S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Beca Lyne-Pirkis

    Beca Lyne-Pirkis

    calendar Dydd Gwener, 06 Ionawr 2017

  • Jerk blodfresych

    Jerk Blodfresych

    Cynhwysion

    • 1-2 chilli jalapeno neu scotch bonnet – cadewch yr hadau i mewn os chi'n hoffi'ch bwyd yn boeth!
    • 1 llwy fwrdd o deim
    • 1 llwy fwrdd o allspice
    • 4 ewin garlleg
    • bwnsied mawr o shibwns
    • 1 llwy fwrdd o siwgr brown
    • 1 llwy de o halen
    • 1 llwy de o bupur du
    • ½ llwy de o nytmeg
    • ½ sudd leim
    • sudd 1 oren
    • 100ml finegr gwin gwyn
    • 3 llwy fwrdd o saws soy
    • 3 llwy fwrdd o olew rapeseed

    I'w rhostio

    • 1 blodfresychen mawr
    • 2 bupur – unrhyw liw!

    Dull

    1. Gwnewch y marinade trwy flendio cynhwysion y saws jerk nes yn esmwyth.
    2. Torrwch y blodfresych mewn i 'florets' a'r pupur mewn i feintiau tebyg.
    3. Rhowch y saws mewn i sosban a'I ddod i bwynt berwi.
    4. Trowch y gwres i lawr a'I adael i ffrwtian.
    5. Rhowch y blodfresych a'r pupur i mewn i'r sosban a'u coginio am 5 munud.
    6. Rhowch y llysiau a'r saws mewn tun pobi wedi ei leinio gyda foil a'i bobi mewn popty gwres Fan 180C/Marc Nwy 6 am 20 munud.
    7. Gallwch ei weini gyda reis a salsa pinafal!

    Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Parti Bwyd Beca.

    Rysáit gan Beca Lyne-Pirkis.

    Ryseitiau Fegan:

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?