Mae S4C yn y broses o gwblhau'r cytundeb ar gyfer darlledu teledu ac ar-lein yn y Gymraeg ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2019 yn Siapan. Mae'r hawliau wedi eu selio ar ddarlledu y canlynol: 9 gêm, gan gynnwys y seremoni agoriadol a'r gêm cyntaf. Pedwar gêm Grŵp D, un gêm go gyn derfynol, un gêm gyn-derfynol, gêm efydd a'r gêm derfynol.
Uchelgais S4C yw sicrhau'r gwasanaeth gorau i'r gwylwyr. Ein bwriad yw comisiynu darpariaeth awdurdodol sy'n cipio awyrgylch y digwyddiad byd-eang yma.
Mae hwn yn gyfle i leoli S4C fel prif wasanaeth Cwpan Rygbi'r Byd o safbwynt Cymreig.
Darllen mwy yma
Cytundeb ddrafft yma
Dyddiad cau: 12:00 Hanner dydd 10/08/18
Oes clipiau o'r gemau eraill ar gael?
Ateb 1
Oes, mae'r cytundeb yn caniatáu hyn.
Cwestiwn 2
Sut fyddwn ni'n cael mynediad i'r clipiau?
Ateb 2
Nid yw'r manylion yma ar gael ar hyn o bryd, ond fel arfer mae Rygbi'r Byd yn sicrhau fod y clipiau ar gael o borth canolog y darlledwr cartref (host broadcaster). Fel arall, bydd y gemau eraill a phecynnau uchafbwyntiau a baratowyd gan Cwpan Rygbi'r Byd (CRB) ar gael trwy borth lloeren/ porth rhyngwladol.
Cwestiwn 3
A fydd S4C yn darparu pecyn graffeg neu oes disgwyl i'r cwmni cynhyrchu ddyblygu arddull a ddaw gan y darlledwr cartref /CRB?
Ateb 3
Y cwmni cynhyrchu fydd yn gyfrifol am greu'r graffeg, a bydd rhaid i hyn gydymffurfio gyda chanllawiau brand a'u cyflwyno i CRB o flaen llaw am gymeradwyaeth.
Cwestiwn 4
Allwch chi ail-ddanfon Atodiad D, nid oeddwn yn gallu agor cerdyn cyfradd IMG 2015?
Ateb 4
Mae hyn ar gael ar wefan y tendr, cliciwch ar ATODIAD D neu cliciwch yma
Cwestiwn 5
Ble fydd y darlledwr cartref (host broadcaster) yn cyflwyno'r signal, a fydd rhaid ei godi o'r safle?
Ateb 5
Mi fydd y darlledwr cartref (host broadcaster) yn uwch lwytho i lwybr lloeren a phorth rhyngwladol - mi fydd y cwmni cynhyrchu yn gyfrifol yn dechnolegol ac yn ariannol am lawr lwytho ac yn gyfrifol am gael mynediad y porthiant trwy'r mannau priodol.
Cwestiwn 6
Mae'r ddogfen yn nodi bydd unrhyw gyfweliadau yn cael eu cynnal ar y 6ed o Awst ond dyddiad cyflwyno'r tendr yw'r 10fed o Awst. Allwch gadarnhau dyddiadau posib i'r cyfweliadau?
Ateb 6
Dyddiad y cyfweliadau yw 15fed o Awst
Cwestiwn 7
Beth yw'r rheolau a chyfyngiadau hawliau digidol?
Ateb 7
Mae'r hawliau digidol yn ymestyn i ddarllediad cydamserol a hawliau ar alw ar gyfer y gemau ar wefan S4C a BBC IPlayer, a chlipiau ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol S4C (yn amodol ar gyfnod dal yn ôl byr, hyn i'w gadarnhau). Rhaid sicrhau fod holl gynnwys digidol wedi eu cyfyngu i'r DU.
Cwestiwn 8
Oes angen i ni weithio at 30 munud o adeiladu tensiwn ar gyfer yr holl gemau heblaw am y seremoni agoriadol a'r gêm?
Ateb 8
At bwrpas y tendr rydym yn cynghori i chi weithio at 30 munud (union hyd 23 munud) o adeiladu tensiwn ar gyfer pob gêm fyw, ond rydym yn cadw'r hawl i addasu hyn. Ni fyddwn yn cynyddu i dros 30 munud. Bydd angen i drefn y rhaglen cael ei chymeradwyo o flaen llaw gan y CRB.