S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Swyddi

Pwll Llawrydd Uwch Newyddiadurwr Digidol

Dyma gyfle i fod yn rhan o wasanaeth arloesol fydd yn siapio hinsawdd newyddiadurol Cymru i'r dyfodol.

Gyda bys ar byls newyddion Cymreig a'r cyfryngau digidol bydd gennych syniadau creadigol a dyfeisgar am sut i ddatblygu gwasanaeth digidol o'r newydd a denu dilyniant.

Bydd gennych brofiad golygyddol a dealltwriaeth o'r gyfraith yn ymwneud â'r wasg a'r cyfryngau, yn ogystal â'r gallu i adeiladu perthnasau positif gyda phobl a sefydliadau er mwyn datblygu a chynnal partneriaethau.

Gyda sgiliau ieithyddol cryf bydd gennych y gallu i sicrhau safon a chywirdeb, a'r ddawn i gynnal tôn ac arddull priodol ar gyfer y gwasanaeth.

Bydd gennych drwyn am stori a'r gallu i fod yn greadigol gyda'r cynnwys gan gynhyrchu cynnwys o safon sy'n dal y llygad ac yn creu sŵn.

Byddwch yn arddel gwerthoedd cynhwysol a byddwch yn frwd dros sicrhau bod amrywiaeth o bob math yn cael ei adlewyrchu gan y gwasanaeth.

Mae'r gallu i gyfathrebu yn rhugl i lefel uchel yn y Gymraeg a Saesneg gyda staff ac eraill ar bob lefel, yn ysgrifenedig ac ar lafar, a'r sgiliau i sicrhau cywirdeb ieithyddol y gwasanaeth yn hanfodol i'r rôl yma.

Manylion eraill

Lleoliad: Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.

Cyflog: £29.28 yr awr yn ogystal â thal gwyliau

Cytundeb: Llawrydd PAYE

Oriau Gwaith: Hyblyg

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 17.00 ar ddydd Mercher 29 Mawrth 2023 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Manylion Swydd

Ffurflen Cais

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?