S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Hysbysebu ar S4C

Crystalyx

Cefndir

Mae blociau porthi Crystalyx yn darparu math o atchwanegiad ynni uchel ar gyfer prif ddietau bwyd defaid, a gwartheg eidion a godro. Cynhaliwyd ymchwil helaeth arnynt mewn rhai o'r sefydliadau amaethyddol gorau yn y byd, a phrofwyd bod blociau porthi Crystalyx yn rhoi adenillion sylweddol ar fuddsoddiad i ffermwyr da byw. Caiff blociau porthi Crystalyx eu gweithgynhyrchu gan ddefnyddio proses â phatent, ac maent yn isel o ran lefel lleithder ac yn hynod gyson. Amcan cyffredinol y prosiect hwn oedd hyrwyddo brand Crystalyx, a chynyddu maint y gwerthiant.

Gweithredu

Gan fod gennym ni gynnyrch unigryw â buddion cynnyrch unigryw, doedden ni ddim yn meddwl y byddai hysbysebu ar y teledu yn rhywbeth fyddai wedi gweithio. Fodd bynnag, ar ôl siarad â chynrychiolydd gwerthu o dîm gwerthu hysbysebion S4C, fe wnaethom ni ganfod bod eu gwybodaeth am y diwydiannau amaethyddol yng Nghymru, a'r rhaglenni amaethyddol ar S4C i gyd-fynd â'r mathau hyn o ddiwydiannau, heb ei hail. Crëwyd argraff dda arnom gan y wybodaeth a ddarparwyd gan y tîm gwerthu - y ffordd y mae'r rhaglenni amaethyddol yn gallu cyrraedd cynulleidfa benodol. A chan nad oeddem ni wedi hysbysebu o'r blaen, roeddem ni'n gallu manteisio ar y pecyn hysbysebu i hysbysebwyr newydd. Cawsom olwg o'r amserlen hysbysebu a'r broses gyfan, o drefnu slotiau hysbysebu, i gynhyrchu'r hysbyseb. Roedd y cyfan yn syml.

Canlyniadau

Sylwon ni ar gynnydd mawr mewn gweithgarwch ar ein gwefan pan roedd ymgyrch hysbysebion teledu S4C yn rhedeg ochr yn ochr ag ehangu'r brand o fewn y diwydiant ar sail tir yng Nghymru, a thu hwnt. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl pe na fyddem ni wedi ystyried, ac wedyn hysbysebu, ar y sianel hon. Bydd yn ffurfio rhan o'n cymysgedd marchnata yn y dyfodol, gan ei bod hi'n ffordd uniongyrchol iawn o hysbysebu ein cynhyrchion i gynulleidfa benodol iawn. Roeddem ni'n falch iawn â'r canlyniad terfynol.

Graeme Warnock

Rheolwr Marchnata

Caltech Crystalyx/Scotmin Nutrition

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?