Pennod 2: S4C Yfory –
Ein
Gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw creu S4C sy’n berthnasol, yn apelgar ac yn datblygu’n gyson o ran y cynnwys a gomisiynir gennym, a sut mae pobl yn defnyddio’r cynnwys hwnnw.

Pennod 2: S4C
Yfory –
ein
gweledigaeth

TROSOLWG

Ein gweledigaeth yw creu S4C sy’n berthnasol, yn apelgar ac yn datblygu’n gyson o ran y cynnwys a gomisiynir gennym, a sut mae pobl yn defnyddio’r cynnwys hwnnw.

Bydd cynnwys S4C yn ysbrydoli, yn twymo’r galon, yn drawiadol, yn addysgiadol ac yn ddifyr.

Cynnwys Cymraeg fydd rheswm ein bodolaeth o hyd, ond bydd comisiynu cynnwys mwy amrywiol i’n cynulleidfaoedd, ar ffurf-hir a ffurf-fer, ac ar gael ble a phryd bynnag y dymunant, yn gadarn wrth wraidd S4C yfory.

Mae gennym farn glir ynghylch y math o wasanaeth y mae angen i ni fod - gan symud o sefyllfa draddodiadol y sianel fel darlledwr llinol yn bennaf, i fod yn ddarparwr sawl math o gynnwys, ar draws nifer o lwyfannau. Mae angen i ni ymgysylltu’n llawnach â demograffeg iau, tra’n parhau i ddarparu gwasanaethau i’n gwylwyr craidd, teyrngar. Mae angen i ni ddarparu gwasanaeth wedi’i bersonoli gyda dewis o gynnwys sy’n adlewyrchu arferion gwylio unigol, o ran ffurf y cynnwys a sut caiff ei wylio. Mae’r angen i gynnig opsiynau darlledu ac opsiynau ‘dewis personol’ yn hanfodol i ddyfodol S4C.

Er mwyn gwneud hyn, fe fydd yn rhaid i ni weithio’n agos gyda’n holl bartneriaid - y BBC, cynhyrchwyr annibynnol ac ITV Cymru - i ddatblygu ffyrdd newydd o feddwl am ddymuniadau ein cynulleidfa, gan barhau i bwysleisio safon a gwreiddioldeb y cynnwys.

Ein huchelgais yw datblygu o fod yn Ddarlledwr Gwasanaeth Cyhoeddus (DGC) i fod yn ddarparwr Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus (CGC). Mae hyn yn adlewyrchu’n well y ffordd y mae DGCau eraill y DU eisoes yn gweithredu, a byddai’n dod ag S4C yn fwy cyson ag arfer gorau’r DU ac yn rhyngwladol. Bydd yn ein galluogi ni i gomisiynu a dosbarthu cynnwys ar unrhyw lwyfan poblogaidd - darlledu neu ar-lein.

desktop_mac laptop tablet_mac stay_current_landscape fast_forward mail_outline radio videocam cloud_done web hd movie mic watch subscriptions message desktop_mac laptop tablet_mac stay_current_landscape fast_forward mail_outline radio videocam cloud_done web hd movie mic watch subscriptions message

i:DARPARU
CYNNWYS AR BOB LLWYFAN

Mae angen i gynnwys S4C fod ar gael ble mae pobl yn gwylio - ar lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol, safleoedd fideo ffurf-fer, teledu llinol, Teledu Clyfar, ac unrhyw lwyfan poblogaidd arall nawr ac yn y dyfodol. Y weledigaeth yw dod yn ddarparwr cynnwys Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus cyflawn.

Yn ddarparwr Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus (CGC), byddwn yn adeiladu ar gryfderau Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus (DGC). Byddwn yn cynnal yr elfennau hynny, tra’n cydnabod mai dim ond un dull yw darlledu - er yn ddull cadarn - o gyrraedd cynulleidfaoedd a bodloni yr angen i ddarparu cynnwys gwasanaeth cyhoeddus Cymraeg yn yr oes ddigidol.

Nid yw’n ddigon mwyach creu cynnwys gwych ac yna disgwyl i’ch cynulleidfa ganfod hynny drwy wylio’r teledu. Er bod ‘darlledu’ yn bwysig o hyd, mae’n hymchwil ansoddol yn dangos bod mwy a mwy o bobl yn disgwyl gwasanaethau rhaglenni wedi’u personoleiddio, sy’n bodloni eu hanghenion unigol eu hunain.

I fod yn wirioneddol gystadleuol heddiw, bydd S4C yn ceisio darparu profiad gwylio mwy personoledig i rai carfannau o’r gynulleidfa, gan guradu cynnwys mewn ffyrdd ystyrlon fel y gall pobl gael gafael yn rhwydd ar y cynnwys mwyaf perthnasol iddyn nhw ar ba lwyfannau bynnag maen nhw’n eu dewis ar gyfer defnyddio cynnwys. Yn ei dro, mae personoli yn rhoi gwybodaeth i S4C am ddewisiadau a hoffterau cynulleidfaoedd ar gyfer creu a darparu cynnwys yn y dyfodol, ac mae’n ysgogi ymgysylltu.

Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd o ran sicrhau bod gennym gynrychiolaeth ar lwyfannau darlledu allweddol (gweler adran S4C Heddiw) - ac mewn safleoedd amlwg - ac rydym wedi treialu cynnwys newydd ar YouTube gyda Pump. Ond nid yw ein cynnig digidol cyffredinol yn manteisio’n llawn ar botensial technolegau newydd ac archwaeth y cyhoedd i ddefnyddio’r technolegau hynny. Nid yw cynnwys Cymraeg ar gael yn y ffordd y dylai fod i fodloni anghenion cynulleidfa heddiw.

Sianel Linol S4C

Mae ymchwil yn dangos, er ei bod yn glir bod rhai grwpiau oedran yn gwylio llai o deledu ar hyn o bryd gan ddewis defnyddio cynnwys trwy lwyfannau eraill, nid oes unrhyw amheuaeth, dros y degawd nesaf o leiaf, y bydd poblogrwydd y teledu ymhlith grwpiau oedran eraill, yn ogystal â lle’r teledu fel cartref gwylio teuluol, yn parhau’n gryf. Bydd darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, gyda’u buddsoddiad sylweddol parhaus mewn rhaglennu llinol prif ffrwd, yn sicrhau fod darlledu ar y teledu yn cadw ei le fel prif fodd pobl o ddefnyddio cynnwys.

Rhaid i ni felly barhau i fuddsoddi yn ein presenoldeb ar brif lwyfannau teledu am flynyddoedd i ddod a pharhau i ddarparu gwasanaeth llinol cystadleuol ac uchelgeisiol.

Chwaraewr Ar-lein S4C: mwy o gynnwys, mwy o amlygrwydd, mwy o ymgysylltu

Ar hyn o bryd, mae S4C yn gweithredu ‘chwaraewr’ ar-lein cymharol syml, gan ddarparu gwasanaethau byw a gwasanaethau dal-i-fyny yn bennaf ar gyfer cynnwys teledu ffurf-hir – gan mwyaf, mae ar gael am 35 diwrnod ar ôl y darllediad gwreiddiol.

Mae ein partneriaeth strategol â’r BBC wedi ei gwneud hi’n bosibl i gynnwys diweddaraf S4C fod ar gael ar BBC iPlayer. Rydym eisiau adeiladu ar fanteision y bartneriaeth, ond gan hefyd ddefnyddio ein chwaraewr ein hunain i greu gwasanaeth gwirioneddol bersonoledig yn gyson â disgwyliadau’r gynulleidfa. Y nod fydd iddo gynnig mynediad i’r holl gynnwys presennol a chynnwys hanesyddol rydym yn berchen yr hawliau dosbarthu presennol ar eu cyfer.

Yn rhan o’n partneriaeth strategol ehangach, rydym wedi dod i drefniant gyda’r BBC, sy’n golygu mai cynnwys dal-i-fyny S4C yw’r unig gynnwys nad yw’n gynnwys y BBC sydd ar gael ar BBC iPlayer. Mae hon wedi bod yn fenter lwyddiannus ac mae wedi bod yn llwyfan pwysig i ehangu gwylio rhaglenni S4C ar-lein, o fewn terfynau amser cytûn. Edrychwn ymlaen at archwilio cyfleoedd pellach i gydweithredu a fydd o fudd i’n cynulleidfaoedd.

Hyrwyddo ymgysylltu, effeithlonrwydd ac amlygrwydd

Chwaraewr newydd S4C fydd y sbardun y tu ôl i holl gynnwys S4C ar lwyfannau digidol. Bydd yn ein galluogi i anfon cyfathrebiadau uniongyrchol a phersonoledig i’n tanysgrifwyr gyda diweddariadau a gwybodaeth, yn ogystal â chynnig mynediad i gynnwys cyfoethog sy’n addas i’w hanghenion a’u dewisiadau gwylio unigol eu hunain.

Bydd yn ein galluogi ni i awtomeiddio a mireinio ein gweithdrefnau ar gyfer gwneud taliadau i gyfranwyr a deiliaid hawliau ar sail defnydd.

Yn naturiol, bydd y chwaraewr newydd hwn ar gael drwy wefan S4C ei hun, ond drwy gymaint o lwyfannau eraill â phosibl hefyd, gan adeiladu ar gynlluniau presennol i lansio apiau ar Deledu Clyfar Samsung, er enghraifft. Bydd yn rhoi amlygrwydd i S4C ar lwyfannau digidol wrth i ni geisio gwneud ein chwaraewr ar gael i bawb ar y dyfeisiau mwyaf poblogaidd. Ond byddwn hefyd am sicrhau bod S4C yn cael ei gynnwys ar gymaint o lwyfannau cynnwys trydydd parti â phosibl.

Holl gynnwys S4C ar-lein

Bydd galluoedd technegol y chwaraewr newydd yn hyrwyddo amlygrwydd ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd, ond byddwn hefyd yn anelu i chwyldroi ein cynnig o gynnwys ar-lein.

Mewn oes pan mae gwasanaethau a gynigir drwy lwyfannau tebyg i Netflix ac Apple TV wedi’u sefydlu o ran disgwyliadau cynulleidfaoedd, y nod yw rhoi un cartref hwylus cydnabyddedig ar gyfer holl gynnwys S4C. Rydym eisiau galluogi tanysgrifwyr i gael mynediad i’r ystod cynnwys ehangaf posibl a’u galluogi i guradu eu rhestri chwarae eu hunain.

Yn ychwanegol at ffrydio’r sianel linol yn fyw, byddai’r gwasanaeth newydd hwn yn darparu:

  • cyfleuster dal-i-fyny ar gyfer rhaglenni ffurf- hir diweddar S4C;
  • cynnwys ffurf-fer atodol i raglenni – tu ôl i’r llenni, cyfweliadau talent ac ati;
  • cynnwys ffurf-fer gwreiddiol newydd, wedi’i guradu yn ôl thema;
  • cynnwys archif, wedi’i guradu yn ôl genre/ meysydd diddordeb;
  • cynnig ‘setiau bocs’, yn archwilio’r opsiwn talu i gadw.

Chwaraewr annibynnol i blant

Mae gennym uchelgais i greu gwasanaeth ar-lein annibynnol i blant, wedi’i fodelu ar yr uchod, i wneud cynnwys Cymraeg ar gael yn haws i blant sy’n siarad yr iaith neu’n ei dysgu. Byddai ganddo apiau cysylltiedig, yn galluogi plant i bori drwy’r cynnwys yn haws ar ddyfeisiau symudol heb risg o daro ar gynnwys sy’n anaddas neu’n amhriodol i’w hoedran.

Bydd y datblygiadau hyn yn mynnu llu o addasiadau technegol ac uwchraddiadau i’n cynnig presennol, yn ogystal ag adnoddau ychwanegol i ddigideiddio, codio a churadu cynnwys, ac i sicrhau’r hawliau priodol ar gyfer dosbarthu cynnwys.

info graphic

Darparwyr teledu ar-alw

Mae nifer o ddarparwyr teledu sefydledig yn cynnig sianeli byw ac yn gweithredu fel cyfryngau i gael mynediad i gyfleusterau ar alw darlledwyr drwy setiau teledu. Lansiwyd S4C ar YouView ar ddechrau 2014. Ein nod yw ymgorffori S4C ar wasanaethau ar alw pellach lle bo’n bosibl, gyda dau lwyfan penodol – Freeview Play a Freesat Freetime - yn cael eu targedu’n gynnar.

Teledu Clyfar a Ffrydwyr Cyfryngau

Yn draddodiadol, mae DGCau wedi mwynhau amlygrwydd arbennig ar EPG (Dewislen Rhaglenni Electronig) teledu. Mae hyn wedi bod yn hynod werthfawr o ran cynnal ymwybyddiaeth o gynnig rhaglenni S4C yn yr oes ddigidol.

Erbyn hyn, gyda’r cynnydd sydyn yn y niferoedd sy’n prynu setiau teledu clyfar, a’r proffil is a roddir i’r Ddewislen Rhaglenni Electronig gan rai llwyfannau, fe allai siaradwyr Cymraeg a gwylwyr eraill ei gweld hi’n anoddach fyth dod o hyd i gynnwys gwasanaeth cyhoeddus Cymraeg ar lwyfannau cyfryngau digidol os nad yw’r cynnwys hwnnw’n cael amlygrwydd priodol.

Rydym eisoes wedi gweithio gydag Amazon Fire a Samsung i rag-lwytho S4C fel Ap Clyfar annatod, gan sicrhau rhywfaint o amlygrwydd pan fydd gwylwyr yn troi eu setiau teledu ymlaen.

Ein gweledigaeth yw i S4C gael ei gynnwys ar bob set deledu clyfar sy’n cael eu hadeiladu’n newydd. Ond mae hyn yn mynnu amser a buddsoddi, o ran datblygu apiau ac o ran sicrhau integreiddio apiau gan weithgynhyrchwyr, ac mae’n debygol o fod angen arweiniad rheoleiddiol cadarn os yw hyn i ddigwydd. Credwn ei bod yn bwysig iawn i’r egwyddor amlygrwydd DGC gael ei hymestyn i gynnwys gwasanaethau ar alw sy’n gwasanaethu darparwyr gwasanaeth cyhoeddus. Mae’n arbennig o hanfodol i argaeledd cynnwys Cymraeg, gan mai S4C yw’r unig DGC Cymraeg sydd ar gael – yn gwasanaethu siaradwyr Cymraeg ledled y DU.

Llwyfannau Fideo Allanol

Dywed adroddiad gan Ofcom yn 2016, fod plant 5 i 15 oed, am y tro cyntaf, yn treulio mwy o amser ar-lein nag yn gwylio setiau teledu, ac YouTube yw’r prif gyrchfan ar-lein. Roedd hyn yn arbennig o wir ar gyfer y rhai 12 i 15 oed, gydag 87% yn gwylio YouTube. Mae’r adroddiad yn dweud hefyd, er eu bod yn gwylio llai o gynnwys ar deledu, nad yw hyn yn golygu bod plant yn defnyddio llai o gynnwys.

Mae’r enghraifft o’r un grŵp hwn yn dangos pa mor bwysig ydyw i gynnwys Cymraeg, apelgar o’r ansawdd gorau i fod ar gael ar lwyfannau fideo allanol.

Ein huchelgais gyda YouTube yw datblygu portffolio bach o sianeli Cymraeg, yn targedu grwpiau oedran gwahanol a’u poblogi yn rheolaidd gyda chynnwys ffurf-fer apelgar. Bydd llawer o hwn yn gynnwys newydd annibynnol – fel ein treial ar gyfer Pump – ond bydd rhywfaint hefyd yn ymwneud â chynnwys ar ein sianel linol ac yn gweithredu fel deunydd hyrwyddo. Yn yr un modd, mae angen i ni wella ein presenoldeb fideo gwreiddiol ar Facebook, sydd wedi dod yn brif lwyfan fideo yn ogystal â llwyfan cymdeithasol, er mwyn ymgysylltu ymhellach â’r rheiny sy’n ei ddefnyddio’n gyson – demograffeg gymharol ifanc. Byddwn hefyd yn monitro tueddiadau wrth i gyfleoedd newydd a llwyfannau newydd ddod i’r amlwg dros gyfnod.

Cyfryngau Cymdeithasol ac Ymgysylltu

Mae’r cyfryngau cymdeithasol ar bob ffurf yn elfen hanfodol o lwyddiant cynnwys heddiw. Mae cynulleidfaoedd, yn enwedig y grŵp oedran 16 i 34, yn buddsoddi’n drwm yn y cyfryngau cymdeithasol ac eisiau rhannu’u barn, sylwadau ar gynnwys, gwneud gofynion ar ddarlledwyr a gofyn cwestiynau. Gall sgwrsio ar y cyfryngau cymdeithasol gynyddu ffigyrau, gyrru ail-gomisiynu a throi talent anhysbys - ac yn wir, defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol eu hunain - yn sêr.

Fe wnaethom newid ffocws egni ein tîm ymgysylltu yn 2016, ac o ganlyniad, fe wnaethon ni gynyddu ein presenoldeb ar draws sianeli cyfryngau cymdeithasol allweddol, gan gyflawni cynnydd sylweddol mewn lefelau ymgysylltu â chynnwys.

Cyflawnwyd hyn drwy ddefnyddio deunydd hyrwyddo a threialu ychydig o gynnwys ffurf-fer, ond rydym yn cydnabod ein bod ymhell o fod yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol ar y lefelau gorau. I gyflawni hyn ac i ymgysylltu’n llawn â chynulleidfaoedd sy’n defnyddio mwy o gynnwys drwy’r cyfryngau cymdeithasol nag unrhyw gyfrwng arall, rhaid i ni greu mwy o gynnwys ffurf-fer, a rhaid i ni hefyd fod yn fwy ymatebol i’n cynulleidfa drwy’r cyfryngau cymdeithasol a hyrwyddo lefelau cyfathrebu ac ymgysylltu uwch. Mae hyn yn mynnu adnoddau ychwanegol.

Rhaid i werth cynnwys newydd, y gellir mynd ato ar draws ystod o lwyfannau, gael ei hyrwyddo i’r eithaf drwy wneud yn siŵr bod ein cynulleidfa yn gwybod beth sydd gennym a sut gellir ei ddefnyddio. Bydd lefel uwch o weithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol yn allweddol, gan ledaenu’r gair am apêl amrywiol cynnwys S4C ar bob llwyfan. Bydd hefyd yn ein galluogi i dargedu gwylwyr yn fanwl gyda negeseuon wedi’u personoli.

Yn unol â’n cyfeiriad strategol clir i dargedu cynulleidfaoedd ar y teledu a llwyfannau ar-lein, rhaid i ni barhau i estyn allan i gynulleidfaoedd sy’n ymgysylltu’n fwy rheolaidd â mathau mwy traddodiadol o gyfryngau.

HYD 2015 40,000
MEDI 2016 1,000,000
RHAG 2016 2,235,543

Cynnwys yn y Gymuned

Mae’r Gymraeg wedi’i gwreiddio yn y gymuned ac mae angen i S4C adlewyrchu bywyd cymunedol, cyfoes yng Nghymru. Mae’n bwysig ein bod yn dod o hyd i ffyrdd i fynd â’n gwasanaeth a’n cynnwys all-lein i’r gymuned ar adegau priodol.

Ar hyn o bryd, dim ond un swyddog cymunedau sydd gennym ar gyfer Cymru gyfan. I gyflawni ein gweledigaeth ‘ar lawr gwlad’, mae angen i ni allu cynyddu ein gweithgareddau ymgysylltu â’r gymuned.

desktop_mac laptop tablet_mac stay_current_landscape fast_forward mail_outline radio videocam cloud_done web hd movie mic watch subscriptions message desktop_mac laptop tablet_mac stay_current_landscape fast_forward mail_outline radio videocam cloud_done web hd movie mic watch subscriptions message

ii:Creu’r
Cynnwys Cywir

Mae’r dyddiau pan fo modd i Ddarlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus (DGCau) fod yn bopeth i bawb wedi hen fynd heibio. Bellach, mae’n rhaid i ni ddarparu rhywbeth arbennig i bawb – cynnwys sy’n siarad yn bersonol â phob gwyliwr, pwy bynnag ydyw a sut bynnag y mae’n dymuno gwylio ei gynnwys Cymraeg.

Mae cynnwys wedi bod yn ganolog i S4C erioed. Ond ein gweledigaeth newydd – y cyfan yn cael ei ysgogi gan newidiadau i anghenion ein cynulleidfa – yw comisiynu’n benodol i gynulleidfaoedd yn ôl beth maen nhw’n dewis ei wylio a sut maen nhw’n dewis ei wylio.

Ein nod yw creu profiadau gwylio difyr i’r teulu ar y teledu yn ystod oriau brig, cyflawni ein syniadau mawr ar draws llwyfannau gan ddylanwadu o ddifrif, a darparu llif mynych a chyson o gynnwys newydd trawiadol ar gyfer llwyfannau ffurf-fer ar-lein. Dyma yw ystod y cynnwys y mae cynulleidfaoedd ei eisiau, yn iaith eu dewis. Ond mae’r gynulleidfa honno dan ddylanwad y farchnad cyfryngau ehangach hefyd, ac mae ganddi ddisgwyliadau uchel. Mae’n rhaid i gynnwys S4C gystadlu mewn meysydd lle mae DGCau eraill yn gallu buddsoddi mwy o lawer yn eu cynnwys ar hyn o bryd.

Ar draws pob llwyfan, ein nod yw creu ystod benodol o gynnwys perthnasol ac amrywiol sy’n gafael ac yn difyrru, yn synnu ac yn swyno pob carfan o’r gynulleidfa – ar lwyfan eu dewis. Bydd hyn yn cynnwys gwella’r cynnwys a gynigiwn i’n gwylwyr teyrngar presennol, yn ogystal ag adeiladu perthynas hirdymor gyda’r cynulleidfaoedd hynny sydd, yn ôl ein hymchwil, yn llai tebygol o weld S4C fel rhan reolaidd o’u bywyd ar hyn y bryd e.e. pobl ifanc, cartrefi ieithoedd-cymysg, y rhai 45 i 64-oed, yn ogystal â gwylwyr sy’n siarad llai o Gymraeg.

Ond ni ellir gweld y teledu chwaith fel rhywbeth o’r gorffennol. Mae’r amser a dreulir yn ddyddiol yn gwylio teledu mewn cartrefi sydd â theledu yng Nghymru 13% yn uwch na chyfartaledd y DU,10 a gyda’r disgwyl y bydd y gwylio teledu llinol yn cyfrif am 75% o’r holl wylio sy’n digwydd yn y DU, hyd yn oed yn 2025,11 mae teledu yma i aros. Mae hyn yn golygu nad oes gan S4C unrhyw ddewis ond parhau i gynnal ffocws cadarn ar greu cynnwys trawiadol ar gyfer y sianel deledu, ar yr un pryd â datblygu cynnwys newydd i’w roi ar lwyfannau newydd a’r rhai sy’n datblygu.

Cenhadaeth Greadigol Newydd S4C

Cenhadaeth greadigol newydd S4C yw creu’r sgwrs, cyffwrdd â’r galon a thanio’r dychymyg. Mae gennym bum brif thema i’n galluogi i gyflawni’r genhadaeth hon drwy ein cynnwys:

Adlewyrchu Cymru fodern:

  • Dal drych, ac adlewyrchu cymdeithas fodern Cymru.
  • Gafael yn ysbryd yr oes. Pam nawr? Pam ar S4C?

Gyrru gwylwyr atom:

  • Conglfeini newydd ein hamserlen – cyfresi’n dychwelyd.
  • Gwylio teuluol, siwrneiau sy’n twymo’r galon, sydd yn datgelu rhywbeth newydd.

Triniaeth yw popeth:

  • Mae’r driniaeth hyd yn oed yn bwysicach na’r testun.
  • Meithrin y weledigaeth newydd a sut caiff ei rhoi ar waith yn y sector cynhyrchu, ynghyd â rhaglen datblygu doniau.

Amseru yw popeth:

  • Y syniad iawn ar yr amser iawn i’r gynulleidfa iawn.
  • Sefydlu cynnwys fel rhan naturiol o amserlenni bywyd prysur.

Adegau cenedlaethol:

  • Cynnwys traws-llwyfan sy’n tynnu pobl ynghyd ac yn eu hysgogi i siarad.
  • Rhaglennu sydd yn ddigwyddiad ynddo’i hun.

Mae strategaeth cynnwys tair blynedd newydd S4C, gan adeiladu ar y pum thema hyn, eisoes wedi’i chyflwyno i’r sector cynhyrchu annibynnol.

Cyfeiriad Newydd i Gynnwys Llinol

Ein bwriad yw adfywio’r sianel linol i fod yn fwy cyffrous, yn fwy beiddgar, yn fwy amrywiol ac yn fwy cystadleuol gyda sianeli eraill. Mae angen iddi chwarae rhan fwy ym mywydau ein cynulleidfa. Mae gwasanaethau rhyngweithiol, pleidleisio drwy neges destun ac apiau rhaglenni, bob un yn enghreifftiau o weithgareddau sydd wedi’u cynllunio i annog cymryd rhan mewn rhaglenni llinol yn gyffredinol – cyfoethogi’r profiad i’r gynulleidfa. Ond mae ein huchelgais yn mynd ymhellach na hyn. Ein nod yw creu cynnwys mwy apelgar sy’n dod â phobl at ei gilydd o flaen y teledu ac yn y gymuned i ddathlu Cymru gyfoes. Rydym eisiau i bobl wylio am mai dyna’r cynnwys gorau sydd i’w gael.

Er gwaethaf y darogan y byddai’r cynnydd mewn dewis a llwyfannau yn arwain at ddiflaniad rhaglenni teledu y mae pawb yn eu gwylio ac yn sôn amdanynt, yn y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld cynnydd aruthrol yn y cyfresi “rhaid gweld” bondigrybwyll sy’n gyrru arferion gwylio teuluoedd cyfan yn yr oriau brig ganol wythnos ac ar y penwythnos. Mae’r rhain yn cynnwys rhaglenni cyllideb uchel ac ansawdd uchel fel The Great British Bake Off, I’m a Celebrity Get Me Out of Here, Strictly Come Dancing, Springwatch, Britain’s Got Talent, The Island with Bear Grylls, Celebrity Big Brother a Masterchef.

Mae hyd yn oed y bobl ifanc, sy’n treulio mwy o amser ar-lein nag o flaen y teledu, yn dal i ymgasglu gyda’u teuluoedd i wylio rhai mathau o adloniant ‘rhaid gweld’ sy’n gyffrous ac yn twymo’r galon. 12

Gwyddwn na allwn fod yn bopeth i bawb, ond ein sianel linol yw cartref gwylio teuluol yn Gymraeg, ac felly mae’n rhaid i ni greu mwy o gyfleoedd gwylio i deuluoedd eu mwynhau fel grŵp. Bydd y math hwn o gynnwys yn cael ei gomisiynu i ddarparu profiad llawn aml-lwyfan i’r gynulleidfa. Drwy ryddhau cynnwys ffurf-fer ychwanegol, byddwn yn mynd ati i annog defnydd ohono ar draws cyfryngau, ynghyd â thrafod a rhannu drwy lwyfannau cymdeithasol. Yn ogystal â gweithio i ymgorffori cynnwys S4C i fywyd teuluol yn ei holl ffurfiau, bydd y strategaeth hon yn adeiladu perthynas y sianel â gwylwyr iau.

Er bod S4C yn falch o’i hanes o sicrhau gwerth eithriadol am arian, un o’n heriau mwyaf yw cynnal ein gallu i gystadlu â DGCau eraill sy’n gallu buddsoddi mwy o lawer mewn cynnwys oriau brig. Mae uchafswm gwariant S4C ar gynyrchiadau yn y prif genres ymhell o lefel y gwariant gan DGCau eraill yn ôl y rhestri tariffau diweddaraf a gyhoeddwyd.

Rhaglenni oriau brig

Cyfartaledd
Adloniant
Uchafswm
Adloniant
Cyfartaledd
Drama
Uchafswm
Drama
Cyfartaledd
Ffeithiol
Uchafswm
Ffeithiol
C4 (2009 tariffau) 245,000 400,000 650,000 1,000,000 175,000 200,000
BBC Rhwydwaith (2016 tariffau) 575,000 750,000 825,000 1,000,000 263,000 300,000
BBC
Cenhedloedd a Rhanbarthau* (2016 tariffau)
185,000 220,000 450,000 200,000
ITV (2014 tariffau) 575,000 1,000,000 550,00 800,000 225,000 300,000
S4C (ar gyfer 2017) 60,000 100,000 220,00 250,000 48,000 60,000

*Nid oes amrediad tariff amser brig penodol wedi ei gyhoeddi ar gyfer drama a rhaglenni ffeithiol BBC Cenhedloedd a Rhanbarthau.

Ond mae cyllidebau yn seiliedig ar amcangyfrifon incwm presennol yn dangos ein cyllideb cynnwys yn lleihau’n araf mewn termau arian parod, dros y pum mlynedd nesaf. A chan ganiatáu ar gyfer chwyddiant, mae’r pwysau yn fwy amlwg fyth:

Bydd parhau i gomisiynu cynnwys ar y lefelau presennol yn unig yn gofyn am fuddsoddiad yn unol â rhagolygon chwyddiant. Mae’r rhagolygon presennol rywle rhwng 3% (RPI) a 2% (CPI) dros y pum mlynedd nesaf.13 O ystyried yr amcangyfrif hwn, bydd angen cynnydd blynyddol sy’n tyfu o tua £2m ym mlwyddyn un hyd at tua £9m ym mlwyddyn pump dim ond er mwyn atal y gostyngiad mewn termau real yn y gyllideb cynnwys dros y pum mlynedd nesaf.

Mae graddfa’r arbedion effeithlonrwydd a gyflawnwyd eisoes, ynghyd â’r rheiny sydd eisoes wedi eu rhagdybio yn y gyllideb, yn golygu bod ein gallu i ddod o hyd i arbedion pellach wedi ei brofi i’r eithaf.

Mae gwylwyr Cymraeg eu hiaith yn gwbl ymwybodol o gynnwys ar sianeli eraill ac yn ei wylio. Yn anochel, maent yn cymharu gwerthoedd cynhyrchu, amlder ac amrywiaeth cynyrchiadau. Os yw S4C am gynnal ei hygrededd fel gwasanaeth teledu prif ffrwd, rhaid i ni sicrhau nad yw ein cynnwys yn dioddef o gael ei gymharu â safonau darlledwyr poblogaidd eraill.

Mae bron holl gynnwys gwreiddiol S4C a gynhyrchwyd gan y sector – dros 1300 o oriau’r flwyddyn – o ddrama i raglenni plant, chwaraeon, rhaglenni dysgwyr a rhaglenni ffeithiol – yn cael eu cynhyrchu am bron i £20m yn llai na chost cyfres deg awr The Crown ar Netflix, (adroddir ei bod wedi costio £100m).

Y ffocws arall i’r sianel yw creu adegau cenedlaethol, uchafbwyntiau yn yr amserlenni sy’n tynnu pobl ynghyd ac yn ysgogi pobl i siarad – ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn cymunedau ledled Cymru. Er mwyn i’r prosiectau traws-llwyfan hyn fod mor llwyddiannus â phosibl, mae angen iddynt adlewyrchu bywyd yng Nghymru hefyd a bod yn unigryw - rhywbeth a allai neu a fyddai’n cael ei gynhyrchu gan S4C yn unig.

 

Enghreifftiau:

 

Mis y Chwedlau 2017:

Mae Croeso Cymru yn canolbwyntio ar chwedlau Cymru ar gyfer ei gweithgarwch marchnata eleni, ac i gyd-fynd â hyn, rydym yn cynllunio nifer o raglenni arbennig. Byddwn yn creu cynnwys cyfoes, wedi’i seilio’n fras ar yr etifeddiaeth chwedlau gref yn niwylliant Cymru, a fydd yn ymddangos ar yr awyr, ar-lein ac yn hawdd i’w rannu ar draws y cyfryngau cymdeithasol. Bydd y prosiect yn cynnwys chwilio am straeon a chwedlau cariad Cymreig modern, cerddoriaeth a rhaglenni plant, yn ogystal â golwg amharchus ar chwedlau hynafol o safbwynt cyfoes.

Fflicio’r Swits:

Gan weithio ochr yn ochr â phrif astudiaeth ar newid ymddygiadol, rydym yn ymchwilio i brosiect proffil uchel a elwir ar hyn o bryd yn ‘Fflicio’r Swits’, am bobl yn gwneud newidiadau ystyrlon i’w bywydau. Bydd hyn yn adloniadol tu hwnt, ond bydd hefyd yn cynnwys neges gwasanaeth cyhoeddus gref iawn, a byddwn yn mynd â llawer iawn o gynnwys allan i’r gymuned – mewn ffordd sy’n hwyl, yn ddifyr ac yn ystyrlon.

Gellir cyflawni’r ddwy fenter yn fwy ac yn well yn unol â’r lefel buddsoddiad sydd ar gael.

Creu Cynnwys Ffurf-Fer

O ystyried ein cylch gorchwyl cyfyngol, y pwys a roddir ar deledu llinol a’n hangen ni i gomisiynu cynnwys newydd yn gyson, nid ydym wedi bod mewn sefyllfa i ganolbwyntio ar greu cynnwys ffurf-fer apelgar a gwreiddiol, sy’n targedu cynulleidfaoedd iau yn benodol. Yn unol â’r weledigaeth hon, ein nod yw newid hyn. Bwriadwn ddarparu cynnwys Cymraeg i gynulleidfaoedd y mae’n well ganddynt ddefnyddio’u cynnwys yn y modd hwn, yn enwedig y rhai 16 i 34 oed. Hwn yw’r grŵp sydd yn fwyaf tebygol o wylio cynnwys drwy lwyfannau ffurf-fer a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ar ddyfeisiau symudol,14 – ac nid oes fawr ar gael iddynt yn y Gymraeg.15

Yn fras, mae angen i ni greu dau brif fath o gynnwys ffurf-fer:

  1. cynnwys gwreiddiol, annibynnol sy’n ysgogi rhyngweithio cynulleidfaoedd newydd sbon ar draws llwyfannau nad ydynt yn llinol; a
  2. chynnwys sy’n hyrwyddo ac yn ehangu diddordeb mewn rhaglenni presennol ac yn eu hategu.

Rydym wedi dangos ein penderfyniad i archwilio’r farchnad am gynnwys ffurf-fer newydd, drwy ein peilot arloesol, Pump, ac erbyn hyn mae cynhyrchwyr yn gweithio gyda ni i ganfod ffyrdd arloesol o ddarparu mwy o gynnwys ffurf-fer, yn gysylltiedig â phrosiectau ar y sgrîn.

Mae un cynhyrchydd yn darparu 30 awr (60 x 30’) o gynnwys llinol, ar thema cerddoriaeth, yn targedu cynulleidfaoedd iau i’r sianel bob blwyddyn. Rydym yn gofyn iddynt nawr greu nifer debyg o gyfanswm oriau - ond gyda chynnwys ffurf-fer yn unig yn barod ar gyfer ei rannu ar draws llwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol ac yna ei ail-becynnu fel sioe wythnosol ar wedd newydd, yn hwyr y nos ar gyfer y brif sianel.

Mae’r rhain yn gamau bach i’r cyfeiriad iawn i S4C. Bydd cylch gorchwyl newydd a buddsoddiad ychwanegol, fel yr amlinellir ym mhennod 3 y ddogfen hon, yn ein galluogi i wasanaethu cynulleidfaoedd ar lwyfannau newydd yn llawn.

Comisiynu Cynnwys

Mae S4C wedi mwynhau perthynas hir, iach a chynhyrchiol gyda’r sector cynhyrchu annibynnol yng Nghymru, ITV Cymru a gyda’r BBC, ac rydym eisiau i’r rhain barhau. Fodd bynnag, os ydym am gyflawni ein gweledigaeth yn effeithiol a herio ein creadigrwydd, a’n gallu ein hunain i gystadlu a masnachu, fe fyddwn, yn sgil hynny, yn herio ein partneriaid cynhyrchu yn yr un modd.

Daw cyfran a werthfawrogir yn fawr o raglenni gwreiddiol S4C drwy ddarpariaeth statudol y BBC i S4C - o leiaf 10 awr o raglenni yr wythnos. Mae’r ddarpariaeth hon wedi bodoli ers i’r sianel gael ei chreu ym 1982. Caiff gweddill cynnwys S4C ei gomisiynu o’r sector annibynnol – a deliwn ag oddeutu 50 o gwmnïau unigol bob blwyddyn. Caiff dros 80% o’n cyllid ei wario yn y sector creadigol llwyddiannus hwn, yng Nghymru yn bennaf.

Bydd ein dull o gomisiynu yn newid. Byddwn yn gwella ein cyfathrebu gyda chynhyrchwyr er mwyn meithrin dealltwriaeth glir o’r canlynol:

  • ein disgwyliadau creadigol cynyddol;
  • y weledigaeth strategol newydd yn S4C – un sy’n fwy allanol/masnachol ac yn cael ei gyrru’n fwy fforensig fyth gan y gynulleidfa;
  • gofyniad am fathau gwahanol o gynnwys – ffurf-hir a ffurf-fer.

Mae dull holistaidd newydd o gomisiynu yn golygu ein bod yn ystyried o flaen llaw y cynnwys ffurf-fer sydd ei angen i gefnogi rhaglenni ffurf-hir. Fel hyn, mae cynhyrchwyr yn ymwybodol o’n hanghenion ni a gallant gyflawni yn ystod y broses gynhyrchu. Mae hwn yn fwy cost-effeithiol na mynd ati i greu cynnwys ffurf-fer ar ôl i raglen gael ei chyflenwi.

Fodd bynnag, mae angen newid sylweddol o hyd i ddarparu cynnwys ffurf-fer, gwirioneddol wreiddiol, difyr, digidol yn gyntaf, fel ffilmiau byrion â thema neu gyfres o we-benodau. Byddwn yn cynorthwyo cynhyrchwyr i arallgyfeirio a dod yn arweinwyr yn y maes hwn, a byddwn yn archwilio opsiynau i weithio mewn partneriaeth gydag ystod o sefydliadau eraill i estyn allan a chysylltu â chynulleidfaoedd newydd, gan gefnogi ac ysgogi twf i’r economi ddigidol yng Nghymru.

Datblygu mwy o gynnwys â photensial masnachol

Ein nod yw adeiladu ar ein henw da fel buddsoddwr mewn prosiectau cyd-gynhyrchu sydd wedi dod â buddion mawr i’r sianel, ein cynulleidfa a sector cynhyrchu Cymru. Ein huchelgais yw gallu targedu mwy o brosiectau potensial uchel, a dyna pam rydym yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu fformatau a gwneud syniadau creadigol da yn rhai gwych. I gael mwy o fanylion, gweler ‘Strategaeth Fasnachol i Helpu Gyrru’r Weledigaeth’.

Gwneud i Gynnwys Presennol Weithio’n Galetach

Mae gan S4C 35 mlynedd o gynnwys yn ein harchif. O’i gyflwyno’n iawn, mewn cyd-destun priodol, gall swyno, addysgu a diddanu o hyd. Byddwn yn ceisio digideiddio gymaint o’r ôl-gatalog hwn â phosibl, a lle bo’n berthnasol, ailbennu ei bwrpas at ei ddefnyddio–mewn cynnwys ffurf-fer er enghraifft – neu edrych ar ffyrdd o allu ei droi yn werth ariannol yn synhwyrol. Mae rhywfaint o raglennu yn cael ei gyfyngu gan faterion hawliau, ond byddwn yn ymgysylltu â deiliaid hawliau amrywiol yn y gobaith o ddod i ateb a fydd o fudd i’r ddwy ochr.

star
 

Canfod a Chefnogi Talent

 

Mae gan S4C, a’n partneriaid yn y sector cynhyrchu, hanes hir o ddarganfod unigolion talentog iawn a meithrin eu gyrfaoedd ar y sgrîn a thu ôl i’r camera. Mae actorion, cyflwynwyr a chyfarwyddwyr llwyddiannus o gronfa ddoniau S4C yn cynnwys Alex Jones (The One Show), Matthew Rhys (The Americans, Brothers and Sisters), Rhys Ifans (The Amazing Spider-Man, Notting Hill, Elementary), Huw Edwards (BBC News), Iwan Rheon (Game of Thrones, Our Girl), Ioan Gruffydd (Titanic, 101 Dalmatians, Fantastic Four), Euros Lyn (Doctor Who, Sherlock, Broadchurch, Happy Valley, Last Tango in Halifax). Mae ein strategaeth cynnwys newydd yn canolbwyntio ar gynyddu nifer y cyfleoedd i ganfod ystod amrywiol o ddoniau newydd.

Mae cynhyrchu cynnwys ffurf-fer yn darparu cyfleoedd newydd i dreialu mathau gwahanol o ddawn, gyda sgiliau, ymagweddau ac arddulliau personol gwahanol. Bydd y cynnydd yn y nifer sy’n gwylio, hoffi, rhannu a sgwrsio ar safleoedd fel YouTube a llwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal ag ymdrechion S4C i annog cynnwys sy’n cael ei gynhyrchu gan y defnyddiwr mewn rhai amgylchiadau, yn cael eu harneisio er mwyn amlygu unigolion dawnus na fyddem fel arall yn dod o hyd iddynt.

iii:GWERTH EHANGACH FEL
GWASANAETH CYHOEDDUS

’Does dim dwywaith bod cynnwys gwasanaeth cyhoeddus S4C yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan ein cynulleidfa.16 Mae siaradwyr Cymraeg yn arbennig o’r farn mai S4C yw’r sianel sy’n cyfrannu’n fwyaf effeithiol at ddiwylliant Cymru, sy’n adlewyrchu bywyd cyfoes yng Nghymru orau, ac sy’n adlewyrchu amrywiaeth y bobl sy’n byw yng Nghymru o ran oedran, rhyw, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu ethnigrwydd yn ei rhaglenni yn well nag unrhyw sianel arall.17

Mae’r gwaith ymchwil hefyd yn dangos bod y gynulleidfa yn gwerthfawrogi’n benodol bod S4C yn portreadu Cymru gyfan.

Pan ofynnwyd iddynt ddewis sianeli sy’n “dangos rhaglenni am fy ardal i o Gymru”, dewiswyd S4C gan ganran uwch o lawer (78%) na’r sianel arall agosaf (BBC One Wales, 22%). Yn y tri rhanbarth, roedd yr holl sgorau ar gyfer S4C ar 70% neu uwch:

Gogledd Cymru: 77%
Canolbarth a Gorllewin Cymru: 81%
De Cymru: 70%

Ond, fel yr unig ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus a darparwr cynnwys clyweledol Cymraeg, rydym yn ymroi i wneud cyfraniad cyhoeddus ehangach at Gymru a’r iaith Gymraeg.

Yn ystod y 35 mlynedd ers i’r sianel gael ei chreu, mae S4C wedi:

  • rhoi statws ac amlygrwydd i’r Gymraeg, a galluogi siaradwyr Cymraeg i weld a chlywed eu hiaith yn cael ei defnyddio gan bobl o bob cefndir ac ym mhob rhan o Gymru;
  • ymgorffori egwyddorion amrywiaeth rhagweithiol, gan ganiatáu i Gymru a’i phobl, waeth beth fo’u cefndir, bortreadu, mynegi a gweld eu hunain yn cael eu cynrychioli ar y sgrîn;
  • annog trosglwyddiad iaith a darparu adnoddau dysgu yn yr iaith Gymraeg;
  • helpu i greu a chynnal sector teledu a diwydiannau creadigol ffyniannus, gan greu swyddi a chefnogi twf economaidd ledled Cymru.

Mae S4C yn dangos rhaglenni am fy ardal i o Gymru

YR IAITH GYMRAEG A’I LLE YN Y BYD DIGIDOL

Mae’r iaith yn ffynnu heddiw ac yn cael ei defnyddio gan bron tri chwarter miliwn o bobl yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig i raddau amrywiol yn eu bywydau – gartref, yn yr ysgol, yn y gwaith ac yn ystod amser hamdden.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn arbennig o uchel ymhlith plant oed-ysgol (pump i 15 mlwydd oed) - 40% - yn ôl y cyfrifiad diwethaf.18 Mae’r ffigurau hyn wedi mwy na dyblu yn ystod y 30 mlynedd diwethaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi pwyslais mawr ar gefnogi twf yr iaith, gan osod targedau uchelgeisiol ar gyfer cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.

Dyma’r adeg berffaith i gynyddu’r boblogaeth sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru wrth i’r rhai pump-15 oed dyfu’n oedolion.

Mae cefnogaeth i’r iaith ymhlith poblogaeth Cymru yn parhau i fod yn uchel. Mae arolwg a gynhaliwyd yn 2016 yn datgan bod 84% o siaradwyr Cymraeg rhugl yn credu y dylid gwneud mwy i warchod y Gymraeg fel iaith fyw.19 Cefnogir hyn hefyd gan 71% o siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn rhugl a 42% o’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg.

Fodd bynnag, er mwyn cynnal iaith fywiog a pherthnasol, yn awr ac yn y dyfodol, rhaid rhoi blaenoriaeth i sicrhau bod yr iaith yn hawlio ei lle yn y byd digidol ochr yn ochr â’r Saesneg ac ieithoedd eraill.

Er bod rhai datblygiadau pwysig yn mynd rhagddynt, ac yn torri tir newydd, mae ffynonellau eraill o gynnwys digidol yn yr iaith Gymraeg yn brin. Bydd gwireddu gweledigaeth S4C ar gyfer y dyfodol yn cael effaith uniongyrchol ar gynnal a chadw’r ecosystem ddiwylliannol sy’n angenrheidiol er mwyn i’r iaith barhau i ffynnu.

40%
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn arbennig o uchel ymhlith plant oed-ysgol
84%
Cred y mwyafrif o siaradwyr Cymraeg y dylid gwneud mwy i warchod y Gymraeg.

AMRYWIAETH, CYNWYSOLDEB A SYMUDEDD CYMDEITHASOL

Amrywiaeth

Mae S4C wedi bod yn gefnogwr a gweithredwr polisi amrywiaeth ers tro. Yn wir, amrywiaeth oedd yr hyn a sbardunodd ein bodolaeth. Yn ychwanegol i’n cyfraniad i amrywiaeth ieithyddol, dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi ennill gwobrau’r diwydiant ar draws y Deyrnas Unedig am y ffyrdd yr ydym yn portreadu grwpiau a dangynrychiolir ar y sgrîn.

Gwobrau:

  • Gwobrau’r Rhwydwaith Amrywiaeth Creadigol 2014 – Cynrychiolaeth Orau o Anabledd ar y Sgrîn - Fy Chwaer a Fi (Bulb Films sy’n rhan o Boom Pictures Cymru)
  • Gwobrau Cyfryngau Mind 2015 – Portread Gorau o Iechyd Meddwl mewn Opera Sebon – Pobol y Cwm (BBC Cymru Wales)
  • Gwobrau Teledu Trawsrywiol 2015 – Gwobr arbennig am adroddiad ar y gymuned drawsrywiol yng Nghymru – y rhaglen materion cyfoes Y Byd ar Bedwar (ITV Cymru Wales)
  • Gwobrau Teledu Trawsrywiol 2016 – Triniaeth eithriadol o westeion, materion a newyddion trawsrywiol - y rhaglenni cylchgrawn Heno a Prynhawn Da (Tinopolis)

Rydym yn llwyr gefnogi uchelgais Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gael mwy o amrywiaeth ym maes teledu – ar y sgrîn ac oddi arni – felly rydym yn cydnabod y gallem ac y byddwn yn gwneud mwy yn y maes hwn. Rydym yn trafod dichonoldeb ymuno â Diamond, sef prosiect monitro amrywiaeth ar draws y diwydiant a ddatblygwyd gan y Rhwydwaith Amrywiaeth Creadigol. Byddai hyn yn ein galluogi i fonitro ac adrodd ar amrywiaeth yn gyson ac yn gynhwysfawr yn y dyfodol, ac yn caniatáu i ni ddatblygu targedau perfformiad i sbarduno gwelliant yn y maes hwn.

Fy Chwaer a Fi Fy Chwaer a Fi
(Bulb Films rhan o Boom Pictures Cymru)

Pobol y Cwm Pobol y Cwm
(BBC Cymru Wales)

Cynwysoldeb

Ers y cychwyn cyntaf, mae S4C wedi ymrwymo i sicrhau bod cynulleidfa mor eang â phosibl yn gallu rhannu’r profiadau a ddarparwn. Rydym ni’n cynnig sawl gwasanaeth, ar wahanol lefelau, ac yn gweithio’n gyson i wella’r rhain er mwyn bodloni gofynion cynulleidfaoedd sy’n esblygu:

  • Rydym yn comisiynu cynnwys ar gyfer gwahanol grwpiau oedran a diddordeb, yn amrywio o bobl ifanc, i gefnogwyr chwaraeon, i gymunedau ffermio
  • Yn 2016, gwnaethom ddarparu is-deitlau Cymraeg ar gyfer oddeutu 13 awr o raglenni bob wythnos
  • Rydym yn darparu is-deitlau Saesneg ar gyfer 80.5% o raglenni Cymraeg (targed Ofcom yw 53.3%)
  • Rydym yn darparu iaith arwyddo ar gyfer 5.2% o raglenni (targed Ofcom yw 5%)
  • Gwnaethom ddarparu sain ddisgrifiad ar gyfer 10.3% o’n rhaglenni (targed Ofcom yw 10%)

Mae S4C yn credu y dylai pawb, waeth beth fo’u hoedran, cefndir, lleoliad, anabledd ac iaith, allu cael mynediad at ein gwasanaethau. Wrth i dechnoleg wella a chynnig datrysiadau mwy fforddiadwy, bydd S4C yn archwilio’r dewisiadau sydd ar gael gyda’r nod o gyflwyno datblygiadau pellach a fydd yn gwella profiadau i’r rhai sy’n defnyddio gwasanaethau mynediad.

Symudedd Cymdeithasol

Diolch i S4C, mae gweithio ym maes y teledu wedi bod yn llwybr gyrfa realistig a chyraeddadwy i bobl ifanc yng Nghymru. Yn wir, mae miloedd o yrfaoedd ym maes teledu yng Nghymru wedi cael eu hysbrydoli a’u gwireddu oherwydd bodolaeth S4C a’n buddsoddiad yn y sector cynhyrchu annibynnol.

Mae llawer wedi symud ymlaen i yrfaoedd creadigol, technegol a phroffesiynol mewn mannau eraill, ond mae llawer wedi dewis aros yn eu cymunedau eu hunain a chynnal busnesau cynaliadwy ynddynt.

Bydd yr uchelgeisiau a amlinellir yn y ddogfen hon ar gyfer S4C fwy deinamig a deallus yn ddigidol yn arwain at greu mwy o gyfleoedd gwaith amrywiol yn y sector cynhyrchu annibynnol. Bydd llawer yn gofyn am sgiliau digidol o’r radd flaenaf, sy’n elfen allweddol i alluogi symudedd cymdeithasol ac yn sector blaenoriaeth a amlygwyd ar gyfer twf gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru.

HYRWYDDO A CHEFNOGI DYSGU GYDOL OES

Gyda’i gilydd, mae addysg a darlledu iaith Gymraeg wedi bod yn allweddol o ran sefydlogi’r iaith Gymraeg ers y 1980au. Mae 94% o wylwyr sy’n siarad Cymraeg (a 91% o’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg) o’r farn bod S4C “yn cadw’r iaith Gymraeg yn fyw”. 20

Mae gwasanaeth S4C bob amser wedi annog trosglwyddiad iaith ac wedi helpu i ddarparu adnoddau ar gyfer dysgu yn y Gymraeg. Ar hyn o bryd, mae S4C yn cynnig rhywfaint o gynnwys dysgu ar yr awyr ac ar-lein. Rydym yn rhagweithiol wrth geisio cefnogi defnydd o’n cynnwys yn y system addysg.

Rydym ni wedi sicrhau bod mwy na 100 awr o raglenni ar gael i fyfyrwyr a darlithwyr a gefnogir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol; rydym wedi creu llyfrau dysgu cynnar ac yn cynnal trafodaethau â Hwb, sef y porth dysgu digidol a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.

Mae ein gweithgarwch hyd yma wedi bod yn dameidiog. Yn y dyfodol, ein nod yw defnyddio dull mwy cyfannol a bwriadol.

Ystyriwn fod S4C yn bartner dysgu gydol oes i bob siaradwr Cymraeg newydd a phawb sydd eisoes yn siarad yr iaith.

Ein nod fydd:

  • annog a chefnogi trosglwyddiad iaith e.e. trwy Cyw, sef ein gwasanaeth cyn oed ysgol, a Dal Ati, sef ein cynnig ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd;
  • cefnogi’r system addysg a’r cwricwlwm trwy gomisiynu dramâu neu gyfresi ffeithiol sy’n adlewyrchu themâu yn y cwricwlwm;
  • sicrhau bod ystod ehangach o adnoddau cynnwys ar gyfer pob grŵp oedran ar gael yn eang ac yn rhwydd ar gyfer dysgu ffurfiol ac anffurfiol. Bydd hyn yn ychwanegu at y gwaith partneriaeth sydd eisoes wedi dechrau gyda’r Coleg Cymraeg yn ogystal â gweithio gydag addysgwyr i sicrhau bod materion sy’n effeithio ar bobl ifanc heddiw – o seiberfwlio i born dial – yn cael eu hadlewyrchu yn rhywfaint o’r cynnwys sy’n cael ei greu ar gyfer y gynulleidfa hon; ac
  • cyfrannu’n weithredol at hybu sgiliau cyfryngau a digidol, gan gynnwys disgyblaethau y mae’r sector cynhyrchu yng Nghymru yn dibynnu arnynt.

Sicrhau bod ein cynnwys dysgu ar gael ar-lein

Rydym yn gwybod bod ein cynnwys presennol yn werthfawr i addysgwyr a myfyrwyr. Rydym yn cael ceisiadau rheolaidd am ddeunyddiau sy’n ymdrin â hanes a daearyddiaeth Cymru neu, er enghraifft, dramâu Shakespeare a gynhyrchwyd yn yr iaith Gymraeg. Ein nod yw sicrhau bod ein holl gynnwys addysgol gorau ar gael ar un llwyfan ar-lein cyfoethog a deinamig.

Yn yr un modd â’n cynlluniau cynnwys prif ffrwd, yr uchelgais yw sicrhau bod y cynnwys addysgol hwn ar gael yn y fformat iawn – boed hynny’n ffurf-hir neu’n ffurf-fer – ei fod yn rhwydd chwilio amdano a’i fod ar gael mor hwylus â phosibl ar draws dyfeisiau amrywiol.

Rydym ni eisiau bod yn ffynhonnell ddibynadwy, berthnasol a rhwydd-eidefnyddio o gynnwys cyfryngau sy’n cefnogi ac yn cyfoethogi’r profiad dysgu.

Dod yn bartner dysgu gydol oes

Er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau, mae angen i ni ymsefydlu dysgu gydol oes yn ddyfnach yn ein busnes a chanolbwyntio arno’n fwy penodol. Byddai adnoddau ychwanegol yn caniatáu i ni:

  • ddidoli cynnwys archif a chyfredol fel y bo’n briodol;
  • archwilio’r ffyrdd gorau i gyfleu cynnwys i fyfyrwyr ac addysgwyr;
  • gweithio gyda’n timau technolegol a digidol i sicrhau bod cynnwys yn y fformat iawn a’i fod ar gael yn hwylus;
  • creu mentrau cyfathrebu marchnata sy’n sicrhau bod myfyrwyr, athrawon a gwarcheidwaid yn ymwybodol o’r hyn sydd gennym ni a ble i ddod o hyd iddo.
£83m
Buddsoddiad
S4C yn economi
Cymru a’r DU
£170m
Cyfanswm effaith
economaidd S4C
ar draws y DU
£1 Gwariant
S4C
arrow_forward
£0.51 Refeniw treth yn
deillio o
weithgareddau S4C

EFFAITH ECONOMAIDD EHANGACH S4C

Mae S4C yn gweithio’n galed i sicrhau bod yr economi greadigol yng Nghymru yn ffynnu. Mae 81% o’n cyllid yn mynd yn uniongyrchol i’r sector cynhyrchu – ac mae nifer sylweddol o’r swyddi sy’n cael eu creu yn y sector hwnnw yn uniongyrchol gysylltiedig â’n gwariant ar gynnwys newydd.

Mae mwy na 50 o gwmnïau annibynnol yn cynhyrchu rhaglenni ar gyfer S4C, yn ogystal â chadwyn gyflenwi helaeth o ficrofusnesau a gweithwyr ar eu liwt eu hunain ledled Cymru. Mae cwmnïau cynhyrchu o Gymru wedi dod yn ddylanwadol ym marchnad y Deyrnas Unedig.

Mae’r sgiliau a ddatblygwyd wrth greu rhaglenni ar gyfer S4C bellach yn sail i ddiwydiant sy’n darparu rhaglenni i rwydweithiau eraill ym Mhrydain, yn ogystal â darlledwyr dramor.

Roedd ymchwil annibynnol wedi dangos yn ystod 2014/15, bod pob punt a fuddsoddwyd gan S4C mewn diwydiannau creadigol yng Nghymru, yn werth £2.09 i’r economi.21 Roedd effaith gyfunol ffilmio cyfres gyntaf Y Gwyll/Hinterland yng Ngheredigion ei hun dros £1 miliwn,22 a chyfanswm effaith economaidd S4C ar draws y Deyrnas Unedig yn 2014/15 oedd £170 miliwn.23

Mae ein cynnwys a’n doniau yn tynnu sylw at ddoniau Cymru dramor ac yn sbarduno mewnfuddsoddi. Mae cyfres un a dau Y Gwyll/Hinterland (a gynhyrchwyd gan Fiction Factory) wedi cael eu prynu gan ddarlledwyr mewn mwy na 20 o diriogaethau ar draws y byd ac mae fformat y sioe her Fferm Ffactor a ddatblygwyd ar gyfer S4C gan Cwmni Da, wedi cael ei werthu i wledydd gan gynnwys Tsieina a Ffrainc.

Yn ystod y pum mlynedd nesaf, wrth i S4C gyflwyno’r weledigaeth a amlinellir yn y ddogfen hon, bydd ein heffaith yn lledaenu y tu hwnt i’r economi greadigol i’r economi ddigidol sy’n datblygu’n gyflym - maes twf blaenoriaethol ar gyfer Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru. Trwy osod cynnwys cyfryngau digidol wrth wraidd ein strategaeth a thrwy gefnogi creu clwstwr creadigol a digidol newydd yng ngorllewin Cymru, bydd S4C yn cyfrannu at alluogi busnesau digidol i dyfu. Mae cefnogaeth i S4C yn creu mwy o swyddi yn y sector preifat ac yn helpu i ledaenu ffyniant a thwf economaidd i bob cwr o’r wlad.

Yn yr adran nesaf, amlinellwn sut rydym ni eisiau defnyddio ein his-gwmni masnachol i ategu ein huchelgeisiau gwasanaeth cyhoeddus ymhellach a chreu mwy o swyddi a sbarduno twf yn economi Cymru.

iv:STRATEGAETH FASNACHOL
I HELPU GYRRU’R
WELEDIGAETH

Mae hanes da gan S4C a’n cangen fasnachol, S4C Masnachol, o weithio’n llwyddiannus gyda phartneriaid masnachol yn fyd-eang. Mae S4C Masnachol yn gwneud amrywiaeth o fuddsoddiadau o’i gyllid masnachol ei hun gyda’r nod o greu difidendau cynaliadwy i wasanaeth cyhoeddus S4C.

Er 2009, mae S4C Masnachol wedi talu difidendau gwerth bron i £2m y flwyddyn ar gyfartaledd i’r gronfa gwasanaeth cyhoeddus.

Ein nod yw adeiladu ar yr hyn sy’n cael ei gyflawni ar hyn o bryd, a chyflawni hyd yn oed mwy o werth i’r gwasanaeth cyhoeddus. Bwriadwn gyflawni hyn drwy ymgysylltu’n llwyddiannus â’r meysydd gweithgarwch masnachol canlynol:

Ehangu cyrhaeddiad brandiau ar yr awyr - Cymryd brandiau dethol ac ymchwilio i ffyrdd lle gellid cael gwerth pellach drwy brosiectau S4C Masnachol; gweld a allant fyw oddi ar yr awyr mewn lleoliad masnachol, tra’n hyrwyddo rhyngweithio wyneb-yn-wyneb a phrofiadau brand S4C o ansawdd uchel yn y gymuned. Er enghraifft:

  • Rydym eisoes yn datblygu cynlluniau ar gyfer Fferm Cyw fel atyniad ymwelwyr masnachol yn seiliedig ar ein brand poblogaidd ar yr awyr ar gyfer plant iau.
  • Rydym wrthi’n ystyried sut i ymgorffori brand Cyw ymhellach yng nghwricwlwm y blynyddoedd cynnar mewn ffordd sy’n cefnogi trosglwyddiad iaith, yn ogystal â chynhyrchu incwm i’w fuddsoddi’n ôl yn ein gwasanaethau.

Ar hyn o bryd, mae ITV yn mwynhau llwyddiant mawr gyda nifer o’i weithgareddau ehangu brand oddi ar yr awyr. Mae’r rhain yn cynnwys profiadau ymwelwyr Emmerdale, fersiynau theatr o Saturday Night Takeaway a thaith goginio ranbarthol gan Gino D’Acampo – Gino’s Italian Escape.

Gwerthu hysbysebion, nawdd a thelesiopa – ffrwd incwm sydd wedi lleihau’n sylweddol ers Newid i Ddigidol a cholli rhaglenni C4, ond sy’n bwysig o hyd. Sky yw asiant S4C a chaiff hysbysebwyr lleol eu cymell i hysbysebu yn Gymraeg yn sgil cymhorthdal a gynigir ar gyfer costau cynhyrchu. Mae hyn yn cynyddu nifer y cwmnïau Cymreig sy’n hysbysebu ar S4C, mewn marchnad sy’n tueddu bod dan ddylanwad trwm ffactorau yn Llundain.

Ein nod yw parhau i archwilio ffyrdd o gynhyrchu mwy o incwm hysbysebu a nawdd, yn enwedig o ddarparu cynnwys ar-lein a chynnwys digidol. Byddai gwireddu’r nodau a amlinellir yn y weledigaeth hon yn gosod y sylfaen i alluogi S4C i roi cyfleoedd hysbysebu pellach ar waith sy’n bodloni ein anghenion ni ac anghenion hysbysebwyr.

Enillion refeniw o werthiant rhaglenni rhyngwladol – Er bod hwn yn faes lle mae S4C wedi cyflawni llwyddiant yn draddodiadol, mae’r fframwaith statudol dros y blynyddoedd diwethaf wedi golygu mai cynhyrchwyr yn hytrach nag S4C sy’n dal hawliau ymelwa bellach. Heddiw, rydym yn gweithio gyda phartneriaid i fuddsoddi mewn prosiectau cyd-gynhyrchu addas. Hwn yw ein prif dempled ar gyfer ymwela yn y dyfodol ar werth masnachol rhaglenni dethol. Mae gennym berthynas barhaus gyda Sony, gyda’r bwriad o ysbrydoli cynhyrchwyr i greu fformatau i’w dosbarthu’n rhyngwladol.

Yn arwyddocaol, yn yr un modd ag unrhyw weithgareddau masnachol, nid buddsoddiad yn ein dyfodol ni’n hunain yn unig yw’r rhain; maent yn fuddsoddiad yn yr economi hefyd. Bydd creu fformatau i Sony eu dosbarthu yn cyflawni refeniw ychwanegol, gan greu cyfleoedd i’r sector cynhyrchu yng Nghymru.

Buddsoddiadau ecwiti mewn prosiectau perthnasol - Buddsoddi mewn cyfleoedd – busnesau neu gyfleoedd cydgynhyrchu a all helpu cyflawni ein gweledigaeth – a sicrhau enillion ariannol. Mae’r rhain yn tueddu bod yn fuddsoddiadau tymor-hwy, a bwriadwn gynnal dull portffolio ar gyfer y math hwn o fuddsoddiad. Mae enghreifftiau diweddar o’r math hwn o weithgarwch yn cynnwys:

  • Mae Cyfres un a dau o Y Gwyll/ Hinterland bellach wedi’u gwerthu i dros 20 o diriogaethau o amgylch y byd, ac maent wedi’u gweld mewn 130 o diriogaethau eraill ar Netflix, gan gynhyrchu dros £2.6m mewn incwm gwerthiannau gros a rennir ar draws buddsoddwyr. Mae Cyfres tri wedi’i darlledu ar S4C erbyn hyn, a bydd yn dechrau ei thaith fyd-eang yn fuan. Mae drama teledu o ansawdd uchel o Gymru ar fin cyflawni effaith ehangach ar y llwyfan rhyngwladol.

Cydweithio ag eraill – datblygu partneriaethau gyda phartïon eraill â buddiant neu’r rheiny ag arbenigedd a phrofiad a all gyflawni canlyniadau i S4C.

  • Datblygu partneriaethau creadigol a masnachol newydd e.e. gyda brandiau defnyddwyr, sefydliadau, lleoliadau neu atyniadau a allai gynhyrchu mathau newydd o gynnwys ar gyfer y sianel linol, ein gwefan, neu’r cyfryngau cymdeithasol.
  • Ymchwilio i bartneriaethau technolegol/ cyfryngau newydd e.e. gyda darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd (ISPau)/ llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, a allai alluogi mwy o berthnasoedd/ymgysylltiadau cynulleidfa newydd gydag S4C.
  • Mae S4C wedi chwarae rhan bwysig yn hwyluso creu loteri cymdeithas newydd i Gymru. Mae hawliau unigryw wedi’u sicrhau i ddarlledu canlyniadau’r loteri ac archwilio cyfleoedd rhaglenni yn ymwneud â’r achosion da a fydd yn elwa ar y loteri.

Targedau Buddsoddi Masnachol

Wrth ystyried buddsoddiadau masnachol, disgwyliwn i’r busnes dan sylw arddangos Gwerth Presennol Net (NPV) cadarnhaol o lif arian dros dair i bum mlynedd gan ddefnyddio cyfradd ddisgownt o 15%. Mae’r elw i S4C Masnachol yn debygol o fod drwy gyfuniad o dwf cyfalaf a difidendau, er nad oes modd rhagweld yn gywir pa bryd y bydd enillion yn cael eu cyflawni i S4C Masnachol, oherwydd yn aml ni ragwelir unrhyw werthiant am bum mlynedd neu fwy.

Galluogi Potensial Masnachol S4C

Gall y darpariaethau statudol presennol yn ymwneud â gallu S4C i fuddsoddi mewn gweithgareddau masnachol newydd fod yn orgymhleth ac anghymesur, gan gyfyngu ar allu S4C i gynhyrchu ein ffrydiau refeniw masnachol newydd ein hunain.

Os dymunwn ymwneud â math newydd o weithgarwch masnachol gyda’n harian masnachol ein hunain, nad yw’n cydweddu’n agos â gwasanaeth craidd S4C, mae’n rhaid i ni ofyn am gymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol i roi darn o ddeddfwriaeth gerbron y Senedd, ac i’r Senedd ystyried p’un a ddylid caniatáu i S4C ymgymryd â phrosiect masnachol newydd.

Mae S4C o’r farn y gellid pennu ei bwerau masnachol er mwyn galluogi S4C i fuddsoddi a chyfranogi mewn ystod ehangach o brosiectau masnachol heb orfod gofyn am gymeradwyaeth seneddol.

Rhoi pwerau masnachol newydd ar waith

Mae S4C yn cynnig bod ein pwerau masnachol yn cael eu diffinio’n ehangach, yn unol â rhai Channel 4, er enghraifft drwy orchymyn galluogi cyffredinol a allai ganiatáu i ni ddefnyddio ein cronfeydd masnachol i hwyluso nifer fwy o brosiectau masnachol yng Nghymru a cheisio cynhyrchu mwy o incwm masnachol. Gallai gorchymyn o’r fath gael ei wneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy Orchymyn Penderfyniad Negyddol.24

Pwerau masnachol blaenorol S4C

O 1996 tan 2003, roedd y darpariaethau statudol a oedd yn llywodraethu gweithgareddau masnachol S4C a Channel 4 yn weddol debyg ac yn galluogi S4C i fuddsoddi mewn ystod eang o weithgareddau masnachol er mwyn creu incwm ychwanegol a gwerth cyfalaf i S4C – a fyddai yn ei dro yn cael ei fuddsoddi’n ôl yng ngwasanaethau cyhoeddus y sianel.

Er 2003 fodd bynnag, mae pwerau a rhyddidau masnachol S4C wedi’u cwtogi’n sylweddol gan fframwaith sy’n mynnu cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol a’r Senedd i S4C fuddsoddi mewn rhai mathau o brosiectau.25

Nid yw Channel 4 na BBC Worldwide dan reolaeth cyfundrefn lle mae’n ofynnol i’r Ysgrifennydd Gwladol a’r Senedd gymeradwyo rhai mathau o fuddsoddiad a wneir gyda chronfeydd a gynhyrchir yn fasnachol.

Mae bod yn fwy masnachol yn cadw S4C yn fwy craff, yn fwy cydnaws â’i gynulleidfa, cystadleuwyr a busnesau eraill, ac yn sicrhau ein bod mewn sefyllfa well i ddod i wybod am gyfleoedd wrth iddynt godi, a manteisio arnynt.

Deilliannau targed o’n gweledigaeth

Rydym yn dymuno bod yn ddarparwr cynnwys cyfryngau addas i’r dyfodol sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus ar y lefelau uchaf i’n cynulleidfa, i’r economi ac i gymdeithas gyfan, gan arwain at:

  • niferoedd gwylio gwych a lefelau uchel o werthfawrogiad ymhlith y gynulleidfa,
  • darpariaeth gwasanaeth wedi’i theilwra ar y teledu a llwyfannau digidol – gyda’r hyblygrwydd i lansio ar lwyfannau newydd fel bo’r angen,
  • cynnydd parhaus yn nifer y siaradwyr Cymraeg ifanc,
  • S4C yn cyflawni rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus yn rhwydd ar amrywiaeth, symudedd cymdeithasol, hygyrchedd a datganoli swyddi a buddsoddiad,
  • S4C yn parhau i gefnogi’r sector cynhyrchu llewyrchus ac yn ysgogi datblygu economi ddigidol ffyniannus ymhellach yng Nghymru, ac,
  • yr S4C newydd yn derbyn cynnydd cymhedrol, ond parhaus, mewn buddsoddiad er mwyn cyflawni ei gynlluniau.