Rhowch 500g o flawd bara gwyn cryf, 10g o halen a 10g o furum mewn bowlen fawr, yna rhowch yr holl ddŵr i mewn (330ml).
Dewch a'r toes at ei gilydd yn y bowlen, yna trowch e allan ar y bwrdd.
Gweithiwch y toes am 10 munud nes bod e'n llyfn ac yn elastig.
Rhowch y toes yn ôl yn y bowlen gyda lliain bwrdd drosto, a gadewch iddo godi am o leiaf 1 awr, neu nes bod e wedi dyblu mewn maint.
Ar ôl awr, crafwch y toes allan o'r bowlen a gweithiwch y toes am funud yna ei siapio ar gyfer tun torth.
Gorchuddiwch y toes unwaith eto gyda lliain a gadael iddo godi am ail dro, rhyw 45 munud.
Tra bod y toes yn profi am yr ail dro, cynheswch y ffwrn i 220 selsiws/marc nwy 7-8.
Ar ôl i'r dorth gael cyfle i godi am yr ail dro, fe allwch chi dorri siâp ar y top neu roi ychydig bach o flawd arno, yna i mewn i'r ffwrn am 30 munud.
Gadewch i'r dorth oeri cyn torri. Mae'r bara yn flasus fel mae e gyda menyn, neu wedi ei dostio!
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Parti Bwyd Beca.