Rydym yn deall bod nifer o wylwyr wedi cael trafferthion wrth geisio bwrw pleidlais yn ystod Cân i Gymru 2024 ac mae'n ddrwg iawn gennym am hynny.
Er i'r system gael ei phrofi'n llwyddiannus o flaen llaw roedd nam technegol yn ystod y cyfnod pleidleisio ar y noson.
Mae manylion isod am drefniadau i ad-dalu'r gost i unrhyw un wnaeth fwy nag un galwad ffôn i bleidleisio, am nad oedd neges yn cadarnhau bod y bleidlais gyntaf wedi ei chyfrif.
Bydd modd hawlio ad-daliad am bob galwad yn dilyn y neges gyntaf (gallwn gadarnhau y byddai honno wedi ei chyfrif fel pleidlais).
Mae'r canlyniadau wedi cael eu gwirio ac yn ddilys.
Mae gwybodaeth isod am y camau sydd angen eu dilyn.
Llenwch y ffurflen gan nodi:
Os ydych chi angen unrhyw gymorth i lenwi'r ffurflen cysylltwch â Gwifren ar 0370 600 4141 neu cig2024@s4c.cymru
Fe wnawn bob ymdrech i brosesu pob cais dilys cyn gynted â phosib ac o fewn 28 diwrnod o dderbyn y cais.
Telerau ac Amodau - Proses Ad-dalu
Hysbysiad Preifatrwydd - Ad-daliad Costau Pleidleisio
Diolch i chi am eich hamynedd ac rydym yn gwerthfawrogi eich cyd-weithrediad.