Gorffennaf 2025
1. Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan S4C, Tinopolis, Tinint (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmnïau eraill sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.
2. Rhaid i bob ymgeisydd fod yn 17 oed neu'n hŷn i chwarae a rhaid iddynt gadarnhau eu bod yn bodloni'r gofynion oedran wrth gofrestru i chwarae. Ceidw'r Cwmni ac S4C yr hawl i ofyn am brawf ysgrifenedig o oedran unrhyw enillydd.
3. I gystadlu, rhaid ticio'r blychau perthnasol i dderbyn telerau ac amodau Ap Cwis. Bydd rhaid i bob ymgeisiydd wneud hyn cyn cael mynediad i chwarae.
4. Drwy gydol y tymor, bydd y cystadlaethau wythnosol yn dechrau am 00:01 ar fore Dydd Sadwrn ac yn cau am 23:59 ar Ddydd Gwener.
5. Bydd y tymor yn dechrau am 00:01 ar y 5ed o Orffennaf 2025 ac yn cau am 00:00 ar y 30ain o Awst 2025.
6. Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.
7. Bydd y Cwmni yn cadw data personol cystadleuwyr am hyd at 12 mis ar ôl diwedd y tymor diweddaraf er mwyn gweinyddu'r gystadleuaeth ac ymdrin ag unrhyw ymholiadau. Yn unol â rheoliadau GDPR, gall chwaraewyr ddileu eu data personol ar unrhyw adeg trwy ddileu eu cyfrif o fewn gosodiadau proffil yr Ap.
8. Bydd y Cwmni yn prosesu unrhyw ddata personol yn unol â'r polisi preifatrwydd sydd wedi'i gyhoeddi ar https://www.tinopolis.com/privacy-notice/. Bydd S4C yn prosesu unrhyw ddata personol yn unol â'r polisi sydd wedi'i gyhoeddi ar http://www.s4c.cymru/en/about-this-site/page/16717/privacy-policy/.
9. Ceidw’r Cwmni a/neu S4C yr hawl i anghymwyso unrhyw ymgeisydd os bydd ganddynt sail resymol dros gredu bod yr ymgeisydd wedi torri unrhyw rai o'r rheolau hyn.
10. Ni fydd y Cwmni nac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan yr ymgeiswyr, nac am unrhyw gyfathrebu gan y chwaraewyr â thîm gweinyddol Cwis.
11. Ceidw’r Cwmni a/neu S4C yr hawl i ddiwygio'r rheolau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth, neu er mwyn sicrhau bod y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn unol â'r deddfau a’r canllawiau perthnasol.
12. Mae'r telerau a'r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
13. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r gystadleuaeth at y tîm gweinyddol: cwisbobdydd@tinint.com neu Gwifren Gwylwyr S4C: 0370 600 414.
Bydd 8 gwobr wythnosol ar gael yn ystod tymor 7, sef un wobr ar gyfer pob wythnos y mae’r tymor yn fyw*. I fod yn gymwys i ennill y wobr wythnosol, rhaid i ymgeiswyr chwarae Cwis Bob Dydd a gorffen yr wythnos gyda sgôr terfynol o fewn y 200 uchaf ar y sgorfwrdd. Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap o blith y 200 o chwaraewyr gyda’r sgoriau uchaf. I ddarganfod beth ydy’r wobr, bydd rhaid i bob enillydd ddewis un o’r 8 amlen.
Bydd Tinint (y Cwmni) yn cysylltu â'r enillydd at ddibenion dilysu ac i gael rhagor o fanylion fel y gall S4C anfon y wobr. Rhaid i'r enillydd ymateb i gadarnhau eu manylion o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl i dîm gweinyddol Cwis gysylltu â nhw.
Mae’r gwobrau’n cynnwys:
· 1x tocyn teulu i Folly Farm am un flwyddyn (4 person)
· 1x beic oedolyn o www.tredz.co.uk
· 1x pâr o docynnau trên Dosbarth Cyntaf gyda Trafnidiaeth Cymru
· 1x pecyn o 24 cwrw crefft di-alcohol ‘Yma o Hyd’
· Cit chwaraeon gwerth £500 gan Conquerteamwear.com
· Gwyliau ym Mhentre Ifan: 2x noswaith mewn 2 ystafell en-suite yn cysgu hyd at 6 yr ystafell, gyda brecwast a gweithgaredd nos serydda a natur biofflworoleuol yng Nghoedwig hynafol Tŷ Canol (Dyddiadau: Hydref 2025 - Chwefror 2026).
· 1x pryd o fwyd i 2 berson (gwerth dros £300) ym mwyty GWEN Gareth Ward
· 1x tocyn teulu i gêm griced Metro Bank One Day Cup
*Mae’n bosibl y bydd nifer y gwobrau ac enillwyr yn amrywio, yn dibynnu ar faint o noddwyr a gwobrau sydd i'w cael.
1. Y Gystadleuaeth: Bydd y gystadleuaeth yn dechrau ar 5ed o Orffennaf 2025 ac yn cau ar 30ain o Awst 2025. Ni fydd unrhyw geisiadau a gyflwynir cyn neu ar ôl y cyfnod hwn yn cael eu hystyried.
2. Cymhwysedd: Mae'r gystadleuaeth yn agored i drigolion sy'n 17 oed neu'n hŷn. Ni all unigolion sy'n gweithio i Cwis Bob Dydd, eu teuluoedd agos, nac unrhyw unigolyn sydd â chysylltiad proffesiynol â’r gystadleuaeth hon gymryd rhan.
3. Sut i gystadlu: I fod yn gymwys i ennill y wobr wythnosol, rhaid i ymgeiswyr lawrlwytho a chwarae ap Cwis Bob Dydd a gorffen yr wythnos gyda sgôr terfynol o fewn y 200 uchaf ar y sgorfwrdd.
4. Dewis enillydd: Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap o blith yr holl geisiadau cymwys. Bydd yr enillydd yn cael ei hysbysu drwy e-bost o fewn 7 diwrnod i’r dyddiad cau.
5. Hawlio'r wobr: Rhaid i'r enillydd gadarnhau ei fod yn hapus i dderbyn y wobr o fewn 14 diwrnod o gael ei hysbysu. Gall methiant i wneud hynny arwain at fforffedu’r wobr, ac mae’n bosibl y bydd enillydd arall yn cael ei ddewis.
6. Trosgwlyddo’r wobr: Ni ellir trosglwyddo’r wobr neu gael arian yn gyfnewid am y wobr hon.
7. Newidiadau i’r Gystadleuaeth: Mae Cwis Bob Dydd yn cadw'r hawl i ddiwygio, gohirio neu ganslo’r gystadleuaeth ar unrhyw adeg heb rybudd.
9. Preifatrwydd: Bydd unrhyw ddata personol a gasglir fel rhan o’r gystadleuaeth hon yn cael eu defnyddio er mwyn cynnal y gystadleuaeth yn unol â'n polisi preifatrwydd yn unig.
1. Mae'r wobr yn ddilys am 14 diwrnod o'r dyddiad ennill. Ar ôl y dyddiad hwn, ni fydd y wobr yn ddilys.
2. Mae tocynnau trên yn ddilys ar gyfer gwasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru yn unig ac maent yn amodol ar argaeledd Gwasanaeth Dosbarth Cyntaf rhwng Caerdydd - Caergybi/Manceinion).
3. Nid yw Trafnidiaeth Cymru a'u hasiantau yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am faterion technegol nac unrhyw broblemau y gallai enillwyr eu cael wrth hawlio eu gwobr.
4. Dim ond un wobr a ganiateir fesul cyfranogwr.
5. Ni ellir trosglwyddo'r wobr ac ni ddylid ei gwerthu, ei newid na'i chyfnewid am arian.
6. Ni ellir rhoi unrhyw ad-daliadau os yw eich trên yn cael ei ohirio neu ei ganslo.
7. Nid yw Trafnidiaeth Cymru yn gyfrifol am:
a. darparu gwasanaethau trafnidiaeth y tu hwnt i gyrraedd yr hawliau gwobrau.
b. anallu i deithio o fewn yr amserlen y mae'r tocynnau'n ddilys ar ei chyfer.
I weld y telerau ac amodau llawn, ewch i:
https://www.s4c.cymru/cy/y-wefan-hon/page/57281/telerau-ac-amodau-cystadleuaeth/
Trwy dderbyn telerau'r gystadleuaeth hon, mae pob chwaraewr yn cytuno y gall y Cwmni ac S4C ddefnyddio enw a llun proffil yr enillydd at ddibenion hyrwyddo'r gystadleuaeth mewn unrhyw gyfrwng. Mae’n bosibl y bydd y Cwmni ac S4C yn cysylltu â chwaraewyr/enillwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau hyrwyddo a marchnata. Bydd unrhyw gyfranogiad mewn gweithgareddau o'r fath yn ôl disgresiwn y chwaraewr/enillydd.
Rhaid bod yn 17 oed neu'n hŷn i ddefnyddio'r ap hwn. Drwy ddefnyddio'r ap a chytuno i'r telerau ac amodau hyn, rydych yn cynrychioli ac yn gwarantu eich bod yn 17 oed neu'n hŷn.