S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Beca Lyne-Pirkis

    Beca Lyne-Pirkis

    calendar Dydd Mercher, 15 Tachwedd 2017

  • Tartenni Morocaidd

    Tartenni Morocaidd

    Cynhwysion y tartenni

    • 1 taten felys fawr
    • 2 winwns coch
    • 2 moron
    • 1 wylys
    • 1 tun o ffacbys wedi'u draenio
    • 2 llwy fwrdd o ras-el-hanout
    • olew rapeseed
    • halen
    • 100g caws feta
    • 3 wy
    • 1 crwst turmeric (rysáit ar wahân)

    Cynhwysion y salad

    • 100g dail sbigoglys
    • 1 pomgranad
    • 50g naddion cnau almwn wedi'u tostio
    • 1 lemwn
    • olew rapeseed
    • halen a phupur
    • bwnsied bach o fintys
    • bwnsied bach o bersli

    Dull

    1. Twymwch y ffwrn i 200°C / Ffan 180°C / Nwy 6.
    2. Pliciwch a thorrwch y tatws melys a'r moron a'u gosod mewn tun rhostio.
    3. Sleisiwch y winwns a'r wylys a'u hychwanegu i'r tun.
    4. Taenwch haen o ras-el-hanout, olew a halen ar y top cyn cymysgu'r llysiau a'u rhostio yn y ffwrn am tua 30 munud. Trowch unwaith.
    5. Wedyn, ychwanegwch y ffacbys a choginiwch yn y ffwrn am 10 munud arall.
    6. Tynnwch y llysiau mas a'u gadael i oeri yn gyfan gwbl.
    7. Gostyngwch wres y ffwrn i 160°C / Ffan 140°C / Nwy 3.
    8. Unwaith mae'r llysiau wedi oeri, rhowch i mewn i'r tartenni gan wneud yn siŵr bod cymysgedd dda o bob llysieuyn ym mhob tarten.
    9. Malwch gaws feta dros ben pob un.
    10. Chwipiwch yr wyau gyda phinsied o halen a'u rhannu'n hafal rhwng pob tarten.
    11. Peidiwch â'u gorlenwi.
    12. Pobwch am tua 20 munud neu tan fod yr wy wedi setio a'r feta'n euraidd.
    13. Tra mae'r tartenni yn pobi, gwnewch y salad.
    14. Golchwch a sychwch y sbigoglys a'i osod mewn powlen fawr.
    15. Torrwch y mintys a'r persli yn fân a'u hychwanegu at y sbigoglys.
    16. Chwipiwch y lemwn a'r olew; 1 rhan lemwn i 3 rhan olew.
    17. Ychwanegwch halen a phupur i ychwanegu blas. Pan fyddwch chi'n barod i'w gweini, rhowch y saws lemwn ac olew ar ben y dail a'u rhannu rhwng y platiau.
    18. Rhowch darten i bob person.
    19. Gorffennwch y salad trwy daenu naddion cnau almwn a hadau pomgranad dros ei ben.

    Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Parti Bwyd Beca.

    Rysáit gan Beca Lyne-Pirkis.

    Mwy gan Beca Lyne-Pirkis:

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?