Gair i Gloi

Daw adolygiad annibynnol Llywodraeth y DU o S4C ar adeg dyngedfennol yn natblygiad y cyfryngau cyfoes ac yn hanes y Gymraeg.

Gair i Gloi

Daw adolygiad annibynnol Llywodraeth y DU o S4C ar adeg dyngedfennol yn natblygiad y cyfryngau cyfoes ac yn hanes y Gymraeg.

Ar hyd a lled y byd, mae ieithoedd hynafol yn diflannu wrth i ddiwylliannau ymdebygu i’w gilydd ac wrth i dechnoleg greu cymunedau diddordeb newydd.

Roedd sefydlu S4C ym 1982 yn ddigwyddiad trawsnewidiol ac, ynghyd â llwyddiant addysg cyfrwng Cymraeg, dyma un o’r prif resymau pam bod y Gymraeg yn cael ei gweld yn rhyngwladol fel un o’r ieithoedd bychain sydd â’r siawns cryfaf o oroesi. Mae’n cael ei siarad, ei chlywed ac ie, ei chanu, gydag angerdd - yn y cartref, ar y stryd, yn y gweithle ac ar y maes chwarae. Y Gymraeg yw un o ieithoedd hynaf y byd, ac mae’n rhan annatod o ddiwylliant Cymru a Phrydain.

35 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r amgylchedd y mae S4C yn gweithredu ynddo yn newid yn sylfaenol. Mae’r amser yn iawn i gyflwyno gweledigaeth y gellir ei chyflawni ar gyfer y deng mlynedd nesaf, ac i fynd i’r afael â’r ffordd orau i gyflawni gweledigaeth o’r fath.

Yn S4C: Gwthio’r Ffiniau, rydym wedi gwneud hynny.

Mae angen y canlynol arnom:

  • cytundeb ei bod yn iawn i S4C ddeisyfu bod yn ddarparwr Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus yn y Gymraeg ac nid yn unig yn ddarlledwr;
  • cydnabyddiaeth o’r hyn y mae hynny’n ei olygu, a’r buddion all ddeillio o hynny;
  • proses ar gyfer diffinio’r gofyniad ariannol.

Edrychwn ymlaen at gymryd rhan yn y drafodaeth gyhoeddus rydym yn gobeithio y bydd yr adolygiad hwn, a’r weledigaeth hon ar gyfer dyfodol S4C, yn ei hysgogi.