Ry'n ni'n credu'n gryf bod angen cael perthynas agored, agos ac atebol gyda'n gwylwyr.
I wneud hynny, mae'n bwysig ein bod ni'n deall beth ydi disgwyliadau'r gynulleidfa wrth baratoi amserlen a chynnwys.
Ry'n ni'n cynnal digwyddiadau cyson mewn gwahanol rannau o Gymru er mwyn i'r cyhoedd gyfarfod â staff ac aelodau Bwrdd S4C. Mae'r cyfarfodydd yma'n gyfleoedd euraidd i'r cyhoedd ddweud eu dweud am ein rhaglenni ni i ni glywed barn y cyhoedd am ein rhaglenni ni.
Mae aelodau Bwrdd S4C yn cynnal Nosweithiau Gwylwyr cyhoeddus yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn mewn gwahanol rannau o Gymru.
Mae'n bwysig i S4C bod ein rhaglenni yn hawdd eu dilyn ac yn ddeniadol i gynulleidfa mor eang â phosibl.
Bob blwyddyn mae S4C yn cyhoeddi ei chynlluniau ar gyfer y Gwasanaeth Rhaglenni