S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

Gwifren Gwylwyr yn gymorth i chi

Gwifren Gwylwyr S4C sy'n cysylltu S4C â'r gwylwyr. Ond fe alla nhw eich helpu chi hefyd.

Mae tîm y Wifren yn gweithio yn ein swyddfa yng Nghaernarfon. Mae pedwar aelod yn y tîm - Siôn, Russell, Iestyn ac Elisabeth - yn gweithio mewn shifftiau o 09:00-22:00, 7 diwrnod yr wythnos.

Maen nhw'n barod iawn i'ch helpu!

Chwilio am gyfranwyr

Defnyddiwch rif Gwifren Gwylwyr i ddenu cyfranwyr, cystadleuwyr neu gynulleidfa.

Mae rhif y Wifren yn cael ei ddefnyddio llawer iawn yn barod a'r fantais arall yw fod y tîm yn gallu ateb galwadau tan 10.00 o'r gloch bob y nos, bob dydd.

Cyn defnyddio rhif y Wifren ar ddeunydd hyrwyddo, plîs cysylltwch â nhw i drafod:

  • Beth yw'r rhaglen?
  • Pa wybodaeth ry' chi eisiau iddyn nhw ei gasglu i chi?
  • Sut a phryd fydd rhif y Wifren yn cael ei hyrwyddo?
  • Manylion cyswllt er mwyn rhannu manylion y gwylwyr yn ddiogel ac er mwyn i staff y Wifren ofyn cwestiynau.

Bydd tîm y Wifren yn cofnodi enw a manylion cyswllt y gwylwyr, ynghyd ag unrhyw wybodaeth arall ry' chi eisiau. Yna, byddan nhw'n gofyn am ganiatâd i rannu'r wybodaeth gyda chi.

Bydd y wybodaeth yn cael ei anfon atoch chi, fel y trefnwyd, a'ch cyfrifoldeb chi fydd ffonio'r gwylwyr yn ôl er mwyn trafod ymhellach.

Pwysig:

  1. Wrth hyrwyddo rhif Gwifren Gwylwyr mae'n rhaid nodi cost yr alwad, sef: (Ni fydd galwadau'n costio mwy na galwad gyfradd genedlaethol i rifau 01 neu 02.)
  2. Does dim hawl i chi ddefnyddio'r wybodaeth at ddiben arall – ee. ar gyfer rhaglen arall yn y dyfodol - heb ganiatâd y person.

Sylwadau Gwylwyr

Mae'r holl sylwadau sy'n ein cyrraedd am gynnwys a gwasanaethau S4C yn cael ei logio a'u cadw.

Mae croeso i chi wneud cais am gopi o adroddiad am eich rhaglen chi.

Dau amod sydd:

  1. Eich bod yn derbyn y bydd y sylwadau yn cael ei hanfon atoch yn ddienw.
  2. Ry'n ni'n ymddiried ynoch chi i drin y wybodaeth yn sensitif ac ni fydd yn cael ei rannu y tu hwnt i'r tîm cynhyrchu.

Cysylltu â S4C mewn argyfwng

Mae tîm y Wifren yn gweithio o 9.00 y bore tan 10.00 y nos bob dydd. Os ydych chi'n cael problem cysylltu â S4C ar frys, gallwch gysylltu â'r Wifren ac mi wnânt nhw eu gorau i basio'r neges ymlaen.

Yn enwedig os oes problem cysylltu gyda'r tîm technegol neu MCR y tu hwnt i oriau swyddfa arferol ac ar benwythnosau; gallwch wastad drio'r Wifren.

Cysylltwch â'r Wifren:

gwifren@s4c.cymru

0370 600 4141 (Ni fydd galwadau'n costio mwy na galwad gyfradd genedlaethol i rifau 01 neu 02.)

S4C

Uned 1

Doc Fictoria

Caernarfon

Gwynedd

LL55 1TH

Y Wifren sydd hefyd yn monitro ac yn ateb ymholiadau Twitter a Facebook.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?