Mae Llywodraeth y DU wedi datgan bod yn rhaid i ni nawr ddysgu "Byw gyda COVID". Mae wedi bod yn amlwg ers peth amser na fyddai COVID-19 yn cael ei ddileu, a bwriad y nodyn hwn yw nodi sefyllfa'r diwydiant ar gyfer cynyrchiadau wrth symud ymlaen. Dylai cwmnïau cynhyrchu barhau i fonitro'r sefyllfa, gan wneud newidiadau pellach yn ôl yr angen.