Y Wasg

Y Wasg

Teyrnged i'r diweddar Robin Evans

1 Mehefin 2026

Dywedodd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C: 

 

“Roedd Robin Evans fel dewin, yn troi popeth roedd yn ei gyffwrdd i aur. O’r bandiau cerddorol rhyfeddol o boblogaidd i gynyrchiadau teledu di-rif dros ddeugain mlynedd. O bosib ei waddol mwyaf yw’r gyfres Rownd a Rownd sydd wedi dod â gymaint o fwynhad i genedlaethau. 

 

"Trwy weithio efo fo deuthum  i adnabod y cymeriad cynnes a mor barod i dynnu coes gyda hiwmor sych ac roedd ei sylw at fanylder yn ei gynyrchiadau o’r radd flaenaf. Dysgais dipyn ganddo. Roedd ei ddewrder at y diwedd yn rhyfeddol a nodweddiadol o’i gymeriad. Cydymdeimlad dwys at ei wraig Heulwen a’u plant Llio a Huw.”