S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Beca Lyne-Pirkis

    Beca Lyne-Pirkis

    calendar Dydd Mercher, 22 Tachwedd 2017

  • Beignets gyda saws llus

    Beignets gyda Saws Llus

    Cynhwysion

    • 500g blawd bara cryf
    • 10g burum sych
    • 10g halen
    • 250ml llaeth cyflawn
    • 65g siwgr
    • 85g menyn heb ei halltu
    • 1 wy
    • olew blodau'r haul ar gyfer ffrio
    • siwgr eisin

    Cynhwysion y saws llus

    • 200g llus ffres
    • 75ml o ddŵr
    • 50g siwgr caster
    • sudd hanner lemon
    • 1-2 llwy fwrdd o flawd corn

    Dull

    1. Rhowch y blawd a'r halen mewn powlen gymysgu fawr a rhwbiwch y menyn i mewn iddo cyn ychwanegu siwgr a'r burum a'u cymysgu'n dda.
    2. Ychwanegwch yr wyau a'r llaeth.
    3. Dewch a'r gymysgedd at ei gilydd i ffurfio pelen cyn ei arllwys ar fwrdd.
    4. Tylinwch y toes nes yn esmwyth - mi fydd yn feddal i gychwyn, ond parhewch i'w weithio am tua 10 munud.
    5. Rhowch y toes yn ôl i mewn i'r fowlen a'i adael wedi ei orchuddio gyda lliain nes ei fod wedi dyblu mewn maint, o leiaf un awr.
    6. Unwaith mae'r toes wedi codi, crafwch allan o'r fowlen a'i osod ar fwrdd wedi ei orchuddio gyda blawd.
    7. Yn defnyddio'ch dwylo, gwthiwch y toes i lawr i siâp hirsgwar cyn ei rolio allan i drwch o ¼ modfedd.
    8. Torrwch y toes i ddiemwntau neu sgwariau gan ddefnyddio cyllell finiog neu dorrwr pizza. Gadewch i orffwys am 10 munud nes bod yr olew yn gwresogi.
    9. I goginio'r beignets, llenwch sosban gyda'r olew a'i wresogi i dymheredd o 170ºC.
    10. Codwch y beignets yn ofalus a'u gosod yn yr olew nes yn euraidd ar un ochr. Trowch drosodd, a'u coginio ar yr ochr arall.
    11. Mi wneith hyn gymryd 2-3 munud.
    12. Unwaith maen nhw wedi coginio, draeniwch ar bapur cegin a'u hysgeintio gyda siwgr eisin.
    13. I'w gweini yn boeth gyda'r saws llus.
    14. I wneud y saws llus, rhowch yr holl gynhwysion heblaw am y blawd corn mewn sosban dros wres canolig, a'u coginio am 5-8 munund.
    15. Ffurfiwch bast gyda'r blawd corn a dŵr a'i ychwanegu i'r sosban.
    16. Trowch yn aml nes bod y saws wedi tewhau.
    17. I'w weini'n syth neu i'w gadw wedi ei orchuddio - ail gynheswch cyn gweini.

    Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Parti Bwyd Beca.

    Rysáit gan Beca Lyne-Pirkis.

    Mwy gan Beca Lyne-Pirkis:

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?