
Pam ymuno ag S4C?
Yn S4C, rydym yn angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu Pawb, Cer Amdani.
Mae S4C yn chwilio am Rheolwr Cyflawni Technoleg i gyflawni prosiectau mawr, effaith uchel sy'n llunio dyfodol darlledu yng Nghymru. Mae hon yn swydd gyffrous i feddwlwr strategol sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, ac sydd â brwdfrydedd dros gyflawni newid sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r diwydiant darlledu.
Trosolwg o'r Swydd
Mae S4C yn defnyddio meddalwedd rheoli gorsafoedd o'r enw BSM. Mae'r feddalwedd hon wedi'i hysgrifennu yn Delphi ac mae wedi'i haddasu'n helaeth er mwyn ei theilwra ar gyfer gofynion penodol S4C. Yn ogystal â'r feddalwedd graidd, mae dau gynnyrch pellach wedi'u datblygu gan S4C:
Cwmwl: A ddefnyddir i gyflwyno syniadau rhaglenni i S4C a dilyn cyflwyniad llwyddiannus i'r cam contract.
PAC (Programme as Completed): Defnyddir hwn i gasglu data gan gwmnïau cynhyrchu ar gyfer gwybodaeth sy'n ymwneud â'r rhaglen, er enghraifft, casglu data am y gerddoriaeth a ddefnyddir i’w adrodd i PRS.
Mae S4C wedi penderfynu bod angen mwy o feddalwedd berchnogol i ddarparu'r swyddogaethau hyn er mwyn gwneud cefnogaeth yn fwy cadarn a pheidio â bod mor ddibynnol ar system bwrpasol.
Mae'r Rheolwr Cyflawni Technoleg yn atebol am gyflwyno’r datrysiad BSM seiliedig ar gynnyrch o’i ddechrau i'w ddiwedd, gan drosi anghenion busnes a gweithredu yn ganlyniadau technegol clir, cyraeddadwy. Maent yn arwain y gwaith o ddylunio, adeiladu ac integreiddio'r cynnyrch craidd o ochr S4C, a'i systemau cysylltiedig, gan gydlynu timau mewnol a chyflenwyr trydydd parti i sicrhau bod data’n llifo’n ddi-dor, systemau wedi eu hintegreiddio’n gadarn, a pherfformiad dibynadwy. Mae'r swydd yn gyfrifol am gwmpas, cynlluniau, risgiau a dibyniaethau technegol ac yn sicrhau bod safonau saernïol, diogelwch a gweithredol yn cael eu bodloni. O’r dylunio/gofynion cychwynnol, trwy’r gwaith profi hyd at fynd yn fyw a throsglwyddo, mae'r Rheolwr Cyflawni Technoleg yn sicrhau bod y datrysiad yn cael ei gyflwyno ar amser, yn addas i'r diben, yn wydn, ac yn barod yn dechnegol ar gyfer mynd yn fyw.
Manylion eraill
Lleoliad: Swyddfa S4C, Sgwâr Canolog, Caerdydd (Mae S4C yn gweithredu polisi gwaith hybrid.).
Cyflog: £70,000 y flwyddyn
Cytundeb: 12 mis i ddechrau
Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Teithio: Mae'r rôl yn gofyn i chi fod yn bresennol yn Yr Egin, Caerfyrddin yn rheolaidd, yn ogystal â theithio'n achlysurol o fewn Cymru.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Llun 2 Mawrth 2026 at Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.