Ionawr 2024
1. Mae'r gystadleuaeth yn agored i bawb ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan S4C, Tinopolis, Tinint (y Cwmni), eu teuluoedd a chwmnïau eraill sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.
2. Rhaid i bob ymgeisydd fod yn 17 oed neu'n hŷn i gystadlu a rhaid iddynt gadarnhau eu bod yn bodloni'r gofynion oedran wrth gofrestru i chwarae. Ceidw'r Cwmni ac S4C yr hawl i ofyn am brawf ysgrifenedig o oedran unrhyw enillydd.
3. I gystadlu, rhaid ticio'r blwch perthnasol i dderbyn telerau ac amodau Ap Cwis. Mae hyn yn cael ei wneud cyn i'r ymgeisydd gael chwarae.
4. Bydd y gystadleuaeth yn dechrau am 00:01 ar y 29ain o Ionawr 2024 ac yn cau am 23:59 ar y 10fed o Fawrth 2024.
5. Mae penderfyniad y Cwmni ac S4C yn derfynol.
6. Bydd y Cwmni yn cadw data personol cystadleuwyr am hyd at 12 mis ar ôl dyddiad diwedd y tymor diweddaraf er mwyn gweinyddu'r gystadleuaeth a delio gydag unrhyw gwestiynau. Gall chwaraewyr ddileu'r holl ddata personol ar unrhyw adeg trwy ddileu eu cyfrif o fewn gosodiadau proffil yr Ap. Mae hyn yn unol â rheoliadau GDPR.
7. Bydd y Cwmni yn prosesu unrhyw ddata personol yn unol â'r polisi preifatrwydd sydd wedi'i gyhoeddi ar https://www.tinopolis.com/privacy-notice/. Bydd S4C yn prosesu unrhyw ddata personol yn unol â'r polisi sydd wedi'i gyhoeddi ar http://www.s4c.cymru/en/about-this-site/page/16717/privacy-policy/.
8. Mae'r Cwmni a/neu S4C yn cadw'r hawl i anghymwyso unrhyw ymgeisydd os bydd ganddynt sail resymol dros gredu bod yr ymgeisydd wedi torri unrhyw rai o'r rheolau hyn.
9. Ni fydd y Cwmni nac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan yr ymgeiswyr, nac am unrhyw gyfathrebu gan y chwaraewyr i dîm gweinyddol Cwis.
10. Mae'r Cwmni a/neu S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r rheolau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth, neu er mwyn sicrhau bod y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn unol â'r deddfau a chanllawiau perthnasol.
11. Mae'r telerau a'r amodau hyn yn weithredol yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
12. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau ynglŷn â'r Gystadleuaeth at y tîm gweinyddol: cwisbobdydd@tinint.com neu Gwifren Gwylwyr S4C: 0370 600 414.
Bydd pawb sy'n chwarae Cwis Bob Dydd yn cael eu cynnwys mewn raffl i ennill 4 tocyn i gêm Cymru v yr Eidal ar 16eg o Fawrth 2024. Bydd chwaraewyr yn derbyn 1 tocyn i'r raffl bob tro maen nhw'n ateb y Cwis. Bydd enillydd y raffl yn cael ei ddewis ar hap trwy broses awtomataidd ar 11eg o Fawrth.
Bydd Tinint (y Cwmni) yn cysylltu â'r enillydd at ddibenion dilysu ac i gael rhagor o fanylion fel y gall S4C anfon y wobr. Rhaid i'r enillydd ymateb i gadarnhau ac anfon eu manylion o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl i dîm gweinyddol Cwis gysylltu â nhw.
1. Y Wobr
Prif wobr y tymor fydd 4 tocyn i gêm Cymru v yr Eidal ar 16eg o Fawrth 2024 yn Stadiwm y Principality. Bydd rhaid i'r enillydd dalu am unrhyw gostau teithio.
2. Gofynion cymhwysedd
Mae'r gystadleuaeth yn agored i holl drigolion y Deyrnas Unedig sy'n 17 oed neu'n hŷn adeg ymgeisio. Ni all unigolion sy'n gweithio i'r hyrwyddwr, na'u teuluoedd agos, gymryd rhan.
3. Sut i gystadlu
I gystadlu i ennill y wobr, rhaid i chwaraewyr lawrlwytho Ap Cwis Bob Dydd, cofrestru a chwarae'r Cwis fel bod ganddynt amser cwblhau a sgôr ar gyfer diwrnod sy'n gymwys o fewn y tymor y mae'r wobr yn perthyn iddo. Bob tro y mae'r defnyddiwr yn ateb y Cwis, bydd enw'r chwaraewr (ID y chwaraewr) yn cael ei gynnwys yn y raffl.
4. Dewis enillydd
Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap o blith yr holl geisiadau cymwys. Bydd yr enillydd yn cael ei hysbysu drwy e-bost o fewn 1 diwrnod gwaith i'r dyddiad cau.
5. Hawlio'r wobr
Rhaid i'r enillydd gysylltu â'r hyrwyddwr o fewn 3 diwrnod ar ôl cael ei hysbysu i hawlio ei wobr. Bydd y wobr yn cael ei hanfon ar ffurf tocynnau digidol.
Mae'r gêm hon wedi'i bwriadu ar gyfer cynulleidfa o oedolion yn unig.
Trwy dderbyn telerau'r gystadleuaeth hon, mae pob chwaraewr ac enillydd yn cytuno y gall y Cwmni ac S4C ddefnyddio enw a llun proffil yr enillydd at ddibenion hyrwyddo'r gystadleuaeth mewn unrhyw gyfrwng. Gall y Cwmni ac S4C gysylltu â chwaraewyr/enillwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau hyrwyddo a marchnata. Bydd unrhyw gyfranogiad pellach mewn gweithgareddau o'r fath yn ôl disgresiwn y chwaraewr/enillydd.
Rhaid i ti fod yn 17 oed neu'n hŷn i ddefnyddio'r ap hwn. Drwy ddefnyddio'r ap a chytuno i'r telerau ac amodau hyn, rwyt ti'n cynrychioli ac yn gwarantu dy fod yn 17 oed neu'n hŷn.