Swyddi

Swyddi

Aelodau Anweithredol o Fwrdd S4C

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn awyddus i benodi dau Aelod Anweithredol newydd i Fwrdd Sianel Pedwar Cymru.

Rhaid i aelod anweithredol weithredu mewn modd annibynnol a gwrthrychol, gan ddod ag arbenigedd i waith y Bwrdd, yn ogystal â chraffu arno a’i herio, i gefnogi a chyfrannu at gyfeiriad strategol a llywodraethu'r sefydliad. 

Rôl yr aelod anweithredol yw darparu gwybodaeth, arbenigedd a goruchwyliaeth heb fod yn rhan o weithrediadau o ddydd i ddydd. Wrth wneud hynny, dylai ddarparu her adeiladol, arweiniad strategol, cynnig cyngor arbenigol a dal rheolwyr gweithredol i gyfrif. Dylai hefyd barchu gwybodaeth a mewnbwn aelodau gweithredol Bwrdd S4C, lle maent yn defnyddio eu harbenigedd o'u swyddi yn yr Uwch Dîm Arwain yng nghyfarfodydd y Bwrdd.

Dyma brif gyfrifoldebau aelodau anweithredol o Fwrdd S4C:

  • Canllawiau Strategol: Cydweithio â'r Uwch Dîm Arwain a chyd-aelodau'r Bwrdd mewn ffordd anweithredol i ddatblygu ac adolygu amcanion, cynlluniau a mentrau strategol y sefydliad.
  • Llywodraethu: Sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â'r holl gyfreithiau, rheoliadau a safonau llywodraethu corfforaethol perthnasol. Adolygu a chymeradwyo polisïau a gweithdrefnau corfforaethol pwysig.
  • Rheoli Risg: Asesu a monitro proffil risg y sefydliad, gan gynnwys risgiau ariannol, gweithredol, cyfreithiol ac enw da. Cyfrannu at strategaethau lliniaru risg.
  • Goruchwyliaeth Ariannol: Adolygu a dadansoddi datganiadau ariannol, cyllidebau a dangosyddion perfformiad allweddol i asesu iechyd a pherfformiad ariannol y sefydliad.
  • Penodi a Chynllunio Olyniaeth: Cymryd rhan yn y broses o ddewis a phenodi Prif Weithredwr, Ysgrifennydd ac uwch swyddogion gweithredol. Cyfrannu at waith cynllunio olyniaeth ar gyfer rolau arwain allweddol.
  • Gwerthuso Perfformiad: Cymryd rhan yn y gwaith o werthuso perfformiad y Bwrdd (gan gynnwys perfformiad holl aelodau'r Bwrdd yn unigol), a'r Uwch Dîm Arwain.
  • Cysylltiadau Rhanddeiliaid: Ymgysylltu â rhanddeiliaid eraill i fynd i'r afael â phryderon a chyfleu cyfeiriad a pherfformiad strategol y cwmni.
  • Ymddygiad Moesegol a Chyfrifol: Hyrwyddo ymddygiad moesegol a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol yn y sefydliad. Cynnal y safonau uchaf o ran gonestrwydd a thryloywder.
  • Gwrthdaro Rhwng Buddiannau: Datgelu unrhyw wrthdaro posibl rhwng buddiannau ac ymatal rhag pleidleisio a/neu gyfrannu at drafodaethau ar faterion lle gallai gwrthdaro fodoli.
  • Addysg Barhaus: Bod yn ymwybodol o dueddiadau'r diwydiant, newidiadau rheoleiddiol, ac arferion gorau o ran llywodraethu corfforaethol drwy addysg a hyfforddiant parhaus.
  • Mynychu unrhyw hyfforddiant priodol a drefnir ar gyfer aelodau Bwrdd S4C yn weddol reolaidd.

 

Am fwy o wybodaeth neu sut i ymgeisio, cliciwch yma.