Hoffech chi briodi ar Priodas Pum Mil yn 2023?
Ydych chi'n awyddus i briodi yn 2023 ac yn fodlon i deulu a ffrindiau drefnu eich priodas am £5000? Pa fath o briodas hoffech chi? Seremoni ar ben mynydd? Priodas Dolig? Dramor? Rhown gynnig ar drefnu unrhyw beth a fydd yn gwneud eich diwrnod yn un bythgofiadwy a phersonol i chi!
Os ydych chi neu rywun rydych chi'n 'nabod eisiau priodi yn 2023 - cysylltwch! Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn fantais i rai o aelodau'r criw o deulu a ffrindiau fydd yn helpu efo'r trefnu. Mae croeso i unrhyw un ymgeisio ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bob sector o'r gymuned yn enwedig gan y rhai sy'n cael eu tangynrychioli.
Mi fydd y gyfres yn ffilmio yn achlysurol o fis Mai 2023 ac mi fydd y cyfnod ffilmio ar gyfer priodasau unigol oddeutu 6 diwrnod wedi eu rhannu i ddau gyfnod.
Anfonwch eich ceisiadau drwy ddefnyddio'r ffurflen gais sydd i'w gweld ar: www.priodas.cymru
E-bostiwch priodaspummil@boomcymru.co.uk neu ffoniwch 07827 041 544
Dyddiad cau: 24/02/23