Gwahoddiad i wneud cais - Ffilm Ryngweithiol Gymraeg
Mae S4C a Wales Interactive yn cynnig cyfle unigryw i awduron sgriptiau creadigol gyflwyno syniadau posibl ar gyfer creu ffilmiau rhyngweithiol hir i'w darparu yn y Gymraeg ac ieithoedd eraill.
Bydd hyd at dri ymgeisydd llwyddiannus yn cael eu dewis i gymryd rhan mewn cylch datblygu wedi'i ariannu am dri mis. Bydd hyn yn cynnwys nid yn unig adborth golygyddol a chymorth creadigol ond mynediad hefyd i feddalwedd sgriptio rhyngweithiol chwyldroadol WIST gan Wales Interactive. Mae WIST yn galluogi awduron i baratoi sgriptiau naratif rhyngweithiol aml-gyfeiriadol y gellir eu chwarae fel bod y gwyliwr yn rheoli'r stori.
Mae Wales Interactive wedi bod yn cynhyrchu ffilmiau rhyngweithiol llwyddiannus a gemau fideo ar gyfer y consol next-gen, cyfrifiaduron a ffonau symudol am nifer da o flynyddoedd ac fe hoffem nhw gyd-gomisiynu'r ffilm ryngweithiol gyntaf erioed yn y Gymraeg mewn partneriaeth ag S4C. Mae S4C yn ystyried y cydweithio hwn fel ffordd hynod gyffrous o gyflwyno cynnwys Cymraeg i gynulleidfa fyd-eang - darpariaeth fydd y tu hwnt i ddarlledu llinol drwy gyfrwng llwyfannau dosbarthu newydd.
Yn dilyn y broses ddatblygu, yr uchelgais yw ariannu a chynhyrchu ffilm fyw, ryngweithiol Gymraeg i'w dosbarthu drwy gonsol gêm next-gen ynghyd â 'thoriadau'r cyfarwyddwr' ar gyfer darllediadau llinellol nad ydyn nhw'n rhyngweithiol a fydd ar gael i'w darlledu ar S4C, S4C Clic ac BBC iPlayer.
(Sylwch na allwn warantu y bydd unrhyw un o'r sgriptiau fydd yn cael eu paratoi drwy'r gwahoddiad hwn yn cael eu dewis a'u cymeradwyo ar gyfer eu cynhyrchu).
Canllawiau ar gyfer cyflwyno'r cais:
Dylai eich cais ar gyfer cyflwyno syniadau gynnwys y canlynol:
Amlinelliad o'r syniad heb fod yn fwy na 4 tudalen.
Datganiad Cenhadaeth yr awdur, gan nodi'r potensial ar gyfer elfennau rhyngweithiol a'r potensial o ddewisiadau o storïau ar gyfer y Defnyddiwr.
Bwrdd yn arddangos eich syniadau yn weledol (Mood Board) er mwyn cyfleu'r syniadaeth a 'theimlad' y syniad.
Prif Feini Prawf:
Y dewis thema neu'r genre fyddai'n cael ei ffafrio fyddai "ffilm ias a chyffro".
Y targed delfrydol fyddai'r grŵp demograffig 16-35-oed.
Rydym yn croesawu syniadau sy'n defnyddio iaith yn greadigol ac sy'n dweud y stori o fewn fformat rhyngweithiol.
Bydd y ffilmiau'n rhai byw yn unig ac ni ddylen nhw gynnwys unrhyw elfennau CGI o faint.
Nid oes angen profiad blaenorol o wneud ffilmiau rhyngweithiol. Fodd bynnag, mae'n RHAID i bob cais gael ei gyflwyno drwy gwmni teledu neu gwmni ffilm achrededig yng Nghymru.