S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Beca Lyne-Pirkis

    Beca Lyne-Pirkis

    calendar Dydd Mercher, 14 Rhagfyr 2016

  • Cebabs ffrwythau

    Kebabs Ffrwythau

    Cynhwysion

    • 1 pinafal
    • 4 eirin gwlanog
    • 2-3 llwy fwrdd o siwgr brown
    • 2-3 llwy fwrdd o rym

    I'w gweini

    • iogwrt Groegaidd
    • cnau coco mân wedi tostio
    • ychydig o sudd leim

    Dull

    1. Tynnwch y croen oddi ar y binafal a'i dorri mewn i chwarteri, tynnwch y canol allan.
    2. Torrwch mewn i faint sy'n hawdd i'w bwyta a'i rhoi ar skewers bambŵ.
    3. Torrwch 4 eirin gwlanog yn eu hanner a thynnu'r garreg allan. Torrwch i mewn i chwarteri gan adael y croen ymlaen. Rhowch ar y skewers bambŵ.
    4. Gorchuddiwch y kebabs gyda siwgr ac ychydig o rym!
    5. Coginiwch ar farbeciw neu o dan y gril gan ei droi bob hyn a hyn.
    6. Bwytwch y kebabs yn gynnes gydag ychydig o crème fraiche, cnau coco wedi tostio a sudd leim!

    Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Parti Bwyd Beca.

    Rysáit gan Beca Lyne-Pirkis.

    Paru â jin?

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?