Os ydych chi wrth eich bodd gyda pornstar martinis neu'n ffans mawr o jin, rydych chi wedi dod i'r lle cywir. Gobeithio gallwch chi ddarganfod coctêls newydd fan hyn, neu dderbyn ychydig o ysbrydoliaeth i dreialu rhywbeth newydd yn y gegin. Os oes ffrindiau'n dod draw, dyma'r union beth i roi gwên ar eu hwynebau yn ogystal ȃ thorri syched. Dyma syniadau am ambell i drît.
Beth am ddechrau gyda choctêl syml? Efallai bydd angen picio i'r siop am rai o'r cynhwysion…
Yr unig bethau bydd angen ar gyfer creu'r hwn yw botel o jin, sudd grawnffrwyth a rhew, felly ewch amdani. Mae'n syml ond yn glasurol. Ychwanegwch sleisen o rawnffrwyth os ydych chi ffansi. Yn syml, cymysgwch 1 mesur o jin a 4 mesur o sudd grawnffrwyth a tholltwch dros rew. A dyna ni - eich coctêl cyntaf!
Mae'r ail ddiod yma'n hawdd i'w greu yn y gegin - rhywbeth ychydig yn wahanol ond mae'n blasu'n hollol lysh. Bydd angen mafon ffres, cordial neu squash mafon, fodca, a photel o lager. Cymysgwch popeth ac rydych chi'n barod i'w fwynhau!
I barhau ȃ'r thema o ddefnyddio mafon, dyma'r trydydd coctêl - mojito y tro hwn! Os ydych chi'n ffans o jin a phrosecco, bydd hwn yn berffaith i chi. Bydd angen mintys ffres, gwydr tal (wrth gwrs), jin mafon, prosecco pinc, surop, leim ac wrth gwrs, rhew!
Mae'r ddiod felys yma'n ffres, yn ffrwythus, ac yn ffab i'w fwynhau gydag ambell i ffrind. Ysgydwch jin o'ch dewis chi, surop a sudd pîn-afal, arllwyswch ychydig o rew drosto, ac ychwanegwch y sleisen o oren gwaed i'w addurno. Iechyd da!
Chwilio am ddiod di-alcohol? Dyma'r coctêl i chi - bydd angen soda hufen, sudd ceirios a sudd pinafal (dim ond 3 cynhwysyn!). A beth am baratoi cacen foron i gyd-fynd? - Maen nhw'n berffaith gyda'i gilydd. Mwynhewch!