
CYSTADLEUAETH STWNSH SADWRN CYFLE I ENNILL £350 WERTH O DALEBAU AR GYFER SNOWDOME, TAMWORTH + £100 TUAG AT COSTAU TEITHIO
I gystadlu mae’n rhaid i ti roi dy enw, cyfeiriad e-bost, dy oedran a rhif ffôn ar wefan STWNSH SADWRN, neu ffonia ar 08000 727877 neu tecstia SADWRN gyda dy enw i 80800.
Bydd y gystadleuaeth yn cau am 12:00 ar ddydd Iau, 18fed o Ragfyr 2025.
CYSTADLEUAETH STWNSH SADWRN CYFLE I ENNILL £350 WERTH O DALEBAU AR GYFER SNOWDOME, TAMWORTH + £100 TUAG AT COSTAU TEITHIO
I gystadlu mae’n rhaid i ti roi dy enw, cyfeiriad e-bost, dy oedran a rhif ffôn ar wefan STWNSH SADWRN, neu ffonia ar 08000 727877 neu tecstia SADWRN gyda dy enw i 80800.
Bydd y gystadleuaeth yn cau am 12:00 ar ddydd Iau, 18fed o Ragfyr 2025.
Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.
Dewisir un enillydd ar hap o blith yr enwau sydd wedi cystadlu erbyn y dyddiad a'r amser cau. Bydd penderfyniad Boom Cymru / S4C ynghylch yr enillydd yn derfynol, ac ni atebir unrhyw ohebiaeth.
PECYN O WOBRAU –£350 WERTH O DALEBAU AR GYFER SNOWDOME, TAMWORTH + £100 TUAG AT COSTAU TEITHIO
Bydd yr enillydd yn cael gwario £350 o dalebau yn y SnowDome, Tamworth.
Mi fydd Boom Cymru yn cyfrannu £100 tuag at gostau teithio.
Mae'n rhaid bod yn 16 oed neu iau i gystadlu.
Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar rhaglen STWNSH SADWRN, dydd Sadwrn 20fed o Ragfyr, 2025. Bydd Boom Cymru yn cysylltu drwy ffonio'r enillydd ar ôl y dyddiad cau.
Trwy gystadlu, mae'r ymgeisydd yn cytuno, os byddant yn ennill y gystadleuaeth, y gall Boom Cymru / S4C ddefnyddio ei enw a'i llun at ddibenion hyrwyddo.
Ni i fydd modd hawlio swm ariannol yn gyfnewid am y wobr.
Ni fydd Boom Cymru ac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad cau. Ni ellir derbyn bod prawf anfon e-bost yn cyfateb â phrawf ei bod wedi cyrraedd.
Os na fydd modd i Boom Cymru ac S4C gysylltu â'r enillydd trwy gyfrwng y manylion cyswllt a ddarparwyd, neu os na fydd modd gwneud trefniadau i ddosbarthu neu gasglu'r wobr yn dilyn ymdrechion rhesymol gan Boom Cymru / S4C i wneud hynny, bydd gan Boom Cymru / S4C yr hawl i roi'r wobr i enw arall a ddewisir ar hap o'r holl geisiadau.
Mae Boom Cymru ac S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r amodau a thelerau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.
Ar wahân at ddibenion gweinyddu'r gystadleuaeth ac i hyrwyddo enw'r enillydd, ni fydd S4C/Boom Cymru yn defnyddio gwybodaeth bersonol yr ymgeiswyr, ac ni fydd yn defnyddio data o'r fath at unrhyw ddibenion eraill.
Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.
Trefnir a hyrwyddir y gystadleuaeth hon gan Boom Cymru, Gloworks, Ffordd Porth Teigr, Caerdydd, CF10, 4GA a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C ar 0370 600 4141.
Mae'r gystadleuaeth ar agor i bawb ar wahân i staff S4C, staff cwmni Boom Cymru TV Cyf., aelodau agos o'u teuluoedd a chwmnïoedd sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.