Fel rhannwyd yn y cyfarfod sector diweddar, mae S4C yn bwriadu lansio cartref newydd ar gyfer ryseitiau S4C.
Bydd Cegin S4C yn cynnwys ryseitiau newydd ac o'r gorffennol, yn eu pecynnu i gategorïau perthnasol ac yn cynnig awgrymiadau tymhorol ynghyd â syniadau ar gyfer achlysuron arbennig ble mae bwyd yn ganolbwynt.
Heddiw, 17 Rhagfyr, mae gwasanaeth peilot wedi mynd yn fyw gyda'r bwriad o gasglu adborth gan ddefnyddwyr i lywio datblygiad pellach.
Bydd Cegin S4C yn cynnig ryseitiau Cymraeg i bawb gan gynnwys opsiwn Saesneg. Er mwyn sicrhau cysondeb trwy gydol y gwasanaeth, gofynnwn i gwmnïau sy'n cynhyrchu rhaglenni neu eitemau bwyd a choginio gyflwyno gwybodaeth ddwyieithog o'r ryseitiau i'w cynnal ar Cegin S4C. Gellir gwneud hyn trwy lenwi ffurflen cyfleu a'i hanfon trwy e-bost at cegin@s4c.cymru.
Gyda chomisiynau newydd, rydym yn croesawu trafodaethau am ryseitiau ychwanegol sydd y tu allan i'r cynhyrchiad ei hun. Bydd cynnig ryseitiau unigryw ar Cegin S4C yn cefnogi'r gyfres ymhellach ac yn ymestyn profiad y gwyliwr.
Bydd pob rysáit ar Cegin S4C yn cynnwys y canlynol:
Delwedd o'r eitem wedi'i choginio
Cynhwysion
Dull
Amser paratoi
Amser coginio
Anghenion dietegol
Nifer gweini
Cynnwys Fideo ar ffurf linc YouTube.
Enw'r gyfres
Os hoffech sgwrs pellach neu os oes gennych unrhyw gwestiynau parthed Cegin S4C, cysylltwch trwy cegin@s4c.cymru os gwelwch yn dda.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?