S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Beca Lyne-Pirkis

    Beca Lyne-Pirkis

    calendar Dydd Mawrth, 20 Rhagfyr 2016

  • Cawl madarch

    Cawl Madarch

    Cynhwysion

    • 3 llwy fwrdd o olew rapeseed
    • 1 nionyn wedi ei dorri'n fân
    • 3 ewin garlleg
    • 50g madarch porcini (wedi cael ei socian mewn dwr poeth am 30 munud)
    • 400g madarch 'chestnut'
    • 2 llwy de o deim
    • hufen sengl
    • 600ml stoc cyw iâr

    Dull

    1. Cynheswch 3 llwy fwrdd o olew rapeseed mewn padell ffrio. Ychwanegwch 1 nionyn a 3 ewin garlleg a'u coginio am ychydig o funudau.
    2. Tynnwch 50g o fadarch porcini allan o'r hylif gan wasgu unrhyw beth ychwanegol allan.
    3. Torrwch a'i rhoi yn y badell gyda 400g o fadarch 'chestnut' a 2 llwy de o deim.
    4. Coginiwch am 5 munud cyn ychwanegu'r hylif porcini a digon o stoc i orchuddio'r madarch (Tua 600ml)
    5. Bydd y gymysgedd angen ei fudferwi am 5 munud, yna tastiwch i wneud yn siŵr nad oes angen mwy o halen neu bupur.
    6. Byddwch angen blendio'r gymysgedd ac ychwanegu ychydig o'r hufen sengl.
    7. Gallwch weini'r cawl gyda thost cynnes â menyn arno.

    Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Parti Bwyd Beca.

    Rysáit gan Beca Lyne-Pirkis.

    Bara i fynd gyda'r pryd?

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?