Twymwch y ffwrn i 190°C / Ffan 170°C / Nwy 5 ac irwch a leiniwch dun crwn 9 modfedd.
Malwch gnau pistachio mewn prosesydd bwyd cyn eu rhoi mewn powlen fawr gyda semolina, cnau coco sych, blawd codi a siwgwr.
Toddwch y menyn a'i ychwanegu gyda'r cynhwysion sych, iogwrt a blas fanila.
Cymysgwch gyda llwy bren tan fod y cyfan wedi cyfuno cyn ei arllwys i mewn i'r tun sydd wedi ei iro.
Llyfnwch y top gyda llwy, wedyn, gyda chyllell finiog, marciwch y diamwntiau.
Rhowch gnewyllyn pistachio yng nghanol pob diamwnt a'i bobi ar y silff ganol am 35–40 munud.
Tra mae'r gacen yn pobi, gwnewch y surop drwy doddi siwgwr mân mewn dŵr mewn sosban fach dros wres canolig.
Gadewch i'r hylif fyrlymu am 5 munud cyn ei dynnu oddi ar y gwres ac ychwanegu ychydig o sudd lemwn a dŵr rhosod.Unwaith mae'r gacen wedi pobi, tynnwch hi o'r ffwrn a thorrwch ar hyd y llinellau sydd eisoes wedi eu marcio i wneud y diamwntiau yn amlwg eto.
Arllwyswch y surop dros y gacen pan mae'r sbwng yn dal yn dwym.
Gadewch y gacen i oeri yn y tun cyn ei gweini.
Tip: gallwch ddefnyddio cnau almwn yn hytrach na pistachio, a dŵr blodau orenau yn hytrach na'r dŵr rhosod.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Parti Bwyd Beca.