Pwrpas S4C yw gwasanaethu'r gynulleidfa gyda chynnwys sy'n diddanu, cyffroi ac sy'n adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth. Fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus, mae gennym ddyletswydd i greu llwyfan ac ecosystem i ysgogi'r diwydiannau creadigol yng Nghymru i greu cynnwys uchelgeisiol ac unigryw sy'n apelio at bob oedran, cefndir a gallu ieithyddol.
Rydym yn chwilio am Ddatblygwr Gwe profiadol sy'n gallu addasu i dechnolegau newydd a'u dysgu. Pwrpas y rôl yw i ddatblygu darpariaethau digidol S4C, gwella profiad y defnyddiwr, a chyflwyno nodweddion newydd ynghyd â datblygu llwyfannau a gwasanaethau newydd. Bydd y Datblygwr Gwe yn gyfrifol am wneud gwaith datblygu fel rhan o strategaeth ddigidol S4C.
Byddwch yn gyfrifol am waith datblygu a chynnal a chadw, gan gynnwys rhaglenni gwe, rhaglenni symudol, llwyfannau a gwefannau. Mae'r rôl hon yn rhan o'n Hadran Ddigidol a Marchnata ac mae'n rhan o'r tîm Datblygu. Byddwch yn adrodd i'r Uwch Ddatblygwr.
Manylion Eraill
Lleoliad: Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac rydym yn gweithredu polisi hybrid ynghyd ag ystod eang o batrymau gwaith hyblyg. Cysylltwch â adnoddau.dynol@s4c.cymru os hoffech ragor o wybodaeth am hyn.
Cyflog: Yn unol â phrofiad
Cytundeb: Parhaol
Oriau Gwaith: 35¾ yr wythnos
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Llun 11 Gorffennaf 2022 at adnoddau.dynol@s4c.co.uk neu'r adran Adnoddau Dynol, S4C, Canolfan S4C yr Egin, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.