Gosodwch y blawd, y turmeric, y pupur, yr halen a'r menyn mewn prosesydd bwyd a'u cymysgu tan ei fod yn edrych fel briwsion bara.
Ychwanegwch y dŵr tan fod y toes yn ffurfio pelen.
Crafwch y toes mas a'i roi ar fwrdd wedi ei orchuddio gyda blawd. Ffurfiwch belen o'r toes a'i orchuddio mewn cling film i'w roi yn yr oergell am tua 30 munud.
Rholiwch y crwst ar fwrdd wedi ei orchuddio gyda blawd i drwch o 3mm.
Irwch eich tuniau tartenni a leiniwch gyda'r crwst. Gwnewch yn siŵr bod y crwst yn ffitio'r tuniau yn daclus a bod ychydig yn weddill yn hongian dros dop y tun.
Rholiwch belen o bapur gwrthsaim i leinio'r tuniau a defnyddiwch gymysgedd o reis a chorbys i bwyso'r papur a'r crwst i lawr.
Pobwch y casys yn 'ddall' yn y ffwrn am 20 munud. Tynnwch y papur a'r corbys a'u pobi am 5–10 munud arall tan eu bod yn euraidd.
Tynnwch nhw mas a'u gadael i oeri.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Parti Bwyd Beca.