S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Beca Lyne-Pirkis

    Beca Lyne-Pirkis

    calendar Dydd Mercher, 13 Rhagfyr 2017

  • Selsig Morgannwg

    Selsig Morgannwg

    Cynhwysion

    • 1 cenhinen fawr
    • 125g caws Caerffili
    • 75g gruyère
    • 200g briwsion bara
    • 30g menyn heb ei halltu
    • 2-3 llwy fwrdd o olew rapeseed
    • sbrigyn neu ddau o deim ffres
    • llond llaw fach o syfi ffres
    • 2 llwy de o fwstard Dijon
    • 2 wy
    • 50g blawd plaen
    • halen a phupur gwyn

    Dull

    1. Sleisiwch a ffrïwch y cennin yn ysgafn mewn menyn tan eu bod yn feddal.
    2. Gadewch i oeri.
    3. Mewn powlen, gratiwch y caws Gruyère a'r caws Caerffili cyn ychwanegu 125g o'r briwsion bara, y perlysiau ffres, y mwstard, y cennin wedi oeri a'r melyn wy a'u cymysgu yn dda.
    4. Rhannwch y gymysgedd yn 12 darn a'u rholio i siâp selsig. Gosodwch ar blât a'u hoeri am 20 munud yn yr oergell.
    5. Chwipiwch y gwyn wy tan ei fod yn ewynnog. Rhowch weddill y briwsion bara ar un plât a'r blawd plaen ar blât arall.
    6. Rhowch haen o flawd ar y selsig cyn y gwyn wy ac yn olaf y briwsion bara.
    7. Ffrïwch tan eu bod yn euraidd mewn olew rapeseed cyn eu taro mewn ffwrn ar 160°C / Ffan 140°C / Nwy 3 am 10 munud.
    8. I'w gweini'n dwym gyda siytni a salad.

    Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Parti Bwyd Beca.

    Rysáit gan Beca Lyne-Pirkis.

    Mwy o fwyd llyieuol:

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?