Cwis Bob Dydd

Cwis Bob Dydd

Cwis Bob Dydd

Ap cwis Cymraeg am ddim gan S4C

Ateba 10 cwestiwn bob dydd a gweld sut rwyt ti'n cymharu â chwaraewyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Mae pob cwis yn unigryw, gan gyfuno cyflymder a chywirdeb i greu her newydd bob dydd. Chwaraea yn erbyn ffrindiau, teulu, cydweithwyr neu ymuna â grŵp i gystadlu gyda'ch gilydd.

Mae cwis newydd ar gael bob dydd, gan roi'r cyfle i ti ddringo'r sgorfwrdd a phrofi dy wybodaeth ar draws amrywiaeth eang o bynciau.

Lawrlwytha'r ap heddiw ac ymuno â miloedd o chwaraewyr sy'n derbyn yr her ddyddiol.

Ar gael am ddim ar iOS ac Android.

Y Wobr

Chwaraea Cwis Bob Dydd bob dydd am gyfle i ennill.

Po amlaf rwyt ti'n chwarae a pho uchaf rwyt ti ar y sgorfwrdd, y mwyaf o siawns sydd gen ti o gymhwyso ar gyfer y raffl.

Bydd un enillydd wedyn yn cael ei ddewis ar hap o blith y chwaraewyr cymwys.
Gall y pecynnau gwobrau amrywio drwy gydol y flwyddyn a byddant yn cael eu cyhoeddi yn yr ap ac ar sianeli cyfryngau cymdeithasol S4C.
Rhennir y gystadleuaeth yn gyfnodau cystadlu wythnosol, sy'n rhedeg o 00:00:00 fore Gwener tan 23:59:59 ar y dydd Iau canlynol.

Pob lwc!

Lawrlwythwch yr ap nawr i gystadlu ac i gyrraedd top ein sgorfwrdd. Chwilia am "Cwis" i lawrlwytho ar iOS neu Android.

Yr unig gwis dyddiol am ddim yn y Gymraeg, gan S4C.