau dal i fyny S4C yn fyd-eang, yn ychwanegol at yr hawl i ddarlledu'r gân ar Radio Cymru heb unrhyw daliad pellach i'r cyfansoddwr(wyr) neu awdur(on) geiriau. Yn amodol ar roi'r hawliau hyn, bydd hawlfraint yn ac i'r gân yn parhau yn eiddo i'r cyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geiriau y bydd hawl ganddynt berfformio neu ymelwa fel arall drwy unrhyw a phob modd ar unrhyw adeg yn dilyn darllediad cyntaf y Rhaglen ar S4C a chofrestru'r gân gyda'r cyfryw gymdeithasau casglu cerddoriaeth y gall y cyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geiriau eu dewis.

(c) Bydd Afanti yn cysylltu â chyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geiriau pob un o'r caneuon a ddewiswyd ar gyfer y rhestr fer ar neu cyn 21ain Ionawr 2024 a bydd yn anfon copïau o'r Cytundeb Safonol atynt ar yr un pryd. Mae'n rhag-amod o gystadlu a chymryd rhan yn y Rhaglen fod cyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geiriau pob un o'r caneuon sydd wedi eu dewis i'w perfformio yn ystod y Rhaglen yn arwyddo'r Cytundeb Safonol ac yn ei ddychwelyd at Afanti ar neu cyn 31ain Ionawr 2024.

(ch) Os yw cyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geiriau unrhyw gân a ddewisir ar gyfer y rhestr fer i'w perfformio yn y Rhaglen yn methu neu'n gwrthod llofnodi'r Cytundeb Safonol a'i ddychwelyd at Afanti erbyn 31ain Ionawr 2024, bydd gan Afanti ac S4C yr hawl i ddileu eu cân neu ganeuon o'r gystadleuaeth a cheidw Afanti ac S4C yr hawl i ddewis cân neu ganeuon eraill a gyflwynwyd i'r gystadleuaeth yn lle'r gân/caneuon a ddilëwyd yn unol â'r rheolau hyn ac i wahodd cyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geiriau'r gân neu'r caneuon amnewid i gystadlu yn y Rhaglen yn eu lle, ar yr amod bod cyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geiriau unrhyw gân sy'n disodli'r gân/caneuon a ddilëwyd yn llofnodi'r Cytundeb Safonol cyn y Rhaglen.

18. Mae'n amod o rheolau'r gystadleuaeth fod cyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geiriau'r caneuon a ddewisir i'w perfformio yn y Rhaglen yn cytuno i fod yn bresennol a chymryd rhan yng nghynhyrchiad y Rhaglen gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ddarparu cyfweliadau yn ystod recordio'r Rhaglen yn y stiwdio, ar noson Cân i Gymru a bod ar gael i ffilmio proffil byr cyn noson Cân i Gymru. Nodwch y cynhelir ymarfer o noson Cân i Gymru ar y diwrnod blaenorol.

19. Ar ôl perfformio pob un o'r caneuon ar y rhestr fer yn ystod y darllediad byw, gwahoddir y cyhoedd i bleidleisio i'r caneuon y byddent yn dymuno iddynt ennill 'Cân i Gymru 2024'. Bydd cyflwynwyr y Rhaglen yn hysbysu'r gynulleidfa pan fyddant yn gallu pleidleisio.

20. Caiff yr enillydd ei gyhoeddi yn ystod y Rhaglen drwy ddatgan canran y pleidleisiau ar gyfer pob cân.

21. Bydd cyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geiriau cân fuddugol 'Cân i Gymru 2024' yn derbyn cyfanswm o £5,000.00 (pum mil o bunnoedd) fel gwobr ariannol.

22. Bydd cyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geiriau y caneuon sy'n dod yn ail ac yn drydydd yn ôl y bleidlais gyhoeddus yn derbyn gwobrwyon ariannol fel a ganlyn:

2ail - £3,000

3ydd - £2,000

23. Lle bo mwy nag un person wedi cyfansoddi ac ysgrifennu cân buddugol, rhennir y wobr ariannol briodol rhwng cyfansoddwr(wyr) / awdur(on) y gân ar y cyd. Ni fydd unrhyw rwymedigaeth ar S4C i gynnig unrhyw wobrau eraill yn lle'r gwobrau a nodir yn rheolau 21 a 22 ac ni ellir cyfnewid na throsglwyddo'r gwobrau.

24. Cyhoeddir y canlyniadau yn ystod y Rhaglen fyw.

25. Pe bai unrhyw anghydfod mewn perthynas â'r bleidlais, y canlyniad neu unrhyw agwedd arall ar y gystadleuaeth, bydd penderfyniad S4C yn derfynol ac yn rhwymol ar bob ymgeisydd.

26. Bydd cân fuddugol 'Cân i Gymru 2024' yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd ('yr Ŵyl) os yw'r Ŵyl yn cael ei chynnal yn 2024. Cyfrifoldeb cyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geiriau'r gân bydd sicrhau fod y gân fuddugol yn cael ei pherfformio yn broffesiynol yn yr Ŵyl. Bydd Afanti yn cysylltu â cyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geiriau'r gân buddugol i benderfynu ar berfformiwr(wyr) y gân yn yr Ŵyl a bydd Afanti yn trafod ac o ganlyniad yn gyfrifol am wneud y trefniadau teithio a llety ar gyfer y cyfryw gyfansoddwr(wyr), awdur(on) geiriau a pherfformiwr(wyr) a'r swm ariannol y gall Afanti ei gyfrannu at gostau o'r fath, hyd at uchafswm o £2,000 yn ddibynnol ar nifer cyfansoddwr(wyr), awdur(on) a/neu pherfformiwr(wyr) y gân yn yr Ŵyl.

27. Mae'r gystadleuaeth yn agored i unrhyw un ac eithrio aelodau o staff S4C, Afanti a'u teuluoedd agos a/neu unrhyw berson arall neu gwmni sydd yn uniongyrchol gysylltiedig â'r gystadleuaeth, neu'r Rhaglen.

28. Ni fydd S4C yn atebol os na chynhelir Cân i Gymru 2024 neu'r Rhaglen yn gyfan gwbl neu'n rhannol am resymau y tu hwnt i reolaeth S4C neu os yw problemau technegol neu unrhyw amgylchiadau eraill sydd tu hwnt i reolaeth S4C yn tarfu ar gystadleuaeth Cân i Gymru 2024, y pleidleisio neu'r Rhaglen mewn unrhyw ffordd.

29. Mae Afanti ac S4C yn gwrthod unrhyw atebolrwydd i'r graddau llawn a ganiateir gan y gyfraith am unrhyw golled, difrod, anaf neu siomedigaeth a ddioddefir gan unrhyw ymgeisydd yn sgil cymryd rhan yn y gystadleuaeth, y Rhaglen, neu sy'n digwydd i'r buddugol yn sgil derbyn y wobr.

30. Dim ond at ddibenion gweinyddu'r gystadleuaeth y bydd Afanti a / neu S4C yn defnyddio gwybodaeth bersonol yr ymgeiswyr, ac ni fyddant yn defnyddio data o'r fath at unrhyw ddiben arall. Bydd Afanti yn gofyn am ganiatâd i gadw manylion cyswllt i bob cystadleuydd at ddibenion eu gwahodd i gystadlu yn y gystadleuaeth yn y dyfodol. Os na roddir y caniatâd hwn bydd Afanti yn dinistrio'r holl ddata personol sydd yn ei feddiant a dderbyniodd fel rhan o'r cynigion ar gyfer y gystadleuaeth wedi i'r gystadleuaeth ddod i ben. Prosesir data personol yn unol â darpariaethau Deddf Diogelu Data 1998 ac ni fydd yn cael ei rannu gydag unrhyw drydydd parti heb ganiatâd ymlaen llaw.

31. Dylai unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r gystadleuaeth gael eu cyfeirio at Afanti Media, Uned 2 &3, Ffordd Dowlais, Caerdydd, CF24 5TW. ("Afanti").

32. Mae'r gystadleuaeth hon yn cael ei rheoli gan gyfreithiau Cymru a Lloegr.

33. Trefnir y gystadleuaeth hon gan, a'r hyrwyddwr yw, Afanti Media Cyfyngedig, Uned 2 &3, Ffordd Dowlais, Caerdydd, CF24 5TW.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?