Stwnsh

Stwnsh

TEKKERS Byw!

Mae criw Tekkers yn cymryd slot Stwnsh Sadwrn ar Gorffennaf 5! Heledd Anna, Lloyd Lewis a Huw Owen sy’n cyflwyno rhagflas arbennig i’r teulu i gyd cyn gêm gyntaf Menywod Cymru ym Mhencampwriaeth yr Ewros.

Gyda gemau i brofi Tekkers y timau yn y stiwdio, cystadlaethau a chyfweliadau gyda’r garfan. Tra bydd Cadi Beaufort a Jed O’Reilly yn fyw o glwb pêl droed rhywle yng Nghymru - ond ble?
 

Eisiau ni ddarllen dy neges ar y sioe? Tecstia: TEKKERS + dy enw + dy neges i 80800