Diolch am ddod i'r cyfarfod Zoom diweddar i drafod cyfleu cynnwys drwy Signiant yn ystod ein cyfnod profi ar gyfer y symud.
Dylech fod wedi derbyn eich gwybodaeth mewngofnodi unigol ar gyfer y cyfrif newydd Signiant Sgwâr Canolog erbyn hyn a byddem yn gofyn yn garedig i chi ddechrau darparu cynnwys o 0100 dydd Gwener Awst 7fed 2020 i S4C Parc Tŷ Glas a BBC Sgwâr Canolog – dylid rhoi blaenoriaeth ar hyn o bryd i S4C Parc Tŷ Glas wrth i ni barhau i ddarlledu oddi yno yn ystod y cyfnod profi.
I fod yn glir, mae rhaid nawr anfon y ffeil cynnwys i'r ddau leoliad.
Os nad oeddych ar y galwad, ac os nad ydych wedi anfon eich gwybodaeth ar gyfer cyfrif Signiant i ni eto -plis cysylltwch â ni.
I orffen, mae'n bwysig iawn fod enw'r ffeil cynnwys yn gywir gan fod sawl ffeil gyda'r enw anghywir wedi ei dderbyn ers i ni diweddaru chi mis Ionawr 2020 - wele y gwybodaeth YMA