Gwahoddiad i dendr - Cyfres Newydd Gogglebocs Cymru
Fel rhan o ymrwymiad parhaus S4C i ddarparu gwasanaeth amrywiol a chynnwys beiddgar, sy'n adlewyrchu'r Gymru fodern a chyfoes, mae S4C yn falch iawn o gadarnhau heddiw bod ceisiadau ar agor i gwmnïau cynhyrchu dendro am fersiwn Gymraeg o fformat Channel 4 a Studio Lambert o Gogglebox (dan drwydded i S4C gan Studio Lambert). Y bwriad yw darlledu ddiwedd Hydref 2022 cyn cyfres ddiweddaraf Channel 4. Teitl y fformat hwn fydd Gogglebocs Cymru.
Bydd Gogglebocs Cymru yn chwarae rhan bwysig yn narpariaeth S4C, a bydd y cwmni buddugol yn cydweithio ag S4C, Channel 4 a Studio Lambert i sicrhau llwyddiant y cynhyrchiad yn yr iaith Gymraeg.
Bydd angen i'r castio adlewyrchu'r Gymru fodern yn ei chyfanrwydd a bydd y gyfres yn rhan o ymgyrch penblwydd S4C yn 40 oed, i ddathlu cymeriadau Cymreig o gwmpas Cymru a siaradwyr Cymraeg yng ngweddill y DU a'r cyffiniau.
Fel rhan o'r broses hon, bydd S4C hefyd yn croesawu syniadau ychwanegol a fydd yn ehangu'r cyrhaeddiad, yn enwedig yn aml-lwyfan ac yn ddigidol.
Dywedodd Prif Swyddog Cynnwys S4C, Llinos Griffin-Williams: "Rwyf wrth fy modd bod Channel 4, am y tro cyntaf, wedi gwneud eithriad gydag un o'u fformatau mwyaf gwerthfawr, drwy gytuno i ryddhau Gogglebox yn y DU yn unig i S4C. Fel dau ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus, sydd â pherthynas waith agos a chydweithredol, rydym yn falch iawn o gael ei hymddiriedaeth â brand mor bwysig."
Mae S4C yn cyhoeddi Gwahoddiad i Dendro ar gyfer Cyfres Gogglebocs Cymru - dyddiad cau 19 Awst, hanner dydd.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r cais yw canol dydd, 12fed Awst.