Tynnwch y cerrig o'r eirin gwlanog a'u sleisio cyn eu gosod yn y bowlen gyda 50g o siwgwr mân, 40g o'r siwgwr brown, 1 llwy de o sinamon, nytmeg, sinsir, gwasgiad o sudd lemwn a blawd corn.
Cymysgwch bopeth tan fod y gymysgedd yn gytbwys, wedyn rhowch y cyfan mewn tun rhostio a'i goginio am 10 munud.
Mewn powlen arall, cymysgwch y blawd plaen, 50g o siwgwr mân a'r 45g o'r siwgwr brown sy'n weddill, powdwr pobi a phinsied o halen.
Torrwch y menyn yn giwbiau a'i rwbio i mewn i'r blawd tan fod y gymysgedd yn debyg i friwsion bara.
Gan ddefnyddio cyllell, arllwyswch a throi'r dŵr berwedig iddo tan fod y gymysgedd
yn cyfuno.
Unwaith mae'r eirin wedi coginio am 10 munud, rhaid gollwng llwyeidiau o'r gymysgedd ar y ffrwythau.
Cymysgwch 3 llwy fwrdd o siwgwr mân ychwanegol gydag 1 llwy de o sinamon a'i ysgeintio fel eira dros y pwdin.
Pobwch am 20–25 munud, neu tan fod y pwdin yn troi'n euraidd.
I'w weini'n dwym gyda hufen iâ.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Parti Bwyd Beca.