Swyddi

Swyddi

Swyddog Materion Busnes (Dros Dro)

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Pam ymuno â S4C?

Yn S4C, rydyn ni’n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.

Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â’n tîm wrth i ni symud ymlaen i weithredu ar strategaeth 2030. Rydyn ni'n chwilio am unigolyn trefnus, dibynadwy, gweithgar a brwdfrydig sy’n byw ein gwerthoedd craidd i ymuno â’n tîm Materion Busnes dros dro.

Trosolwg y Swydd

Byddwch yn rhan allweddol o dîm sy’n gweithredu’n ymarferol, gan ddarparu cefnogaeth i’r tîm gomisiynu yn effeithiol ar gyfer yr holl gynnwys aml-lwyfan sy’n ymddangos ar wasanaethau S4C bob blwyddyn. Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Tîm Materion Busnes, cwmnïoedd cynhyrchu a’r adran gyfreithiol i allu gweithredu rhaglen o syniad i gael ei ddarlledu fel rhaglen ar sawl gwahanol blatfform.

Er rôl dros dro, mae hyn yn rôl sy'n hynod bwysig ac yn weladwy iawn gyda chwmnïoedd cynhyrchu a’r diwydiant darlledu yng Nghymru. Bydd gofyn i chi feithrin perthnasoedd cryf a dibynadwy ar draws y diwylliant i allu cydweithio yn effeithiol a gweithredu ar syniadau.

Manylion eraill

Lleoliad: Caerfyrddin / Caerdydd / Caernarfon (o leiaf 2 diwrnod mewn swyddfa)

Cyflog: £30,000 y flwyddyn

Cytundeb: Dros Dro 12 mis neu 14 mis

Oriau gwaith: 35.75 yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc.

Cyfnod prawf:  3 mis

Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.

Teithio: Bydd teithio achlysurol yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y

Deyrnas Unedig.

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 5 o’r gloch ar ddydd Llun 21 Medi 2026 at e-bost  pobl@s4c.cymru.

Dyddiad Cyfweliad: 28 Medi 2026.

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

 

Manylion Swydd

Ffurflen Gais

Ffurflen Monitro Cydraddoldeb

Pecyn Gwybodaeth