
Pam ymuno â S4C?
Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn trefnus, trylwyr a brwdfrydig i ymuno a’r tim Archif & Chyfleu Cynnwys fel Uwch Swyddog. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm wrth i ni barhau i feithrin diwylliant gwaith sy’n rhoi pobl wrth galon y sefydliad ac yn ystod adeg hollbwysig yn hanes y gwasanaeth wrth i ni weithredu ein strategaeth newydd, S4C - Mwy na Sianel Deledu.
Trosolwg y Swydd
Mae’n amser cyffrous i ymuno â thîm Archif a Chyfleu Cynnwys S4C, wrth i ni gyflawni’n strategaeth ‘Digidol yn Gyntaf’ a byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth reoli’r cynnwys sy’n cael ei gomisiynu gan S4C, yn ogystal â’r cynnwys sydd yn archif helaeth y sianel.
Byddwch yn cydweithio’n agos gyda staff perthnasol o fewn meysydd megis cynllunio a chyflwyno, yn ogystal ag adrannau perthnasol o fewn BBC Cymru. Byddwch hefyd yn cyfathrebu’n rheolaidd gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol (e.e.ymgysylltu yn rheolaidd gyda'r sector gynhyrchu) er mwyn sicrhau bod deunydd yn cael ei gyfleu’n amserol ac yn gywir ar gyfer gwasanaethau S4C.
Bydd eich cyfraniad yn hollbwysig wrth i S4C barhau i drawsnewid i fod yn gyhoeddwr cynnwys aml-lwyfan, ac wrth i ni weithio i ddatgloi gwerth ein casgliad archifol sylweddol.
Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Arweinydd Archif a Chyfleu Cynnwys, wrth eu cefnogi ym mhob agwedd o’u gwaith gan weithredu fel dirprwy iddynt pan na fyddant ar gael, yn unol â’r gweithgareddau penodol. Hefyd yn helpu diwygio systemau gyfleu ar draws cynnwys holl blatfformau S4C wrth wireddu’r strategaeth Ddigidol yn Gyntaf.
Manylion Eraill
Lleoliad: Sgwar Canolog, Caerdydd (o leiaf 2 diwrnod yn y swyddfa)
Cyflog: £36,000.00 y flwyddyn
Cytundeb: Parhaol
Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.
Cyfnod prawf: 3 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 9.00 ar ddydd Mercher 29 Gorffennaf 2026 at Pobl@s4c.cymru.
Dyddiad Cyfweliad: 5 Awst 2026, S4C, Sgwar Canolog, Caerdydd
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.