Swyddi

Swyddi

Arweinydd Technegol Mudo Data

Pam ymuno ag S4C?

Yn S4C, rydym yn angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu Pawb, Cer Amdani.

Mae S4C yn chwilio am Arweinydd Technegol Mudo Data i gyflawni prosiectau mawr, effaith uchel sy'n llunio dyfodol darlledu yng Nghymru. Mae hon yn swydd gyffrous i feddwlwr strategol sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, ac sydd â brwdfrydedd dros gyflawni newid sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r diwydiant darlledu.

Trosolwg o'r Swydd

Mae S4C yn defnyddio meddalwedd rheoli gorsafoedd o'r enw BSM. Mae'r feddalwedd hon wedi'i hysgrifennu yn Delphi ac mae wedi'i haddasu'n helaeth er mwyn ei theilwra ar gyfer gofynion penodol S4C. Yn ogystal â'r feddalwedd graidd, mae dau gynnyrch pellach wedi'u datblygu gan S4C:

Cwmwl: A ddefnyddir i gyflwyno syniadau rhaglenni i S4C a dilyn cyflwyniad llwyddiannus i'r cam contract.

PAC (Programme as Completed): Defnyddir hwn i gasglu data gan gwmnïau cynhyrchu ar gyfer gwybodaeth sy'n ymwneud â'r rhaglen, er enghraifft, casglu data am y gerddoriaeth a ddefnyddir i’w adrodd i PRS.

Mae S4C wedi penderfynu bod angen mwy o feddalwedd berchnogol i ddarparu'r swyddogaethau hyn er mwyn gwneud cefnogaeth yn fwy cadarn a pheidio â bod mor ddibynnol ar system bwrpasol.

Mae'r Arweinydd Technegol Mudo Data yn gyfrifol am arweinyddiaeth dechnegol, cynllunio a gweithredu gweithgareddau mudo data sy'n gysylltiedig â'r newid o hen systemau darlledu i ddatrysiad newydd meddalwedd Rheoli Systemau Darlledu (BSM) seiliedig ar gynnyrch.

Bydd y sawl sydd yn y swydd hon yn arwain y gwaith o dynnu, trawsnewid, dilysu a llwytho data darlledu cymhleth o hen systemau etifeddol - gan ddefnyddio technolegau cronfa ddata Oracle yn bennaf - i'r platfform targed newydd. Bydd yr Arweinydd Mudo Data yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid busnes, timau technegol, gwerthwyr systemau, a rheolwyr rhaglenni er mwyn sicrhau cywirdeb data, parhad gwasanaeth, a throsglwyddiad llwyddiannus i'r system newydd. Bydd y swydd hon yn cael ei chefnogi gan Weinyddwr(wyr) y Gronfa Ddata.

Manylion eraill

Lleoliad: Swyddfa S4C, Sgwâr Canolog, Caerdydd (Mae S4C yn gweithredu polisi gwaith hybrid.).

Cyflog: £65,000 y flwyddyn

Cytundeb: 12 mis i ddechrau

Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos.  Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc. 

Cyfnod prawf: 6 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%. 

Teithio: Mae'r rôl yn gofyn i chi fod yn bresennol yn Yr Egin, Caerfyrddin yn rheolaidd, yn ogystal â theithio'n achlysurol o fewn Cymru.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Llun 2 Mawrth 2026 at Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Manylion Swydd

Ffurflen Gais

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb

Pecyn Gwybodaeth