Gwahoddiad i ddatgan diddordeb: Cytundeb Fframwaith Dybio Animeiddiadau Plant
Gwahoddir ymgeiswyr i fod yn rhan o gytundeb fframwaith ar gyfer dybio cyfresi a rhaglenni animeiddiedig ar gyfer gwasanaethau plant S4C gan gynnwys Cyw a Stwnsh.
Mae S4C yn rhagweld yr angen i drwyddedu oddeutu 6 cyfres neu raglenni plant unigol yn flynyddol. S4C fydd yn gyfrifol am ddewis ac ymrwymo i gytundeb gyda pherchennog yr hawliau yn unrhyw gyfres neu raglen animeiddiedig y dymuna S4C ei darlledu.
Mae S4C yn edrych am nifer cyfyngedig o gyflenwyr (uchafswm o 6 a lleiafswm o 3) i ffurfio fframwaith o ddarparwyr sydd yn medru dybio rhaglenni animeiddiedig i'r Gymraeg yn ôl y gofyn. Hysbysir y gwaith i'r cwmnïau ar y fframwaith ar sail prosiect neu brosiectau yn ôl y galw
Cynigir cytundeb o bedair blynedd (2023 i 2027) gyda'r opsiwn i ymestyn am flwyddyn ychwanegol (2028) ar yr un telerau. Bydd S4C yn adolygu cytundeb a pherfformiad pob ymgeisydd llwyddiannus ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf a chedwir yr hawl i derfynu cytundeb ar unrhyw adeg yn dilyn y fath adolygiad.
Rydym yn gwahodd cwmnïau cynhyrchu annibynnol, sydd â phrofiad o ddybio ac addasu'r math yma o raglenni, i ddatgan eu diddordeb drwy ddanfon e-bost at tendr@s4c.cymru erbyn hanner dydd dydd Gwener Mai 12fed 2023. Fe fydd pob cwmni sy'n datgan eu diddordeb yn derbyn dogfen drwy e-bost erbyn diwedd yr un dydd Mai 12fed 2023, sy'n amlinellu'r manylion pellach.
Fel rhan o'ch ymateb tendr, bydd disgwyl i chi wylio'r rhaglen enghreifftiol a danfon eich gweledigaeth ar gyfer y fersiwn Gymraeg yn ogystal â chyllideb a chynllun gwaith yn seiliedig ar y rhaglen enghreifftiol. (Nid oes disgwyl i chi baratoi rhaglen wedi ei haddasu.)
Y dyddiad cau bydd 12:00 dydd Mercher 7fed o Fehefin 2023 a byddwn yn anelu i apwyntio'r cwmniau llwyddiannus erbyn diwedd Dydd Mawrth 13eg o Fehefin 2023.
Byddwn yn asesu'r ymatebion ar sail y meini prawf a nodir yn y gwahoddiad i dendr.
Anelir i ddechrau'r cytundeb gyda'r cwmniau llwyddiannus ym mis Mehefin 2023.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?