Gwybodaeth Pwysig - Newidiadau a Diweddariadau i system cyfleu gwaith papur cynnwys ar-lein S4C (PAC)
O fewn yr wythnosau nesaf, rydym yn gobeithio cyflwyno diweddariadau i system ar-lein PAC S4C - https://pac.s4c.cymru/
Bydd y rhain yn cynnwys sawl gwelliant i brofiad y defnyddiwr a gwelliannau i'w ymarferoldeb - i gyd yn seiliedig ar adborth diweddar gan ddefnyddwyr.
Rydym hefyd wedi gwella'r ffordd y caiff gwybodaeth ei storio a'i chadw ar ein gweinyddwyr i wella cyflymder a diogelwch.
Oherwydd y gwelliannau angenrheidiol hyn, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn newid eich cyfrinair ar gyfer PAC i gynnwys hyd at 6 nod, (o leiaf un llythyren achos uchaf, un llythyren achos is, un digid ac un symbol arbennig na all fod yn ddyfyniad sengl neu ddwbl) - a sicrhau bod cyfeiriad e-bost cywir i'r defnyddiwr er mwyn osgoi cael eich cloi allan wrth i ni ddechrau'r ymfudo i'r fersiwn diweddaraf.
Bydd cwmnïau gyda gweithwyr llawrydd sy'n defnyddio PAC hefyd angen newid eu cyfrinair.