Cynheswch y popty i Farc Nwy 4/180C/160C Fan ac irwch dun torth a'i leinio.
Mewn powlen, cymysgwch 165g o fargarin ac 165g o siwgr caster.
Ychwanegwch eich wyau yn araf, gan gymysgu ychydig o flawd i mewn fel bod y cymysgedd ddim yn gwahanu.
Hidlwch y blawd, ychwanegwch yr almwnau a'r croen leim a'i cymysgu yn dda.
Ychwanegwch y gin a'r tonic ac arllwyswch y gymysgedd i mewn i'r tun.
Pobwch ar y silff canol am 40-50 munud.
Tuag at diwedd yr amser pobi, gwnewch y drizzle wrth roi 5 llwy fwrdd o siwgr caster, 3 llwy fwrdd o gin, 2 llwy fwrdd o tonic a'r sleisys leim mewn sosban a'i ddod at bwynt berwi.
Berwch am 3-5 munud nes bod yr hylif fel syrop, yna trowch y gwres i ffwrdd. Tynnwch y sleisys leim allan a'i gadael i oeri am 5 munud cyn eu gorchuddio gydag ychydig o siwgr caster.
Unwaith mae'r gacen wedi pobi, gadewch hi yn y tun a gwnewch dyllau ynddi gan ddefnyddio skewer. Arllwyswch y drizzle ar ben y gacen.
Gadewch i oeri yn gyfan gwbl yn y tun.
Unwaith mae'r gacen wedi oeri, rhowch ar blat.
I wneud yr eisin, gwnewch gin a tonic gydag ychydig o sudd leim. Rhowch 250g o siwgr eisin mewn powlen ac ychwanegwch y gin a tonic, un llwy de ar y tro. Mae angen i'r eisin fod yn drwchus, felly peidiwch a'i frysio.
Arllwyswch neu peipiwch yr eisin ar dop y gacen gyda'r sleisys o leim wedi eu gorchuddio gyda siwgr.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Parti Bwyd Beca.