S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Hysbysebu ar S4C

Tyn Lon Volvo

Cefndir

Gan mai ni yw'r unig werthwr Volvo yng ngogledd Cymru, gydag amrywiaeth o geir Volvo newydd ac ail-law, mae'n bwysig ein bod ni'n hybu nifer yr ymwelwyr i'n canolfan arddangos. Roedd arnom angen ffordd i gynyddu nifer yr ymwelwyr presennol, yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o'r cynigion cyllid sydd ar gael i gwsmeriaid.

Rydym ni'n gwerthu ceir Volvo o'r radd flaenaf, ac mae'n bwysig bod y cwsmer yn gallu eu gweld nhw yn y ganolfan arddangos a chael eu hannog i roi cynnig ar yrru'r car, ar ôl gweld car fyddai'n plesio.

Gweithredu

Doedden ni ddim wedi hysbysebu ar y teledu o'r blaen, a chawsom ein synnu ar yr ochr orau gan y costau. Roeddem ni'n fach iawn pan ddywedodd tîm hysbysebu S4C wrthym am y pecynnau teledu newydd oedd ar gael i ni, fel hysbysebwr newydd, a helpodd yn fawr iawn tuag at gostau cynhyrchu'r hysbyseb deledu. Roedd y broses yn hawdd. Cawsom ein cyflwyno i un o bartneriaid cynhyrchu'r tîm hysbysebu, a siaradodd â ni am ba negeseuon yr oeddem ni eisiau eu cyflwyno yn yr hysbyseb a pha ganlyniadau yr hoffem eu cyflawni. Roeddem ni'n gallu adolygu'r sgript cyn ei gynhyrchu, yn ogystal ag adolygu'r amserlen a oedd yn dangos pa raglenni y byddai ein hysbyseb yn cael ei gosod o'u cwmpas. Rhaid dweud ein bod ni'n falch iawn gan y cawson ni gyfle i hysbysebu o gwmpas rhaglenni mwyaf blaenllaw S4C.

Cynhyrchwyd yr hysbyseb teledu ar ein cyfer, ac rydym ni wedi gallu ei gynnwys gyda'n sianel cyfryngau cymdeithasol ein hunain.

Canlyniadau

Ar ôl hysbysebu ar S4C, gwelsom gynnydd yn nifer y bobl yn ymweld â'n canolfan arddangos a chynnydd hefyd o ran gwerthiant a diddordeb yn ein cynigion cyllid, felly ry'n ni'n falch iawn â'r canlyniad!

Roedd y tîm hysbysebu yn S4C yn wybodus iawn a rhoddwyd gwasanaeth proffesiynol i ni, a byddem yn argymell i gwmnïau sy'n ofidus ynghylch cymryd y cam i mewn i hysbysebu ar y teledu, i siarad â'r tîm, oherwydd maen nhw'n darparu amserlenni manwl sy'n cyd-fynd â nodau, amcanion a gwerthoedd brand eich cwmni. Yn ogystal, maen nhw'n rhoi cyfle i chi gymryd rhan, sy'n gwneud y broses yn gyffrous a boddhaus.

Neil Williams

Perchennog

Garej Tyn Lon Cyfyngedig

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?