S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

Newid ym mholisi Iechyd a Diogelwch i gwmnïau sy’n darparu rhaglenni i S4C

01-Meh-2015

O Fehefin 2015, bydd S4C yn ymuno a'r BBC, ITV a Sky i weithio gyda'i gilydd i rannu gwybodaeth a ddarparir yn ystod yr archwiliadau iechyd a diogelwch yn y cyfnod cyn-gomisiynu. Bydd hyn yn cymryd lle'r gofynion blaenorol gan S4C o berson penodol yn cael ei roi ar y 'briffiau' ar gyfer rhaglenni.

Y Broses O Fehefin 2015, bydd cwmnïau annibynnol S4C yn cwblhau adolygiad iechyd a diogelwch fel rhan o'r broses gomisiynu. Er mwyn cysoni'r adolygiadau, mae'r darlledwyr wedi cytuno ar set unigol o gwestiynau iechyd a diogelwch sy'n ffurfio'r adolygiad iechyd a diogelwch. Mae atebion gosod hefyd wedi eu cytuno i sicrhau cysondeb yn yr ymatebion a dderbynnir.

Bydd y cwmnïau cynhyrchu yn gallu lawrlwytho'r dogfennau o wefan S4C a chyflwyno'r holiadur wedi ei gwblhau yn cynnwys y dogfennau cefnogol i'w rheolwr busnes. Unwaith bydd y wybodaeth sy'n foddhaol neu'n fwy na boddhaol wedi ei dderbyn ar sail y model a gytunwyd, bydd y wybodaeth yma'n cael ei lwytho mewn i fas data a rennir gan y darlledwyr. Fydd wybodaeth sydd ar y bas data ddim ond yn cael ei rannu rhwng y darlledwyr sy'n aelodau (BBC, ITV a SKY ar hyn o bryd) a fydd yn ddilys ar gyfer pob cynhyrchiad risg isel i ganolig am gyfnod o dair blynedd, pa bynnag ddarlledwr. Bydd cynhyrchiad penodol sy'n cynnwys gweithgareddau neu leoliadau risg uwch yn destun i adolygiad ychwanegol gan y darlledwr comisiynu.

Os yw'r cwmni yn methu cyrraedd safon yr ymatebion model a gyflwynir i S4C, byddwn yn hysbysu'r cynhyrchydd ac yn rhoi cyngor ar sut i gyrraedd y safon. Dylid nodi mai dim ond gwybodaeth iechyd a diogelwch a gasglwyd drwy'r holiadur a'r dogfennau cefnogol fydd ar gael i'r darlledwyr eraill, ni fydd unrhyw wybodaeth arall a ofynnir amdano fel rhan o'r proses gomisiynu yn cael ei rannu.

Bydd cynyrchiadau sydd eisoes wedi eu comisiynu a chwmnïau sy'n cyflenwi rhaglenni i S4C yn barod yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y broses cyn gynted â phosib drwy gwblhau'r holiadur. Fodd bynnag bydd comisiynau newydd yn gorfod cydymffurfio â'r polisi newydd a bydd yn ofynnol i gwblhau'r holiadur.

Monitro Iechyd a Diogelwch Bydd pob darlledwr yn parhau i ddilyn eu telerau eu hunain yn ymwneud â chydymffurfiaeth iechyd a diogelwch ac y prosesau adolygu y dylid eu dilyn. Ni fydd unrhyw wybodaeth a gasglwyd gan yr adolygiadau hyn yn cael ei rannu gan unrhyw ddarlledwr.

Cyngor Iechyd a Diogelwch Nid yw'r cyfrifoldeb ar reolaeth iechyd a diogelwch ar gynyrchiadau wedi eu comisiynu wedi newid. Bydd y cynhyrchwyr annibynnol yn parhau i fod yn gyfrifol am drefniadau iechyd a diogelwch o fewn eu sefydliadau, ac yn gyfrifol am gyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol. Am y rheswm yma, dylai'r cynhyrchydd fedru cael cyngor annibynnol ar iechyd a diogelwch. Nid yw darlledwyr fel S4C yn darparu'r cyngor yma fel arfer oni bai ei fod yn amod o fewn y cytundeb comisiynu.

Gallwch ofyn am unrhyw eglurhad bellach drwy reolwr busnes eich cwmni neu yn uniongyrchol drwy Rhys Bevan (rhys.bevan@s4c.cymru) yn S4C.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?